Diolch i'r canlynol a fu o gymorth wrth roi'r cofnodion ar y dudalen hon at ei gilydd:
Rhys Morgan Llwyd; Carwyn Owen, Y Trallwng;
Mae hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar unrhyw flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol. Bydd clicio ar enwau'r beirdd yn mynd â chi at eu bywgraffiadau.
Cyfeiriadau

1890
1891 1892 John Edwards (Meiriadog) 1893 H. Gwynedd Hughes 1894 William E. Jones (Penllyn) 1895 William E. Jones (Penllyn) [2] 1896 Eliseus Williams (Eifion Wyn) 1897 Ni chynhaliwyd eisteddfod 1898 Ni chynhaliwyd eisteddfod 1899 Henry R. Parry (Bwlchydd Môn) |
1910 Thomas Owen Jones
1911 Llwydiarth Môn 1912 1913 J. D. Richards 1914 Richard Hughes 1915 1916 1917 1918 1919 |
1920
1921 Richard Hughes 1922 Richard Hughes 1923 David Jerman 1924 D. E. Jones 1925 Joseph Harry 1926 J. M. Edwards 1927 Edgar Phillips (Trefin) 1928 Neb yn deilwng 1929 David E. James (Dewi Emrys) |
1930 Rhosier
1931 Richard Hughes 1932 Rolant Jones (Rolant o Fôn) 1933 Evan Jenkins 1934 Neb yn deilwng 1935 E. David Jones 1936 Meredydd Roberts 1937 1938 1939 Ni chynhaliwyd eisteddfod |
1940 Ni chynhaliwyd eisteddfod
1941 Ni chynhaliwyd eisteddfod 1942 Ni chynhaliwyd eisteddfod 1943 Ni chynhaliwyd eisteddfod 1944 Ni chynhaliwyd eisteddfod 1945 Ni chynhaliwyd eisteddfod 1946 1947 Gerallt Davies 1948 James Arnold Jones 1949 Ieuan Odwyn |
1950 John Evans
1951 T. Llew Jones 1952 Sioned Penllyn 1953 1954 1955 Dafydd Jones 1956 Iorwerth Lloyd 1957 James Jones 1958 O. M. Lloyd 1959 Emrys Deudraeth |
1960 Emrys Deudraeth [2]
1961 Dafydd Jones 1962 Gerallt Jones 1963 Huw Llywelyn Williams 1964 Emrys Deudraeth [3] 1965 1966 W. J. Gruffydd (Elerydd) 1967 1968 Arthur Williams 1969 Gerallt Lloyd Owen |
1970
1971 Arthur Williams 1972 Geraint Lloyd Owen 1973 Eirwyn George 1974 T. James Jones (Jim Parc Nest) 1975 Gerallt Lloyd Owen [2] 1976 Huw Ceiriog 1977 Iorwerth Jones 1978 1979 Elwyn Edwards |
1980
1981 Neb yn deilwng 1982 Ieuan Wyn 1983 Peredur Lynch 1984 Robert Powell 1985 John Gruffydd Jones 1986 Vernon Jones 1987 Eurion John 1988 R. H. Jones 1989 Henry Hughes (Llawenog) |
1990 T. Gwynn Jones
1991 Neb yn deilwng 1992 R. O. Williams 1993 John Pinion Jones 1994 Machraeth 1995 Hilma Lloyd Edwards 1996 R. H. Jones 1997 J. R. Jones 1998 Dylan Edwards 1999 Penri Roberts |
2000 Huw Evans
2001 2002 Hilma Lloyd Edwards [2] 2003 Ni chynhaliwyd eisteddfod 2004 Hilma Lloyd Edwards [3] 2005 Geraint Lloyd Owen [2] 2006 Tegwyn Jones 2007 Dafydd Guto Ifan 2008 Dafydd Guto Ifan [2] 2009 Robin Hughes |
2010 Gareth Rowlands
2011 Gareth Williams 2012 Hedd Bleddyn 2013 Karina Wyn Dafis 2014 Anwen Pierce 2015 Ni chynhaliwyd eisteddfod 2016 Anwen Pierce [2] 2017 Ni chynhaliwyd eisteddfod 2018 Karina Wyn Dafis [2] 2019 Huw Dylan Owen |
I ddarllen hanes cynhwysfawr Eisteddfod Powys ers ei dechreuadau, mynnwch gopi o Y Chwaer Hynaf: Hanes Eisteddfod Cymrodoriaeth Talaith a Chadair Powys, cyfrol Huw Ceiriog a gyhoeddwyd yn 2020.
CADEIRIAD MEIRIADOG YM MEIFOD
Y bardd hwn pybyr ei ddoniau - heddyw
Gyhoeddwyr yn orau;
Eres ŵr all fedrus wau
Hir hoedlog gywir awdlau.
- R. INGRAM, Bedlinog
(Baner ac Amserau Cymru, 14.12.1892)
Y bardd hwn pybyr ei ddoniau - heddyw
Gyhoeddwyr yn orau;
Eres ŵr all fedrus wau
Hir hoedlog gywir awdlau.
- R. INGRAM, Bedlinog
(Baner ac Amserau Cymru, 14.12.1892)
Y BARDD
Ganed Meiriadog yn Llanrwst ym 1813. Cafodd ei addysg yno cyn dysgu ei grefft fel argraffydd. Yn Llanfaircaereinion y bu'n byw am fwyafrif helaeth ei oes, er iddo dreulio cyfnodau yng Nghefn Mawr, Caerdydd a Merthyr Tudful. Roedd yn awdurdod ar y Gymraeg a'i barddoniaeth yn ystod ei oes, ac yn fardd lluosog ei lawryfon. Bu farw ym 1906, yn 93 oed.
Gallwch ddarllen cofnod Meiriadog yn Y Bywgraffiadur Cymreig yma.

