Mae hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar unrhyw flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol. Bydd clicio ar enwau'r beirdd yn mynd â chi at eu bywgraffiadau.

1893 John Thomas Job
1894 Humphrey Jones (Bryfdir) 1895 B. Phillips (Myfyrfab) 1896 J. Ilar Davies 1897 Hugh Emyr Davies (Emyr) 1898 E. L. Rowlands (Dyfi) |
Dan nawdd Wesleyaid y dref y cynhaliwyd y gyfres gyntaf o eisteddfodau cadeiriol yn Nhywyn, er y bu eisteddfod cyn hynny mewn cyswllt â'r eglwys. Fe gynhaliwyd llawer o'r cyfarfodydd yn yr Assembly Rooms, a adeiladwyd ym 1893 ger Eglwys Sant Cadfan (uchod).
Yn y blynyddoedd cynnar, arferai Eisteddfod Gadeiriol Tywyn gynnal ei seremoniau gorseddol ei hun, ac roedd yn ddigwyddiad dros ddeuddydd. Un o ffigyrau amlwg y cyfnod hwn oedd Cadvan, a wasanaethai fel 'archdderwydd' yr orsedd honno. Roedd yn siaradwr brwd o blaid dilysrwydd yr Orsedd, a cheir sawl cofnod o'i areithiau tanbaid i bledio'i hachos yn eisteddfodau Tywyn. Fe ddaeth ar ddiwedd ei oes yn Archdderwydd Cymru, er mai am flwyddyn yn unig y bu yn y swydd honno cyn ei farwolaeth.

1893JOHN THOMAS JOB
TREFECA TESTUN ELIAS YN YR OGOF (PRYDDEST) FFUGENW NIFER YN CYSTADLU 14 GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO 7 EBRILL 1893 BEIRNIAD PEDROG IOAN GLAN MENAI LLEOLIAD YN 2020 Anhysbys |
Roedd John Thomas Job, enillydd y gadair yn eisteddfod gadeiriol Tywyn 1893, yn fyfyriwr ar y pryd yng Ngholeg Trefeca.
Cynhaliwyd gorsedd yn yr eisteddfod hon, gyda Cadvan, Wnion, Geufronydd, Gwilym Dyfi, Gwilym o Fôn, Ilar, Talfardd ac eraill yn cymryd rhan.

Y BARDD
Ganed J. T. Job yn Llandybie ym 1867. Roedd yn un o ddisgyblion barddol Watcyn Wyn a chafodd ei addysg yn Ysgol Llandybie a Choleg Trefeca. Bu'n weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Aberdâr, Bethesda (Arfon), ac Abergwaun. Enillodd gadair yr Eisteddfod Genedlaethol deirgwaith a'i choron unwaith. Bu farw ym 1938.
Cofnod J. T. Job yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-JOB0-THO-1867

1894HUMPHREY JONES (BRYFDIR)
BLAENAU FFESTINIOG TESTUN Y LLADDFA YNG NGWERSYLLT YR ASSYRIAID FFUGENW NIFER YN CYSTADLU GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO 27 EBRILL 1894 BEIRNIAD PEDROG LLEOLIAD YN 2020 Anhysbys |
Cynhaliwyd gorsedd yn yr eisteddfod hon dan lywyddiaeth Cadvan, gydag Wnion, Glan Wnion, Talfardd, Gwilym Ardudwy, Gwilym Dyfi a Trebor ymysg y beirdd oedd yn bresennol.
Y BARDD
Ganed Humphrey Jones yng Nghwm Croesor ym 1867. Roedd yn fardd cystadleuol ac yn eisteddfodwr poblogaidd a lwyddodd i ennill ymhell dros hanner cant o gadeiriau. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o'i farddoniaeth - Telynau'r Wawr a Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill. Bu farw ym 1947.
Cofnod Bryfdir yn y Bywgraffiadur Cymreig:
http://yba.llgc.org.uk/cy/c2-JONE-HUM-1867.html

1895B. PHILLIPS (MYFYRFAB)
LLANELLI TESTUN MARWOLAETH SAUL FFUGENW NIFER YN CYSTADLU 20 GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO 26 EBRILL 1895 BEIRNIAD PEDROG LLEOLIAD YN 2020 Anhysbys |
Cadeiriwyd ysgrifennydd yr eisteddfod, Abram Jones, yn absenoldeb yr enillydd.
1896J. DAVIES (ILAR)
TYWYN TESTUN FFUGENW NIFER YN CYSTADLU GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO 24 EBRILL 1896 BEIRNIAD CADVAN IEUAN WNION LLEOLIAD YN 2020 Anhysbys |
Y BARDD
Ganed Hugh Emyr Davies, bardd a gweinidog â'r Methodistiaid Calfinaidd ym Mrynllaeth, Abererch ym 1878. Roedd yn fab i'r bardd Hugh Tudwal Davies (Tudwal). Daeth i amlygrwydd fel bardd eisteddfodol yn gynnar iawn, gan ennill dros ugain o gadeiriau. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith; yng Nghaernarfon ym 1906 ('Branwen ferch Llŷr') a Llangollen ym 1908 ('Owain Glyndŵr). Bu farw ym 1950 yn Llandegfan, Môn.
Cofnod Hugh Emyr Davies yn y Bywgraffiadur Cymreig:
http://yba.llgc.org.uk/cy/c4-DAVI-EMY-1878.html

