Atgyfodwyd eisteddfod yng Nghwmystwyth yn 2015 wedi hanner canrif heb i eisteddfod gael ei chynnal yn y plwyf. Gweledigaeth Dr. Meredydd Evans oedd ail-godi'r eisteddfod, er na fu iddo fyw i weld ffrwyth ei lafur. Bu'n lywydd anrhydeddus yr eisteddfod hyd ei farwolaeth yn Chwefror 2015. Ef a osododd destun y gadair ym mlwyddyn gyntaf yr eisteddfod, ac yn briodol iawn, cerdd er cof amdano a'i henillodd. |
Cynhelir yr eisteddfod yng Nghapel Presbyteraidd Siloam, Cwmystwyth. Eisteddfod undydd ydyw. Cyflwynir y gadair gan amlaf am gerdd heb fod dros 60 llinell ar destun gosodedig.
Y GERDD
Dilynwch y ddolen isod i glywed y bardd yn darllen ac yn trafod y gerdd fuddugol ar Radio Beca:
https://audioboom.com/posts/3684397-terfynau-cerdd-y-gadair-yn-eisteddfod-cwmystwyth-2015

Y GADAIR
Gwneuthurwr y gadair er cof am y diweddar Ddr. Meredydd Evans yn 2015 oedd Hedd Bleddyn o Benegoes, a fyddai'n ennill cadair Eisteddfod Gadeiriol Cwmystwyth ei hun, maes o law [2018]. Defnyddiodd lechen o Flaenau Ffestiniog i gynrychioli bro enedigol Merêd, a phlwm i gynrychioli gweithfeydd mwynau Cwm Ystwyth. O bren derw y gwnaed corff y gadair.

2017
DR. ISLWYN EDWARDS
ABERYSTWYTH
TESTUN LLIW/LLIWIAU
FFUGENW
NIFER YN CYSTADLU 13
DYDDIAD CADEIRIO 16 MEDI 2019
BEIRNIAD ARWEL 'ROCET' JONES
GWNEUTHURWR Y GADAIR RICHIE JENKINS, FFAIR RHOS
LLEOLIAD YN 2017
YM MEDDIANT Y BARDD

O'R WASG
Roedd seremoni’r cadeirio yn nwylo medrus Elen Lewis. Testun cerdd y gadair oedd “Lliw/Lliwiau” ac ymgeisiodd 13 amdani.
Y bardd buddugol oedd Dr Islwyn Edwards, Aberystwyth, ond o Ffair Rhos yn wreiddiol. Cyflwynwyd y gadair iddo gan Mair Jenkins, Ffair Rhos. Richie, ei gwr oedd wedi gwneud y gadair dderw hardd gan ddilyn patrwm cadeiriau eisteddfodol y gorffennol, ond yn anffodus oherwydd anhwylder ni fedrai fynychu’r eisteddfod. Dafydd Morris-Jones, Ysbyty Cynfyn seiniodd y corn gwlad a chyfarchwyd Islwyn gan Selwyn Jones o’r Bont. Cyrchwyd y bardd gan Lynne Davies a Gladys Morgan a chanwyd Cân y Cadeirio gan Guto Lewis, Llanon.
(Cambrian News, 17 Hydref 2017)

2018
HEDD BLEDDYN
PENEGOES
TESTUN CRWYDRO
FFUGENW
NIFER YN CYSTADLU 18
DYDDIAD CADEIRIO 15 MEDI 2019
BEIRNIAID JOHN MEURIG EDWARDS
GWNEUTHURWR Y GADAIR ALUN JENKINS, PONTARFYNACH
LLEOLIAD YN 2018
YM MEDDIANT Y BARDD
PENEGOES
TESTUN CRWYDRO
FFUGENW
NIFER YN CYSTADLU 18
DYDDIAD CADEIRIO 15 MEDI 2019
BEIRNIAID JOHN MEURIG EDWARDS
GWNEUTHURWR Y GADAIR ALUN JENKINS, PONTARFYNACH
LLEOLIAD YN 2018
YM MEDDIANT Y BARDD
O'R WASG
Roedd seremoni’r cadeirio yn nwylo medrus Elen Lewis. Testun cerdd y gadair oedd 'Crwydro' ac ymgeisiodd deunaw amdani.
Y bardd buddugol oedd Hedd Bleddyn, Penegoes ond yn wreiddiol o Lanbrynmair.
Dywedodd am ei gerdd “Lluniais y gerdd hon fel petai Brython fy mrawd yng nghyfraith a fagwyd yn y Cwm ac a ddaeth yn ôl yn ei ymddeoliad a dod o dan ddylanwad Merêd wedi ei chyfansoddi am Gwmystwyth.”
Alun Jenkins o Bontarfynach oedd gwneuthurwr y gadair fechan hardd gyflwynodd y gadair i Hedd.
Cyfansoddwyd penillion i gyfarch y bardd buddugol gan Dr Islwyn Edwards y bardd cadeiriol llynedd ond am ei fod yn methu bod yn bresennol fe’i cyfarchiwyd gan Aled Evans.
Cyrchwyd y bardd gan Mair Jones a Swyn Melangell Hughes.
(Cambrian News, 16 Hydref 2018)

Enillodd Morgan Owen y gadair â cherdd am ei fro enedigol, Merthyr Tudful. Gallwch glywed y bardd yn darllen y gwaith isod:
Morgan Owen yn trafod ei gerdd fuddugol gyda gohebwyr Bro360:
Y GADAIR
Gwnaed y gadair o haearn gan grefftwr lleol, Dylan Lewis. Roedd hyn yn arbennig o addas dan yr amgylchiadau, gan fod y bardd buddugol yn trafod ei fro enedigol yn y gerdd - sef tref Merthyr Tudful, ardal yr arferai gwaith haearn fod yn rhan mawr o'i diwydiant.
Y BARDD
Daw Morgan Owen (g. 1994) o Ferthyr Tudful yn wreiddiol. Mae'n fardd, yn awdur ac yn ddramodydd. Cyhoeddodd ddwy gasgliad o farddoniaeth hyd yma, sef moroedd/dŵr (2019) a Bedwen ar y lloer (2019). Mae ei waith yn aml yn archwilio lleoliadau daearyddol fel cyfrwng i fynegi profiadau dynol, yn enwedig yng nghyd-destun ei fro enedigol yng Nghymoedd y De. Darllenwch gofnod Morgan Owen ar Wicipedia yma |