1894
|
Enillodd Penllyn ei drydedd cadair eisteddfodol, a'i gyntaf o ddwy yn olynol yn Eisteddfod Powys, ym 1894.
Y BARDD
Ganed Penllyn yn Ffridd Gymen ger Y Bala ym 1854. Roedd yn fardd eisteddfodol amlwg ac yn weinidog gyda'r Annibynnwyr. Treuliodd fwyafrif ei yrfa yn gweinidogaethu yn eglwys Ebeneser yn Hen Golwyn, a bu'n olygydd ar Y Caniedydd Cynlleidfaol Newydd a gyhoeddwyd ym 1921. Bu farw ym 1938.

Cynhaliwyd Eisteddfod Talaith a Chadair Powys 1895 mewn pabell fawr ym mharc Castell Powys, Y Trallwm. Nodwyd yn ystod yr wyl mai dyma'r eisteddfod gyntaf a gynhaliwyd yn y Trallwm ers 1824.
Enillodd Penllyn ei bedwaredd cadair eisteddfodol, a'i ail yn olynol. Llun: Castell Powys, Alexander Forst-Rakoczy trwy Wikimedia Commons |
Tudno a ddewiswyd yn wreiddiol fel beirniad y farddoniaeth, ond bu farw fis mai 1895, gwta fis cyn yr eisteddfod, yn dilyn gwaeledd; Anthropos fu'n cloriannu gwaith y beirdd o'r llwyfan.
Ceir adroddiad yn Y Genedl Gymreig o'r modd y croesawyd Penllyn yn ol i Golwyn yn dilyn ei fuddugoliaeth:
Aeth y seindorf a thyrfa fawr i'w gyfarfod i'r orsaf at y tren olaf. Rhoed y bardd ar y gadair, a rhai cyfeillion mewn cerbyd, ac aed yn orymdaith o'r orsaf hyd derfyn eithaf y lle, ac yn ol i gartref y bardd, pryd y diolchodd Penllyn yn gynes i'r seindorf am y derbyniad cynes ac annysgwyliadwy a gafodd ar ei ddyfodiad yn ol. Yna aeth pawb i'w ffordd ei hun yn llawen.
Aeth y seindorf a thyrfa fawr i'w gyfarfod i'r orsaf at y tren olaf. Rhoed y bardd ar y gadair, a rhai cyfeillion mewn cerbyd, ac aed yn orymdaith o'r orsaf hyd derfyn eithaf y lle, ac yn ol i gartref y bardd, pryd y diolchodd Penllyn yn gynes i'r seindorf am y derbyniad cynes ac annysgwyliadwy a gafodd ar ei ddyfodiad yn ol. Yna aeth pawb i'w ffordd ei hun yn llawen.
Y BARDD
Ganed Penllyn yn Ffridd Gymen ger Y Bala ym 1854. Roedd yn fardd eisteddfodol amlwg ac yn weinidog gyda'r Annibynnwyr. Treuliodd fwyafrif ei yrfa yn gweinidogaethu yn eglwys Ebeneser yn Hen Golwyn, a bu'n olygydd ar Y Caniedydd Cynlleidfaol Newydd a gyhoeddwyd ym 1921. Bu farw ym 1938.
