Diolch i'r canlynol a fu o gymorth mewn amryw ffyrdd wrth roi'r cofnodion ar y dudalen hon at ei gilydd:
David Williams; David Walters, Aberdar;
Mae hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar unrhyw flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol. Bydd clicio ar enwau'r beirdd yn mynd â chi at eu bywgraffiadau.
Cyfeiriadau

1890
1891 William Evans (Artro) 1892 1893 1894 1895 1896 1897 1898 Jonathan Rees (Machreth) 1899 John Owen (Dyfnallt) |
1900
1901 Humphrey Jones (Bryfdir) 1902 1903 1904 Humphrey Jones (Bryfdir) 1905 David Price (Ap Ionawr) 1906 Abraham Thomas 1907 Thomas Davies (Cennech) 1908 Thomas Jones (Llanorfab) 1909 John Dyer Richards |
Cynhelid Eisteddfod Annibynwyr Ffestiniog yn flynyddol ar ddydd Nadolig.
Enillydd y gadair yn Eisteddfod yr Annibynwyr, Ffestiniog, ar ddydd Nadolig 1889, oedd Ben Davies, bardd ifanc oedd ar drywydd i ddod yn un o'r beirdd mwyaf llwyddiannus yn hanes yr Eisteddfod Genedlaethol dros y ddegawd nesaf, pryd y byddai'n cipio cadair a thair coron o fewn pum mlynedd i'w gilydd.
Yn ystod y seremoni, cafwyd cyfarchion barddol gan Gefyn, Pari Huws, Barlwydon, Bryfdir, Glyn Myfyr, D. ap Gutyn a Treborfab.

Y BARDD
Ganed Ben Davies yng Nghwmllynfell ym 1864. Dechreuodd farddoni yn ifanc iawn, a dechreuodd weithio fel glowr yn 13 oed, cyn mynd i astudio yn ysgol baratoi Llansawel ym 1885 ac yna Coleg y Bala. Bu'n weinidog gyda'r Annibynnwyr ym Mwlchgwyn, Llandegla a Phanteg. Enillodd goron yr Eisteddfod Genedlaethol deirgwaith (1892, 1893, 1894), a'i chadair unwaith (1896). Bu farw ym 1937.
Cofnod Ben Davies ar Wicipedia:
https://cy.wikipedia.org/wiki/Ben_Davies

1891WILLIAM EVANS (ARTRO)
DOLGELLAU TESTUN PWY YW A GYFFYRDDODD A MI? (AWDL-BRYDDEST) FFUGENW NIFER YN CYSTADLU 2 GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO 25 RHAGFYR 1900 BEIRNIAID TAFOLOG GWNEUTHURWR LLEOLIAD YN 2022 Anhysbys |
Y BARDD
Ganed John Dyfnallt Owen ym Morgannwg ym 1873, a chafodd ei fagu gan rieni ei dad. Bu'n lowr am gyfnod byr ar ol gadael yr ysgol cyn derbyn addysg yng Nghaerfyrddin ac yna yng Ngholeg Bala-Bangor. Bu'n weinidog yn Nhrawsfynydd, Deiniolen, Pontypridd ac yna Caerfyrddin. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1907, a daeth yn Archdderwydd Cymru ym 1954, swydd a ddaliodd hyd ei farwolaeth ym 1956.
Cofnod Dyfnallt Owen yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c4-OWEN-DYF-1873

Ganed Humphrey Jones yng Nghwm Croesor ym 1867. Roedd yn fardd cystadleuol ac yn eisteddfodwr poblogaidd a lwyddodd i ennill ymhell dros hanner cant o gadeiriau. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o'i farddoniaeth - Telynau'r Wawr a Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill. Bu farw ym 1947.
Cofnod Bryfdir yn y Bywgraffiadur Cymreig:
http://yba.llgc.org.uk/cy/c2-JONE-HUM-1867.html

