Mae hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Diolch i'r canlynol a fu o gymorth wrth roi'r cofnodion ar y dudalen hon at ei gilydd:
Nina Jackson
Diolch i'r canlynol a fu o gymorth wrth roi'r cofnodion ar y dudalen hon at ei gilydd:
Nina Jackson
1909 | 1910
Roedd eisteddfod 1909 yn nodi tipyn o adfywiad yng ngweithgarwch Cymreigyddion y Fenni, a fu'n dawedog am rai blynyddoedd. I nodi hynny, cynhaliwyd Gorsedd fawreddog yng Nghastell y Fenni. Fel hyn yr adroddodd y Weekly Mail ar y digwyddiad hynod hwnnw:
One of the chief features in connection with this year's gathering was the holding of a Gorsedd in the historic castle grounds. The Cymreigyddion Order of Bards was revived on Monday, the bards appearing in flowing green robes and square caps. A procession was formed at 8.30 at the Town-hall, and, headed by the town band, marched to the grounds in the following order: - Boys' Territorial Brigade; members of the eisteddfod committee and Cymreigyddion - y - Fenni; aldermen and councillors of the borough of Abergavenny, the Mayor of Abergavenny (Alderman Williams), and the Mayors of Shrewsbury, Merthyr Tydfil, Newport, Monmouth, Leominster, and Brecon.
Eifionydd, cofiadur Gorsedd y Beirdd ar y pryd, oedd arweinydd y digwyddiadau o'r maen llog yng Nghastell y Fenni.
Y GADAIR
Cyflwynwyd y gadair dderw, gwerth £5 - yn ogystal â gwobr ariannol o'r un gwerth - gan Ivor Herbert, Barwn Cyntaf Treowen ac ŵyr Gwenynen Gwent (gweler isod).

Y TESTUN Enillodd Crwys gadair Eisteddfod Cymreigyddion Y Fenni 1909 am gerdd deyrnged i 'Wenynen Gwent', sef y Foniges Augusta Hall, Barwnes Llanofer [1802-1896]. Roedd yn un o noddwyr amlycaf y celfyddydau Cymreig yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yn aml, priodolir adfywiad y 'wisg draddodiadol' Gymreig i fenywod iddi. Roedd yn un o aelodau cynnar cymdeithas nodedig Cymreigyddion Y Fenni a bu'n rhan o sefydlu cylchgrawn Y Gymraes, y cylchgrawn Cymraeg cyntaf i fenywod. Roedd yn ddirwestwr pybyr, mater y bu'n ymgyrchu drosto yn ddiwyd. Roedd wyres Gwenynen Gwent, Fflorens Herbert, hefyd yn bresennol yn Eisteddfod 1909; roedd yn rhan o'r seremoni a hi oedd yn gyfrifol am arwisgo Crwys yn brifardd yr ŵyl. |
Y BARDD Ganed y Prifardd William Crwys Williams ym 1875 yng Nghraig-cefn-parc. Roedd yn bregethwr ac yn fardd eisteddfodol amlwg. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol deirgwaith; ym 1910 ('Ednyfed Fychan'), ym 1911 ('Gwerin Cymru') ac ym 1919 ('Morgan Llwyd o Wynedd'). Fodd bynnag, fe'i cofir am ei delynegion adnabyddus yn fwy na'i bryddestau eisteddfodol - cerddi fel 'Dysgub y Dail' a'r 'Border Bach'. Bu farw ym 1968. Cofnod Crwys yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c4-WILL-WIL-1875 |
Crwys enillodd Gadair Cymreigyddion y Fenni am yr eildro yn olynol (Eisteddfod Cymreigyddion y Fenni 1909) yn eisteddfod 1910, blwyddyn ennill ei Goron Genedlaethol gyntaf.
Mae'n debyg y bu rhywfaint o siom yn bwrw'i gysgod dros yr eisteddfod hon, gan i'r Fenni, o gwmpas yr adeg yma, fethu â denu Eisteddfod Genedlaethol 1911 i'r ardal (dewisiwyd Caerfyrddin yn ei lle). Fodd bynnag, ni fyddai'n rhaid i'r Fenni aros yn hir, gan mai yno y cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol 1913.

- The Cardiff Times, 17.04.1909
- The Merthyr Express, 17.04.1909
- Y Brython Cymreig, 31.03.1910
- The Evening Express, 28.03.1910
- The Merthyr Express, 17.04.1909
- Y Brython Cymreig, 31.03.1910
- The Evening Express, 28.03.1910