Ganed Penllyn yn Ffridd Gymen ger Y Bala ym 1854. Roedd yn fardd eisteddfodol amlwg ac yn weinidog gyda'r Annibynnwyr. Treuliodd fwyafrif ei yrfa yn gweinidogaethu yn eglwys Ebeneser yn Hen Golwyn, a bu'n olygydd ar Y Caniedydd Cynlleidfaol Newydd a gyhoeddwyd ym 1921. Bu farw ym 1938.
1896
|
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH BRYFDIR,
Hon, mae'n debyg, oedd y gadair olaf o saith i Eifion Wyn eu hennill mewn eisteddfodau lleol a thaleithiol. (Noder fod peth dryswch ynghylch cadair Pwllheli 1905). Yn ôl Peredur Wyn Williams, mab Eifion Wyn, yn ei gofiant i'w dad:
Teimlai ei fod bellach wedi ennill digon o gadeiriau i brofi ei allu, ac i sefydlu ei enw fel bardd cydnabyddedig, a gwnaeth benderfyniad i beidio â chystadlu wedyn mewn eisteddfodau lleol a thaleithiol, er mwyn rhoi cyfle i feirdd ieuainc eraill i ennill llawryfon.

Y GERDD
Pryddest ar destun 'Esgyniad y Cymro' oedd y gerdd fuddugol, ymddengys, er mai awdl 'Y Merthyr' ydoedd yn ôl cofiant Peredur Wyn Williams.
Cyhoeddwyd beirniadaeth Dyfed a Llawdden ar y chwe phryddest a ddaeth i law yn Baner ac Amserau Cymru ar 24 Mehefin. Dyma eu sylwadau ar gerdd fuddugol Eifion Wyn:
Pryddest feddylgar a hollol ddirodres yw hon. Nid yw y bardd yn cerdded yr un llwybrau a phawb; ac am hyny, ceir llawer o newydd-deb yn ei gân. Y mae fel dyn yn ddibris o swyn a thlysni arwynebedd y ddaear, ac yn treiddio i lawr i chwilio am drysorau anweledig. Cana yn gryf, mewn arddull Gymreig, a theimlir fod graddau helaeth o ddeffroad cenedlaethol Cymru yn anadlu yn ei gân. Y mae yna rai llinellau ag y gallesid eu tacluso yn well, ac ambell syniad ag y gallesid ei osod allan i well mantais; ond ag edrych ar y bryddest yn ei chyfanswm, nid oes ammheuaeth nad yw yn rhagori ar bob un o'r lleill. Y mae yn gryfach, yn ddyfnach, ac yn fwy Cymreig, ac yn myned i fewn yn mhellach i ganol y pwngc. Gan hyny, ganddo ef y mae hawl gyfreithlawn i eistedd yn nghadair farddol Powys yn y flwyddyn 1896.
Gallwch ddarllen y feirniadaeth yn ei chrynswth yma.