Enillodd y bardd lleol, Bryfdir, gadair arall yn Eisteddfod Annibynwyr Blaenau Ffestiniog ym 1904 (1901).
Y BARDD
Ganed Humphrey Jones yng Nghwm Croesor ym 1867. Roedd yn fardd cystadleuol ac yn eisteddfodwr poblogaidd a lwyddodd i ennill ymhell dros hanner cant o gadeiriau. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o'i farddoniaeth - Telynau'r Wawr a Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill. Bu farw ym 1947.
Cofnod Bryfdir yn y Bywgraffiadur Cymreig:
http://yba.llgc.org.uk/cy/c2-JONE-HUM-1867.html
Ganed Humphrey Jones yng Nghwm Croesor ym 1867. Roedd yn fardd cystadleuol ac yn eisteddfodwr poblogaidd a lwyddodd i ennill ymhell dros hanner cant o gadeiriau. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o'i farddoniaeth - Telynau'r Wawr a Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill. Bu farw ym 1947.
Cofnod Bryfdir yn y Bywgraffiadur Cymreig:
http://yba.llgc.org.uk/cy/c2-JONE-HUM-1867.html
Y bardd lleol Ioan Dwyryd a gynrychiolai Ap Ionawr yn ei absenoldeb yn Eisteddfod Annibynwyr Ffestiniog 1905. Arweiniwyd seremoni'r cadeirio gan fardd lleol adnabyddus arall, Bryfdir, a chafwyd anerchiadau gan Gwilym Morgan, Dyfrdwy, Cynfa, Glasgoed, Ap Elfyn, Isallt, Llifon (y beirniad) a Bryfdir.
1906ABRAHAM THOMAS
LLANBRYNMAIR TESTUN DECHREU HAF FFUGENW LLYGAD Y DYDD NIFER YN CYSTADLU 17 GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO 25 RHAGFYR 1906 BEIRNIAID DYFNALLT GWNEUTHURWR LLEOLIAD YN 2022 Anhysbys |
Cafwyd sefyllfa go chwithig ac anarferol ynghylch cystadleuaeth y gadair yn Eisteddfod Annibynwyr Blaenau Ffestiniog a gynhaliwyd ar ddydd Nadolig 1906. Y cystadleuydd gorau o gryn dipyn ar y testun 'Dechreu Haf', dan y ffugenw Gorwel Gwyn, oedd neb llai nac R. Williams Parry, a fyddai'n dod i sylw ac enwogrwydd cenedlaethol ymhen rhai blynyddoedd am awdl 'Yr Haf' yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn 1910. Roedd ar y pryd yn athro ysgol 21 oed yn Nhalysarn, ac yn cystadlu am gadair eisteddfodol, hyd y gwyddom, am y tro cyntaf erioed.
Fodd bynnag, gan i Williams Parry yrru ei awdl at yr eisteddfod ddiwrnod wedi'r dyddiad cau, ac i law yr ysgrifennydd, Morris Thomas, yn hytrach na'r beirniad, bu'n rhaid bwrw ei gynnig o'r gystadleuaeth am iddo dorri'r amodau. Dymunai Dyfnallt wobrwyo'r awdl hwyr, ond penderfyniad pwyllgor yr Eisteddfod oedd cadw at y rheolau.
Nid oedd awdur yr awdl ail orau, ac enillydd y gadair, crydd 25 oed o Lanbrynmair o'r enw Abram Thomas, yn bresennol i dderbyn ei wobr -- ac yn wir, nid oedd ei enw yn hysbys tan rai dyddiau wedi'r eisteddfod. Yn ei absenoldeb ac er mwyn y seremoni, cadeiriwyd Robert Griffith, trysorydd yr eisteddfod, yn ei le. Cafwyd haid o gyfarchion i'r bardd buddugol gan Talfor, Silyn, Dewi Mai o Feirion, Ap Elfyn, Gwilym Morgan, Bryfdir, W. Davies, Ap Devon, Hugh Jones, Ioan Dwyryd a'r beirniad, Dyfnallt.
Roedd hon yn gystadleuaeth arwyddocaol hefyd, gan ei bod yn cynnwys ymdrechion gan o leiaf dri o brifeirdd Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol a fyddai'n dod i fri yn ystod y ddegawd nesaf - Williams Parry, wrth gwrs; Gwilym Ceiriog, a mab fferm 19 oed o Drawsfynydd, Elis Humphrey Evans, neu fel y deuid i'w adnabod, Hedd Wyn. Roedd Abram Thomas, yr enillydd, a Hedd Wyn, hefyd yn cynrychioli dau o'r miloedd o Gymry ifanc a fyddai ymhen deng mlynedd ymhlith colledigion y Rhyfel Mawr.

