Mae hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar unrhyw flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol. Bydd clicio ar enwau'r beirdd yn mynd â chi at eu bywgraffiadau.

2010
2011 2012 2013 2014 2015 2016 2017 2018 2019 Ni chynhaliwyd eisteddfod |
Y BARDD
Cyn-lyfrgellydd o Dremadog yn wreiddiol yw Dafydd Guto Ifan, ac mae bellach yn byw yn Llanrug, Arfon. Enillodd ddegau lawer o gadeiriau mewn eisteddfodau lleol a thaleithiol.

Cadair Dyffryn Conwy 2009 oedd y 47ain i Dafydd Guto Ifan o Lanrug ei hennill.
Y BARDD
Cyn-lyfrgellydd o Dremadog yn wreiddiol yw Dafydd Guto Ifan, ac mae bellach yn byw yn Llanrug, Arfon. Enillodd ddegau lawer o gadeiriau mewn eisteddfodau lleol a thaleithiol.
Cyn-lyfrgellydd o Dremadog yn wreiddiol yw Dafydd Guto Ifan, ac mae bellach yn byw yn Llanrug, Arfon. Enillodd ddegau lawer o gadeiriau mewn eisteddfodau lleol a thaleithiol.
2019-21
Ni chynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Conwy yn 2019 oherwydd cynnal Eisteddfod Genedlaethol Cymru ar gyrion Llanrwst, yn Nyffryn Conwy, y flwyddyn honno.
Yn 2020 a 2021, ni chynhaliwyd yr eisteddfod oherwydd y pandemig COVID-19.

Cynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Conwy am y tro cyntaf mewn pedair blynedd (2018) yn 2022, ac enillydd y gadair oedd Gaenor Mai Jones o Bentre'r Eglwys, Rhondda Cynon Taf.
Seremoni'r cadeirio: Bardd y gadair gyda'r beirniad, John Hywyn.
Llun: Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Conwy

Y GERDD
Cerdd rydd o bron i gan llinell yw 'Pryderon', a'r gefnlen iddi yw trychineb glofa Gresffordd, ger Wrecsam, ar Fedi 22 1934. Lladdwyd 266 o ddynion yn un o'r damweiniau glofaol gwaethaf yn hanes Prydain, gyda thystiolaeth yn awgrymu fod methiannau mewn gweithdrefnau diogelwch a rheolaeth wael o'r pwll yn ffactorau a gyfrannodd at y digwyddiad. Mae'r gerdd wedi'i hysgrifennu o safbwynt bachgen ysgol yn ardal y pyllau glo, ac yn cyfosod heriau ei fywyd fel plentyn a'r heriau sy'n wynebu ei gymuned yn ehangach. Yn dolennu trwy'r darn mae ei ymdrechion i ddysgu adnod o'r Beibl: 'Yr Hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf a erys yng nghysgod yr Hollalluog.'
Dywedodd John Hywyn yn ei feirniadaeth fod dwy gerdd yn gwthio i'r blaen o'r 11 a ymgeisiodd - 'y naill yn awdl gan Fesur Cam, a'r llall yn gerdd rydd o eiddo Getta Mai..., cerdd atgofus o fywyd a threialon magwraeth yn ardal y pyllau glo. Ceir yma gynildeb mynegiant a rhythmau hyfryd. Mae'r llif yn wefreiddiol a'r dweud plaen yn dwyllodrus o syml, sydd wastad yn awgrymu rhagor. Roedd hi'n dynn iawn ...'
Gellir darllen y gerdd yn ei chyfanrwydd yn Barddas, rhif. 354, Haf 2022.

Daw Gaenor Mai Jones o Geredigion yn wreiddiol. Bu'n swyddog ac yn nyrs dros fisoedd yr haf yng ngwersyll yr Urdd, Llangrannog am yn agos i hanner canrif. Hi oedd noddwr y Goron yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019, er cof am ei rhieni.
Erthygl ar BBC Cymru Fyw: www.bbc.co.uk/cymrufyw/48337189

CYFEIRIADAU
2005
- 'Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Conwy, Llanrwst' yn The Daily Post, 21.06.2005; cyrchwyd ar-lein 25.07.2022
(www.thefreelibrary.com/Eisteddfod+Gadeiriol+Dyffryn+Conwy%2C+Llanrwst.-a0133453937)
2009
- 'Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Conwy' yn The Daily Post, 22.06.2009, cyrchwyd ar-lein 25.07.2022 (www.thefreelibrary.com/EISTEDDFOD+GADEIRIOL+DYFFRYN+CONWY.-a0202177566)
2022
- 'Pryderon' yn Barddas, rhif. 354, Haf 2022, tud. 56-57