Y GADAIR
Enillydd y gystadleuaeth am y gadair dderw gerfiedig orau, fel yn y Trallwm y flwyddyn flaenorol, oedd Thomas Humphreys, gwneuthurwr dodrefn o Gaernarfon. Cafodd wobr o chwe gini am ei gamp, a daeth ei gadair fuddugol yn eiddo i bwyllgor yr eisteddfod a'i cyflwynodd i'r bardd buddugol.

Ganed Eifion Wyn ym Mhorthmadog ym 1867, ac yn ardal y dref honno y bu'n byw a gweithio ar hyd ei oes. Bu'n fardd cystadleuol llwyddiannus (ef sy'n dal y record am ennill cystadleuaeth yr englyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol y mwyaf o weithiau, a bu ond y dim iddo gipio'r Gadair ym 1901, pryd y credai llawer iddo gael cam). Daeth yn enwog am ei delynegion, a'i gyfrol hynod boblogaidd, Telynegion Maes a Môr. Derbyniodd radd M.A. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru ym 1919. Bu farw ym 1926, a'i gladdu ym mynwent Chwilog. Llun: Telynegion Maes a Môr Cofnod Eifion Wyn yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-WILL-ELI-1867 |
1897-98
Bu Eisteddfod Powys 1896 yn llwyddiant ysgubol o ran y cystadlu a'r cynulleidfaoedd, ond yn dilyn colledion ariannol trwm yn ei sgil, ni chynhaliwyd eisteddfod daleithiol arall nes 1899; ailgodwyd yr eisteddfod gydag arian oedd dros ben o Eisteddfod Powys Llanfyllin 1893, wrth iddi ddychwelyd i'r un pentref unwaith eto. Ceir darllen pellach ar hyn yn y gyfrol fanwl ar hanes yr eisteddfod, Y Chwaer Hynaf: Hanes Eisteddfod Cymrodoriaeth Talaith a Chadair Powys gan Huw Ceiriog (2020).
1899
|
Eisteddfod Powys 1899 oedd y gyntaf mewn tair blynedd, gan na chynhaliwyd yr ŵyl ym 1897 na 1898, oherwydd trafferthion ariannol, mae'n debyg. Dychwelodd yr eisteddfod i Lanfyllin ym 1899, diolch i arian oedd dros ben ers y tro blaenorol iddi gael ei chynnal yno, ym 1893.
Nid oedd Henry Parry yn bresennol i dderbyn ei gadair, ond darllenwyd llythyr ganddo o'r llwyfan, yn mynegi na allai fynychu'r eisteddfod oherwydd salwch. Fe'i cynrychiolwyd ar y dydd gan Mr. Ellis Roberts.
Bu anghydfod o fath rhwng Eisteddfod Powys a'r Orsedd yn dilyn eisteddfod 1899 - roedd, ac mae, gan Eisteddfod Powys ei gorsedd ei hun. Anfonwyd deiseb gan Bwyllgor Gwaith Eisteddfod Powys at bwyllgor yr Orsedd yn gofyn am i dderwyddon, beirdd ac ofyddion Gorsedd Powys gael gwisgo eu gwisgoedd gorseddol swyddogol, fel yr arferid ei wneud yn yr eisteddfodau blaenorol. Roedd y ddeiseb yn cynnwys enwau Iarll Powys a Maer yr Amwythig ymhlith eraill. Gwrthodwyd eu cais, 'as it is laid down in a legal document that the robes are to be worn only at National Eisteddfodau and their proclamation', fel y noda adroddiad yn y North Wales Express ym Medi'r flwyddyn honno.