Y GERDD
Awdl o ychydig llai na 200 llinell yw 'Dechreu Haf' gan Abraham Thomas, cerdd swynol ddigon sy'n rhoi darlun meddwol bron o fardd yn gwirioni fod tymor yr haf ar ddychwelyd. Dyfynir y toddaid a'r cywydd sy'n ffurfio'r llinellau agoriadol yma:
Wedi gogoniant adeg y Gwanwyn,
Daw'r Haf a'i ddeiliaid yn dorf i'w ddilyn
A'i riniau, deffry bob bryn a dyffryn;
A chlyw y dolydd ei uchel delyn:
Rhydd ei dwf i erddi dyn,— a thremiad
Bywiol ei gariad i bob blaguryn.
Yr hedydd gâr yr adeg,--
Bore y dyrch i'r wybr deg ;
A gyrr, i'w frwynog orawr,
Alaw wech o deml y wawr.
Ac yn y gwŷdd cân y gog,--
Aeres Anian rosynog:
Ei deunod byr adwaenaf,
Wrthi'i hun ar drothwy haf.
Hedfan wna'r wenol glodfyw,--
Rhag-fynegydd haf-ddydd yw,--
A'i "thwi twi," hen iaith y tês,
Rhan o gân yr hin gynes.
Cyhoeddwyd yr awdl yn ei chyfanrwydd yn rhifyn Awst 1907 Y Geninen Eisteddfodol (tud. 31-32). Gellir cael mynediad ati i'w darllen ar-lein trwy glicio yma.

CERDD GORWEL GWYN
Cyhoeddodd R. Williams Parry ei awdl orau, ond anfuddugol, yn rhifyn Ebrill 1908 Y Geninen (tud. 133-134). Gellir ei darllen yn gyflawn ar-lein trwy glicio yma.
Ceir ymdriniaeth gweddol fanwl o'r gerdd ei hun gan Bedwyr Lewis Jones yn nhrydydd pennod ei gyfrol ar R. Williams Parry yn y gyfres Dawn Dweud (t. 28-31). Fel y dywed ef, canu yn null rhai o awdlau'r ganrif flaenorol y mae drwy lawer o'r awdl, ond bod fflachiadau ynddi yn yr hyn oedd i ddod ymhen cwta bedair blynedd gydag awdl 'Yr Haf'. Sonia hefyd am ddylanwad beirdd oedd rhyw fymryn yn hyn yn yr un ardal - Dyffryn Nantlle - ar y pryd; rhai fel Silyn, oedd yn arloesi gyda'r canu rhamantaidd newydd yn y Gymraeg.

Crydd a bardd o Lanbrynmair oedd Abraham (Abram) Thomas (ganed c.1882). Daeth yn aelod o'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ond canfuwyd pan ymunodd fod ei iechyd yn wael a'i fod wedi cychwyn dioddef o'r diciáu. Bu farw ym Medi 1916 yn Ysbyty Casnewydd, ble'i anfonwyd o'r gwersyll hyfforddi yng Nghroesoswallt i adfer. Roedd yn 34 oed. Llun: Bedd Abram Thomas ym mynwent Cadeirlan Sant Gwynllyw, Casnewydd |
1907THOMAS DAVIES (CENNECH)
TON PENTRE TESTUN FY PHIOL SYDD LAWN (PRYDDEST) FFUGENW NIFER YN CYSTADLU 15 GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO 25 RHAGFYR 1907 BEIRNIAID LLEW TEGID GWNEUTHURWR LLEOLIAD YN 2022 Anhysbys, gwerthwyd mewn arwerthiant gan Rogers Jones & Co., 19 Tachwedd 2022 Lluniau: Rogers Jones & Co. / The Saleroom |
Yn 32ain eisteddfod flynyddol dydd Nadolig Annibynwyr Blaenau Ffestiniog 1907, Tom Davies (Cennech) oedd enillydd y gadair allan o 15 ymgeisydd. Llew Tegid, yr arweinydd eisteddfodol poblogaidd, oedd beirniad y gystadleuaeth.
Yn rhyfeddol ddigon, llwyddodd 'Fy Phiol Sydd Lawn', pryddest gadeiriol Cennech sy'n cymryd ei theitl o Salm 23, i ennill dwy gadair eisteddfodol ar yr un diwrnod - dydd Nadolig 1907. Tra roedd Llew Tegid yn arwain y gynulleidfa trwy rwysg y cadeirio yn mro llechi Ffestiniog, roedd yr un bardd yn cael ei anrhydeddu yn Eisteddfod Gadeiriol Glanaman, yn un o gymoedd glofaol y de.
Yn ystod seremoni'r cadeirio, cyfarchwyd y bardd buddugol gan John Williams (y bardd a'r gorsaf-feistr o Drawsfynydd), Dyfrdwy, Glynor, Dewi Mai o Feirion, Edward Rowlands a'r beirniad a'r arweinydd, Llew Tegid.