1898E. L. ROWLANDS (DYFI)
ABERDYFI TESTUN GWAREDIGAETH (PRYDDEST) FFUGENW NIFER YN CYSTADLU 16 GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO 22 EBRILL 1898 BEIRNIAD PEDROG LLEOLIAD YN 2020 Anhysbys |
Eisteddfod 1898 oedd yr olaf yn y gyfres hon o gyrddau yn Nhywyn; nododd y Towyn-on-Sea and Meirioneth County Times ar 5 Ionawr 1899, wrth fwrw golwg yn ôl dros y flwyddyn a fu:
The Towyn Eisteddfod breathed its last as a denominational institution during the year but it is probable that the eisteddfod will be taken up by the town and if so will be worked for the advantage of the town.
Ddiwedd Ebrill 1901, wedyn, cynhaliwyd cyngerdd prawf yn Nhywyn, gyda'r bwriad o godi arian ar gyfer Eisteddfod Ranbarthol y bwriedid ei hail-sefydlu yn yr ardal.

Nid oedd Alfa yn bresennol i gael ei gadeirio, a chadeiriwyd ei gynrychiolydd, y Parch. R. R. Roberts.
Y BARDD
Ganed William Alfa Richards ym 1875. Roedd yn eisteddfodwr pybyr ac yn enillydd nifer helaeth o gadeiriau ar hyd a lled y wlad. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o'i gerddi, Blodau'r Groes (1907) a Clychau'r Wawr (1910). Ei waith mwyaf poblogaidd a chofiadwy yw'r emyn i blant, 'Rwy'n canu fel cana'r aderyn'. Bu farw ym 1931.

1908J. O. JONES (ARIFOG)
PWLLHELI TESTUN A DUW A SYCH YMAITH BOB DEIGR ODDIWRTH EU LLYGAID HWYNT (PRYDDEST) FFUGENW NIFER YN CYSTADLU 14 GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO 17 MEHEFIN 1908 BEIRNIAD BERW LLEOLIAD YN 2020 Anhysbys |
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH PARCH. EVAN ISAAC, MACHYNLLETH [2]
Nid oedd G. T. Levi yn bresennol yn yr eisteddfod i dderbyn ei gadair.
Y Parch. J. D. Richards, a oedd ar y pryd yn weinidog gyda'r Annibynnwyr yn Nhrawsfynydd, oedd enillydd y gadair yn Eisteddfod Tywyn 1910.
Y BARDD
Ganed John Dyer Richards yn Sir Gaerfyrddin ym 1876. Yn dilyn graddio o Goleg Aberhonddu ym 1903, daeth yn weinidog Capel Ebeneser, Trawsfynydd. Bu yn Nhrawsfynydd am 14 mlynedd, gan ddod yn ffrind ac yn fentor i Hedd Wyn, bardd y Gadair Ddu - caiff J. D. Richards ei bortreadu gan Derec Brown yn y ffilm Hedd Wyn. O Trawsfynydd aeth yn weinidog i Fedlinog ac yna i Nanternis, ger Ceinewydd, lle y bu farw ym 1927.
Cofnod J. D. Richards ar WikiTree:
https://www.wikitree.com/wiki/Richards-10936

CYFEIRIADAU
1893
- 'Eisteddfod Gadeiriol Towyn' yn Y Dydd, 14.04.1893
1894
- 'Eisteddfod Gadeiriol Towyn' yn Y Dydd, 04.05.1894
- 'Eisteddfod Gadeiriol Towyn' yn Y Gwyliedydd, 09.05.1894
1895
- 'Eisteddfod Gadeiriol Towyn' yn Y Dydd, 03.05.1895
1896
- 'Eisteddfod Gadeiriol Towyn' yn Y Negesydd, 01.05.1896
1897
- 'Eisteddfod Gadeiriol Towyn' yn Y Negesydd, 30.04.1897
1898
- 'Eisteddfod Gadeiriol Towyn' yn Y Gwyliedydd, 04.05.1898
1899
- 'Towyn in 1898' yn y Meirioneth County Times, 05.01.1899
- 'Towyn-on-Sea' yn y Meirioneth County Times, 02.05.1901
1907
- 'Eisteddfod Gadeiriol Towyn' yn Yr Herald Cymraeg, 25.06.1907
- 'Eisteddfod Gadeiriol Towyn' yn Y Negesydd, 27.06.1907
1909
- 'Eisteddfod Gadeiriol Towyn' yn Yr Herald Cymraeg, 15.05.1909
1910
- 'Eisteddfod Gadeiriol Towyn' yn Yr Herald Cymraeg, 14.06.1910