Saer y gadair oedd E. D. Jones o Brestatyn, a dyma argraffiadau Dewi Wyllt, gohebydd 'Notes from Prestatyn' yn y Rhyl Record and Advertiser:
I had the opportunity of seeing the bardic chair which our townsman, Mr E. D. Jones, made for "the Powys Provincial Eisteddfod. I do not know which I admired most, the design or the workmanship. Mr Jones did both. It is one of the best bardic chairs I have ever seen. The oak is excellent,'and the carving is the work of a skilled carver. This is the first bardic chair done to order at Prestatyn, and it is so meritorious a piece of work that I venture to prophesy that Prestatyn will become famous as the place where bardic chairs are made.

1900
Ni chynhaliwyd Eisteddfod Talaith a Chadair Powys ym 1901.
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH R. R. PARRY
Bu helynt rhyfeddol ynghylch cystadleuaeth y gadair yn Eisteddfod Powys Meifod 1901. Ni lwyddodd bardd y gadair, Ap Rhydderch o Gaerdydd, ymbresennoli - nid oedd cynrychiolydd iddo'n bresennol chwaith a honnai ysgrifennydd yr eisteddfod na dderbyniwyd llythyr o esboniad neu gadarnhad o enw cywir y bardd chwaith.
Bu sawl yn galw am i'r pwyllgor dynnu'r anrhydedd, y gadair a'r wobr ariannol oddi ar Ap Rhydderch, ac iddynt hefyd gyflwyno'r gadair i un o'r ymgeiswyr eraill, os oedd eu cerddi'n deilwng. Meddid yng ngholofn Sgrepan Samuel Sam yn Gwalia ar 2 Gorffennaf, flwyddyn yr eisteddfod:
Yr wyf yn methu gweled fod ganddo yr un hawl i’r gadair gan nad oedd wedi cydymffurfio ag amodau y gystadleuaeth, pa rai oedd yn gofyn ar i’r buddugol fod yn bresenol neu gael ei gynrychioli, mewn trefn i hawlio y wobr a’r gadair, ac o dan yr amgylchiadau dylai y gadair gael ei rhoddi i’r agosaf ato mewn teilyngdod, sef Mr R. R. Parry, Bryn Ala, Gwalchmai.
Ac roedd galwad gohebydd dan y ffugenw Cynfarwydd yn yr un papur yn hwyrach fis Gorffennaf yn un tebyg, ac aeth i fanylder wrth graffu ar union ofynion ac amodau'r gystadleuaeth:
Paham na symudid y cwmwl ar unwaith trwy alw yr ail yn mlaen (os oedd yn deilwng) nis gwyddis; ond erbyn hyn mae yr helynt wedi myned yn bwys ymddiddan rhyngom fel eisteddfodwyr, a chan fod testynau Powys eleni wrth law perswadiwyd ni gan gywreinrwydd i edrych drostynt, a gwelwn fod geiriad Rhif 1 yn y testynau yn darllen fel y canlyn: - “Testyn y gadair ‘Awdl Bryddest,’ heb fod dros 300 llinell, ‘Yr Amaethwr,’ gwobr 3p 3s a chadair gwerth 3p 3s.” Gwelwn wrth eiriad a gosodiad i lawr y testyn nad yw y pwyllgor yn rhwymedig i wobrwyo un o’r cystadleuwyr mwy na’r gweddill yn y gystadleuaeth. Felly trown ein gwyneb at yr amodau, a gwelwn wrth Rhif 7fed, “Atelir y wobr oni bydd y buddugwr neu gynrychiolydd awdurdodedig iddo yn bresenol i ateb i’r enw.” Gwelir fod y pwyllgor wedi defnyddio yr ymadrodd cryfaf er gosod allan bendantrwydd yr amod, sef “Atelir,” etc. Felly, ni all gadw ei anrhydedd i fyny pe byddai yn gwybrwyo unrhyw un heb gydymffurfio a’r amod yn maes y gystadleuaeth.
Penllanw'r anghydfod fu mynd i achos cyfreithiol, a chafwyd gwrandawiad yn y llys sirol yn Llanfyllin fis Awst 1902 - dros flwyddyn wedi'r eisteddfod. Cynghorai Mr. Wynn Evans, cyfreithiwr o Wrecsam, y dylai'r pwyllgor drosglwyddo'r gadair i'r enillydd, a hynny fu yn y pen draw. Ond roedd chwerwedd amlwg yn y trefniadau i wneud hynny, fel y gwelir mewn nodyn yn Baner ac Amserau Cymru ar 10 Medi 1902:
Y mae y gadair yn bresennol yn nhŷ un o ysgrifenyddion yr eisteddfod, a’u bwriad ydyw rhoi y gadair yn yr ysgoldy, a gadael rhwng yr ennillydd a hi.