Pryddest o oddeutu 200 llinell sy'n ymrannu yn bedwar caniad yw cerdd fuddugol Cennech, sydd ar fesur o gwpledi hir, odledig. Fel y disgwyl o'r testun salmaidd a'r bardd-bregethwr arobryn, cerdd grefyddol yw hon, sy'n archwilio awgrym y dyfyniad a chred yr awdur fod Duw yn darparu ar gyfer anghenion ei ddilynwyr. Y detholiad isod sy'n agor y caniad cyntaf, 'Arlwy a Chan'.
Canu'r wyf, wrth ford fy Arglwydd, emyn enaid dan ei falm,--
Pan fo'r nef yn rhoi ei bendith rhaid i'r delyn roi ei salm.
Hulio'r ford yn ngŵydd fy ngelyn wnaeth y nefoedd i'w chaniedydd,
Tonni attaf mae aberoedd o gysuron dwyfol newydd.
Rhaid i Dduw anghofio'i gantor cyn y palla'r ebyr lifo,--
Rhaid i'r enaid hwnw nychu fetha ganu'r fendith atto.
Mae pob angen, megys euog difwynhad, yn mynd i ffwrdd,
Pan fo'r Llaw sy'n cynal cread cyfan wedi hulio'r bwrdd.
Mae pryderon fyrdd yn dianc dros orwelion fy ngorphenol,
Ac adgofion eu cyfathrach heddyw'n tyfu'n gân ysbrydol.
Cyhoeddwyd pryddest fuddugol Ffestiniog a Glanaman yn rhifyn Awst 1908 o'r Geninen Eisteddfodol, tud. 33-35. Gallwch ei darllen trwy glicio yma.

Y GADAIR
Daeth y gadair hon i'r golwg yn Nhachwedd 2022 fel rhan o un o arwerthiannau creiriau Cymreig rheolaidd cwmni Rogers Jones, Caerdydd. Yn ôl manylion y gadair yn yr arwerthiant, fe'i cafwyd o gasgliad preifat yn Abertawe. Gwerthwyd y gadair am £600 ar 19 Tachwedd 2022. Mae'r gadair wedi ei chreu ar batrwm tebyg iawn i lawer o gadeiriau'r cyfnod at yr un diben, gydag enw'r eisteddfod, plu Tywysog Cymru, y Ddraig Goch a'i harwyddair ('Y Ddraig Goch a ddyry gychwyn) a thestun y gystadleuaeth ('Fy phiol sydd lawn') wedi eu cerfio i'w chefn. Nodir dimensiynau o 121cm (uchder) x 62cm (lled) a 55cm (dyfnder), ac wrth adrodd ar gyflwr y dodrefnyn, dywedir bod 'fair gap to seat panels and split, evidence of old worm, dry and scuffed in places, one arm slightly loose, structurally solid overall'. |
Y BARDD
Bardd-bregethwr poblogaidd oedd Thomas Cennech Davies (1875-1944), a hannai o Langennech yn Sir Gaerfyrddin. Roedd yn frawd hŷn i'r Aelod Seneddol Rhys John Davies (1877-1954). Cyhoeddwyd cyfrol am ei fywyd a'i waith gan David Thomas, Llangennech, ym 1939.

1908THOMAS GRIFFITH JONES (LLANORFAB)
YSTRADFELLTE TESTUN Y CRYD (AWDL) FFUGENW NIFER YN CYSTADLU 13 GWOBR ARIANNOL £3/3/- DYDDIAD CADEIRIO 25 RHAGFYR 1909 BEIRNIAID ELFYN GWNEUTHURWR LLEOLIAD YN 2022 Anhysbys |
Llanorfab, y bardd o ardal Pwllheli a ymgartrefodd yn Ystradfellte ers blynyddoedd, oedd enillydd y gadair yn Eisteddfod Annibynwyr Blaenau Ffestiniog 1908. Nid oedd yn bresennol ar gyfer y seremoni, a chadeiriwyd cynrychiolydd yn ei le.
Y BARDD
Ganed Thomas Jones yn 1868 ym mhlwyf Llannor, ger Pwllheli. Symudodd i Ystradfellte ym 1891, a phriodi yno. Enillodd ei gadair gyntaf yn Eisteddfod Pontsenni ym 1903, ac enillodd Gadair Eisteddfod Lerpwl ym 1909. Fel bardd, y mesurau caeth oedd yn mynd â'i fryd fwyaf. Bu'n gweithio ar ffermydd ac i gwmni dŵr, yn ogystal a gweithio ar ei dyddyn ei hun - Castell Mellte.

