Diolch i'r canlynol a fu o gymorth wrth roi'r cofnodion ar y dudalen hon at ei gilydd:
Catherine Mary Hughes
Mae hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol.
1906 | 1909 | 1910 | 1914

Cynhaliwyd Eisteddfod y Rhos 1906 yn Ysgol Llidiardau ar nos Fawrth Ynyd 1906; John Owen, ffermwr lleol, oedd enillydd y gadair am bryddest.
Hyd y gwelaf fi, dyma'r gadair eisteddfodol gyntaf i Cybi ei hennill. Roedd eisteddfod Y Rhos ar ddiwedd Chwefror 1909, ac enillodd ddwy gadair arall yn ystod y flwyddyn; cadair eisteddfod Pwllheli ym mis Awst, a chadair Nefyn ar y testun ‘Daeargryn’ ym mis Tachwedd. Awgryma Eifion Wyn mewn llythyr ato yn ystod helynt cadair Criccieth y flwyddyn ganlynol y byddai wedi ennill ei bedwaredd cadair pe bai wedi canu pryddest yn hytrach na awdl.
YR EISTEDDFOD
Eisteddfod 1909 oedd y bumed eisteddfod ar hugain yn y gyfres boblogaidd a gafwyd yn y Rhos. O dan y pennawd 'EISTEDDFOD ARIANNAIDD', dyma'r Herald Cymraeg ar yr ail o Fawrth yn rhoi darlun i ni o'r digwyddiadau:
...tywydd teg, cynnulliadau lluosog, cynnyrchion rhagorol – buwyd yn dathlu mewn rhwysg yr eisteddfod uchod, wedi cyrhaedd ohoni 25 mlwydd oed...yr oedd yr anerchiadau barddol fel ser gwibiog, yn britho y cyfarfod. Mawr ganmolid Eos y Berth am chwareu’r delyn. Rhoddwyd bodlonrwydd cyffredinol yn y gwahanol adranau. Hyderwn y ca sylwadau llywydd y prydnawn ar ddarllen gweithiau beirdd Lleyn sylw dyladwy.

Y SEREMONI
Elfed oedd beirniad cystadleuaeth y gadair. Nid oedd yn bresennol yn yr eisteddfod, ac yn fwy na thebyg byddai Bugeilfardd (‘archdderwydd’ blynyddol a phoblogaidd eisteddfod Y Rhos, Mr R. W. Griffith) wedi darllen ei feirniadaeth i’r gynulleidfa. Roedd deg o feirdd wedi ymgeisio am y wobr, ond y sawl oedd yn dwyn y ffugen ‘Taliesin’ aeth a hi. Yn ol Gwalia ar y cyntaf o Fawrth:
‘Cyrchwyd i’r llwyfan gan Rhosfab a Ianto, a chadeiriwyd mewn rhwysg, o dan arweiniad yr ardderwydd, Bugeilfardd. Cafwyd anerchiadau barddonol gan y beirdd, a chanwyd can y cadeirio gan Mr H. Vaughan Davies.’

Y GADAIR
Mae’r gadair ei hun, sydd bellach wedi dychwelyd i Neuadd Rhoshirwaun ac yn un o blith nifer sydd yn addurno’r llwyfan yno, yn un tebyg iawn o ran ei fframwaith i gadeiriau Hebron Llŷn 1923, ac Eisteddfod Llafur Llŷn 1924. Awgryma hyn o bosib mai’r un crefftwr neu gwmni oedd yn gyfrifol am eu gwneuthuriad – yn adeiladu’r un ffram sylfaenol bob tro ond yn amrywio’r addurniadau ar y cefn. Mae cefn cadair Cybi o 1909 yn un eithaf anarferol. Mae’r cefn yn dod i bigyn gyda’r gair ‘Eisteddfod’ yn esgyn a disgyn o dan y Nod Cyfrin. Mae’r ddraig yn symbol arferol ar gadeiriau’r cyfnod, ond yn sicr y peth mwyaf gwahanol yw'r cerfiadau o eifr - peth lled anghyffredin mewn cadeiriau o eisteddfodau lleol.

Y GERDD
Gellir darllen penillion Cybi i 'Lan y Môr' yn ei gyfrol Gwaith Barddonol Cybi - Cyfrol 1 (Ni esgorodd y teitl gobeithiol hwn ar ail gyfrol o gerddi, gyda'r gwaith yn troi ei olygon at ei weithiau pwysicaf, sef astudiaethau ar waith Beirdd Eifionydd ac eraill). Yn y gyfrol hon gellir gweld rhai o'i bryddestau cadeiriol eraill (hyd at 1912), a thoreth o weithiau barddonol eraill. Mae'n deg dweud nad Cybi ar ei ddisgleiriaf yw 'Lan y Môr'. Mae'n dechrau fel hyn:
Mae’r tywod mor felyn,
Mae’r awel mor grai,
Lle cyrcha y plentyn
Bryd llanw a thrai;
Lle cyfyd ei gestyll –
I syrthio yn gandryll –
ar lan y môr.

Y BARDD
Ganed Robert Evans yn Llangybi ym 1871, ac yn yr ardal honno y bu'n byw gydol ei oes. Roedd yn fardd, yn sgrifennwr ac yn llyfrwerthwr. Roedd yn dra cynhyrchiol. Meddai Colin Gresham amdano yn y Bywgraffiadur Cymreig - 'nid oes mynwent yn Eifionydd nad oes yno englyn neu doddaid o'i waith'. Cyhoeddodd bron i ddeg ar hugain o gyfrolau o bob math. Bu farw ym 1956, yn 84 oed.
Cofnod Cybi yn y Bywgraffiadur Cymreig:
http://yba.llgc.org.uk/cy/c4-EVAN-ROB-1871.html

ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH CENIN, PWLLHELI [6];
Noda adroddiad Yr Udgorn ar 4 Mawrth 1914 mai hon oedd y nawfed ar hugain o eisteddfodau'r Rhos. Arweiniwyd seremoni'r cadeirio gan Bugeilfardd, gyda'r Parch. Arthur Davies yn datgan cân y cadeirio. Nid oedd y bardd ei hun yn bresennol, a chadeiriwyd ei gynrychiolydd yn ei le. Dynfal, Llangollen, oedd yn fuddugol am englyn ar y testun 'Delfryd'.
Mae colofn Pwllheli yn Yr Udgorn ar 25 Mawrth yn nodi mai Cenin, un o feirdd y dref, oedd yn chweched o'r 22 a ymgeisiodd. Nodir hefyd mai tair awdl a dderbyniwyd i'r gystadleuaeth, ac mai eiddo Cenin oedd yr orau o'r tair - 'mae wedi ei chynllunio'n deg, a'i gweithiad allan yn dda', yn ôl y beirniad, Abon.

CYFEIRIADAU
1906
- 'Rhoshirwaen' yn Yr Herald Cymraeg, 06.03.1906
1909
- 'Eisteddfod Rhoshirwaen' yn Gwalia, 01.03.1909
1910
- 'Pwllheli' yn The Cambrian News and Welsh Farmers' Gazette, 01.07.1910
1914
- 'Rhoshirwaen' yn Yr Herald Cymraeg, 03.03.1914
- 'Rhoshirwaen' yn Yr Udgorn, 04.03.1914
- 'Pwllheli' yn Yr Udgorn, 25.03.1914