1902-03
Ni chynhaliwyd Eisteddfod Talaith a Chadair Powys ym 1902, nac ym 1903.
Talfardd o Aberdyfi oedd bardd y gadair pan ddychwelodd Eisteddfod Powys wedi hoe o dair blynedd ym 1904. Fe'i cynrychiolwyd yn y seremoni gan John Rees.
Cyhoeddwyd yr englynion hyn i gyfarch Talfardd gan fardd anhysbys yng ngholofn Aberdyfi yn y Gwyliedydd:

Bellach yn ben awenydd – iach erys,
A chariad Ann Gruffydd; Wele daeth i oleu dydd Hen awen mewn rhin newydd. Cawr ydyw ym myd Ceridwen – erys Yn oriel plant awen; Ceir Talfardd fel bardd a'i ben, Er obry ym mro'r wybren. |
Yn Powys daeth nap awen – i'w godi
I'r gadair yn llawen; A bardd gyfrifir yn ben – Cyd-daro mae coed derwen. |
1905
|
Cynhaliwyd Eisteddfod Powys 1905 ar dir Plas Machynlleth, cartref Ardalyddion Londonderry yng Nghymru.
William Richards (Alfa), Glyn Nedd, oedd bardd y gadair, ac fe'i cynrychiolwyd yn y seremoni gan fardd arall, sef y Parch. E. Wnion Evans o Ddolgellau.

Roedd y bardd buddugol wedi dotio cymaint at y gadair hon, y bu iddo gyfansoddi'r englyn hwn i gyfarch ei gwneuthurwr, Owen Tudor o Ddolgellau:

Gywrain gerfiwr ein goror - ca Alva'i
Waith celfydd yn drysor;
O'r myrdd tu yma i'r môr
Eu tad yw Owain Tudor.
Waith celfydd yn drysor;
O'r myrdd tu yma i'r môr
Eu tad yw Owain Tudor.
Roedd Owen Tudor yn adnabyddus fel gwneuthurwr dodrefn, a chadeiriau eisteddfodol yn benodol. Dyma adroddiad yr Herald Cymraeg ar achlysur ei farwolaeth ym 1909, yn 78 oed:
MARWOLAETH CERFIWR CYMREIG
Dydd Llun bu farw Mr Owen Tudor, y cerfiwr adnabyddus. Yr oedd yn gymeriad adnabyddus iawn yn Nolgellau, y byddai ei ymddangosiad bywiog a heinyf ar yr heol bob amser yn tynu sylw y dieithriaid. Efe fyddai gwneuthurwr cadeiriau eisteddfodol Dolgellau, a deallwn ei fod wedi gwneud oddeutu pedwar ugain o honynt. (23.03.1909)
Ychydig fisoedd cyn ei farwolaeth, ymddangosodd y ffotograff hwn ym mhapur ardal Dolgellau, Y Dydd. Fe'i gwelir yn sefyll ymhlith tair o'i gadeiriau olaf - cadeiriau ar gyfer Eisteddfodau Meirion, Abermaw a Dyffryn Ardudwy. Gwelwn fod cadair Abermaw (canol) yn debyg iawn o ran ei dyluniad a'i gwneuthuriad i'r gadair a saerniodd at Eisteddfod Powys 1905. Mae'r dair yn debyg iawn, mewn gwirionedd, felly mae'n dra thebygol y byddai'r saer yn gweithio i'r un patrwm dro ar ôl tro er mwyn arbed amser ac adnoddau.