Enillydd cadair Eisteddfod Annibynwyr Blaenau Ffestiniog ar ddydd Nadolig 1909 oedd John Dyer Richards, oedd ar y pryd yn weinidog gyda'r Annibynwyr yn Nhrawsfynydd gyfagos.
Y BARDD
Ganed John Dyer Richards yn Sir Gaerfyrddin ym 1876. Yn dilyn graddio o Goleg Aberhonddu ym 1903, daeth yn weinidog Capel Ebeneser, Trawsfynydd. Bu yn Nhrawsfynydd am 14 mlynedd, gan ddod yn ffrind ac yn fentor i Hedd Wyn, bardd y Gadair Ddu - caiff J. D. Richards ei bortreadu gan Derec Brown yn y ffilm Hedd Wyn. O Trawsfynydd aeth yn weinidog i Fedlinog ac yna i Nanternis, ger Ceinewydd, lle y bu farw ym 1927.
Cofnod J. D. Richards ar WikiTree:
https://www.wikitree.com/wiki/Richards-10936

1910IDWAL JONES
PENYGROES TESTUN CEISIO GLOYWACH NEN (PRYDDEST) FFUGENW IFOR O'R GLYN NIFER YN CYSTADLU 17 GWOBR ARIANNOL 3 gini DYDDIAD CADEIRIO 25 RHAGFYR 1910 BEIRNIAD BRYFDIR GWNEUTHURWR LLEOLIAD YN 2022 Anhysbys |
Yn y 36ain eisteddfod ddydd Nadolig dan nawdd Annibynwyr Ffestiniog, Idwal Jones o Benygroes a gipiodd y gadair gyda'i bryddest, 'Ceisio Gloywach Nen'. Bryfdir oedd yn beirniadu ac yn arwain seremoni'r cadeirio, a chafwyd anerchiadau ganddo ef yn ogystal ag Afallon, Glynor, Edward Rowlands, Barlwydon, Caerwyson, Ioan Berwyn, Glyn Myfyr a Dewi Mai o Feirion.
Y BARDD
Roedd Idwal Jones yn fardd o Benygroes a enillodd ei gadair gyntaf yn Eisteddfod Temlwyr Da Penygroes ar y testun 'David Lloyd George'.

CYFEIRIADAU
1889
- 'Eisteddfod Gadeiriol Ffestiniog' yn Baner ac Amserau Cymru, 01.01.1890
1891
- 'Blaenau Ffestiniog' yn Y Cymro, 01.01.1891
1898
- 'Eisteddfodau' yn Y Dydd, 30.12.1898
1899
- 'Eisteddfod Gadeiriol yr Annibynwyr' yn Baner ac Amserau Cymru, 03.01.1900
1904
- 'Ffestiniog' yn Y Negesydd, 07.01.1904
1905
- 'Eisteddfodau'r Nadolig' yn Y Dydd, 29.12.1905
- 'Eisteddfod Nadolig' yn 'Blaenau Ffestiniog a'r Cylchoedd', Baner ac Amserau Cymru, 01.01.1906
1906
- 'Newyddion' yn Y Goleuad, 02.01.1907
- 'Nodion o'r Cylch' yn Y Rhedegydd, 05.01.1907
- 'Cymerodd digwyddiad pur eithriadol ...' ayb., Y Goleuad, 09.01.1907
- 'Eisteddfod Gadeiriol Annibynwyr Ffestiniog' yn Baner ac Amserau Cymru, 09.01.1907
- Bedwyr Lewis Jones, Dawn Dweud: R. Williams Parry (Caerdydd 1997), t.28-31
- Abraham Thomas, 'Dechreu Haf' yn Y Geninen Eisteddfodol, Awst 1907, t.31-32
- R. Williams Parry, 'Dechreu Haf' yn Y Geninen, Ebrill 1908, t. 133-134
1907
- '1907 Welsh Eisteddfod Oak Arm Chair' ar wefan The Saleroom, cyrchwyd 20.11.2022 www.the-saleroom.com/en-gb/auction-catalogues/rogersjones/catalogue-id-rogers10423/lot-73a6eb98-a5cf-4f4d-ae19-af3c00f99857#lotDetails
- 'Eisteddfod Anibynnwyr Ffestiniog' yn The Weekly News, 27.12.1907
- 'Eisteddfod Gadeiriol Ffestiniog' yn Gwalia, 31.12.1907
- Thomas Cennech Davies, 'Fy Phiol Sydd Lawn' yn Y Geninen Eisteddfodol, Awst 1908
1908
- 'Ffestiniog' yn Y Brython Cymreig, 31.12.1908
- 'Eisteddfodau'r Nadolig' yn y Welsh Coast Pioneer, 30.12.1908
1909
- 'Eisteddfod Gadeiriol Ffestiniog' yn Baner ac Amserau Cymru, 29.12.1909
1910
- 'Eisteddfod Gadeiriol Annibynwyr Ffestiniog' yn Y Rhedegydd, 31.12.1910