Y BARDD Ganed Alfa ym 1875. Roedd yn eisteddfodwr pybyr ac yn enillydd nifer helaeth o gadeiriau ar hyd a lled y wlad. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o'i gerddi, Blodau'r Groes (1907) a Clychau'r Wawr (1910). Ei waith mwyaf poblogaidd a chofiadwy yw'r emyn i blant, 'Rwy'n canu fel cana'r aderyn'. Bu farw ym 1931. Llun: Alan Richards |
Fel ym 1895, ym mharc Castell Powys y cynhaliwyd Eisteddfod Powys ar ei hymweliad a'r Trallwm ym 1906.
Erbyn hyn roedd Eisteddfod Powys unwaith eto mewn trafferthion ariannol difrifol, ac roedd £60 o ddyled yn dilyn ei chynnal yn y Trallwm. Ym mis Hydref, rhoddodd Pwyllgor Cyllid Cyngor Tref y Trallwm gynnig ger bron y dylid cyfrannu £20 tuag at y colledion a wnaed wrth gynnal yr eisteddfod yn y dref; am mai ar wahoddiad y daeth yr wyl i'r dref, a hynny fel rhan o ddathliadau pum-canmlwyddiant ei siarter frenhinol. Ond gwrthododd y Cyngor y cynnig. Crynhowyd natur y penderfyniad yn y sylw brathog hwn gan ohebydd colofn 'Ar Antur' yn Y Brython Cymreig, ddechrau Tachwedd:
Am eu gwaith yn gwrthwynebu ymgyrch genedlaethol Glyndwr y rhoed i'r dref ei siartr 500 mlynedd yn ol; a'r un ysbryd Hengistaidd sydd fyth yn cysgodi tan furiau Castell Powys.

Ganed Abon ym 1864. Cymerai ei enw barddol o'i filltir sgwar ym Modabon, Cefn-Mawr, Sir Ddinbych. Roedd yn fardd ac yn awdur straeon. Bu farw ym 1941.

1907-08
Ni chynhaliwyd Eisteddfod Powys ym 1907. Rhygnai'r trafferthion ariannol yn eu blaen, a cheir nodyn yn Y Brython Cymreig yn Ebrill 1907 i'r perwyl fod y pwyllgor wedi mynd ar ofyn gwarantwyr yr eisteddfod i gyfrannu 11 swllt yr un tuag at glirio'r ddyled. Gyda min ar ei eiriau, dywed y colofnydd nad oes 'fawr o lewyrch ar Eisteddfod lle bo'r Gymraeg yn brin'.
Roedd 1908 hefyd yn flwyddyn ddi-eisteddfod, ond gyda pharatoadau ar droed i gynnal Eisteddfod Powys 1909 yn Llanfyllin, lle y cofir i'r eisteddfod ailgodi o gyfnod hesb arall ddeng mlynedd yn flaenorol, ym 1899.

1909
|
'A Slump in Poetry' meddai is-benawd y Montgomeryshire Express and Radnor Times ar y dydd Mawrth wedi Eisteddfod Powys 1909, a gynhaliwyd yn Llanfyllin; a hynny er i'r holl adrannau eraill brofi'n llwyddiant ysgubol ym mhob ffordd, er gwaetha'r tywydd garw - 'Music had ousted literature'. Tybiai'r gohebydd na welwyd cymaint o fywiogrwydd yn ardal Llanfyllin ers i Eisteddfod Powys ymweld ddiwethaf, ddeng mlynedd yn gynharach, ym 1899.
Cynhaliwyd yr eisteddfod ar dir Plas Bodfach, eiddo John Lomax, sef Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Powys.

Y BARDD Ganed O M Lloyd ym 1910 ym Mlaenau Ffestiniog. Graddiodd ym 1934 o Goleg Bala-Bangor ac fe'i ordeiniwyr yn weinidog Annibynnol yn Nefyn ym 1937. Roedd yn gyfrannwr cyson i'r Ymryson, ac fe fu'n golofnydd ar dudalen flaen Y Dydd am dros 20 mlynedd, gan fwrw'i farn ar grefydd, llenyddiaeth a gwleidyddiaeth. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o'i farddoniaeth a chyfrol o'i ysgrifau. Bu farw ym 1980. Cofnod Wicipedia O M Lloyd: https://cy.wikipedia.org/wiki/O._M._Lloyd |
2010
|
Y GADAIR
Gwnaed y gadair unigryw hon o bren onnen gan Tom Pugh o Lanwrthwl. Defnyddiodd ddull stemio i blygu darn o bren 4m o hyd o amgylch y sedd, gan greu edrychiad trawiadol ac anarferol.
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH ARWEL EMLYN JONES [2], HEFIN WYN [3]
Y GADAIR
Gwnaed y gadair o ddau fath o bren - onnen a derw. Onnen yw prif ddefnydd y gadair ei hun, ond daw'r darnau tywyll ar y cefn o goed a achubwyd o dderwen fawr Pontfadog, a ddaeth i'r llawr yn ystod Gaeaf 2013.

Ni chynhaliwyd Eisteddfod Talaith a Chadair Powys yn 2015 oherwydd Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau.
2016
|
Yn dilyn yr ymdrechion mawr i godi arian at Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau yn 2015, ni lwyddwyd i gael cartref i Eisteddfod Powys yn 2017.
Erthygl: 'Hynod Siomedig' bod dim cartref i Eisteddfod Powys 2017 [BBC Cymru Fyw]
Cynhaliwyd Gŵyl werin Gwion Bach yn Llanfair Caereinion yn Ionawr 2018 fel digwyddiad i gymryd lle'r eisteddfod am y flwyddyn.

2019
|
Y GADAIR
O dderw yn bennaf y gwnaed y gadair hon, gyda phlygiau o gollen Ffrengig. Fel sy'n nodweddiadol o'i waith, defnyddiodd y saer dechneg stemio i blygu'r coedyn i greu ffurfiau difyr. Fodd bynnag, mae'r stemio ar y gadair hon yn fwy cymhleth.
Defnyddiwyd darn hynod o dderw i greu cefn y gadair. Rhywdro, tra'n fyw, saethwyd bwled plwm trwy'r goeden, ac wrth iddi barhau i dyfu, ymledodd y mineralau o'r bwled a throi'r coedyn yn ddu. Gwelir hyn yn y pren tywyll ar y cefn. Defnyddiodd y saer wedyn dechneg 'book-matching', i wneud y cefn yn gwbl gymesur.
Dyma oedd y trydydd tro i Carwyn Owen o ardal y Trallwng dderbyn y comisiwn i greu cadair Eisteddfod Dalaethol Powys (2013, 2016). Ef hefyd oedd yr ieuengaf erioed i dderbyn comisiwn i greu Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol (Maldwyn a'r Gororau 2015).
2020-21
Ni chynhaliwyd Eisteddfod Talaith a Chadair Powys yn 2020 a 2021 oherwydd cyfyngiadau'r pandemig COVID-19.
CYFEIRIADAU
Cyffredinol
- Huw Ceiriog, Y Chwaer Hynaf: Hanes Eisteddfod Cymrodoriaeth Talaith a Chadair Powys (2020)
1892
- R. Ingram, 'Cadeiriad Meiriadog ym Meifod' o Baner ac Amserau Cymru, 14.12.1892
1894
- 'Powys Provincial Eisteddfod' yn The Montgomery County Times, 09.06.1894
- 'Colwyn' yn Y Tyst, 29.06.1894
1895
- 'Marwolaeth Tudno' o Y Brython Cymreig, 24.05.1895
- 'Colwyn' o Y Genedl Gymreig, 18.06.1895
- 'Eisteddfod Dalaethol Powys' o Y Gwyliedydd, 19.06.1895
- 'Eisteddfod Dalaethol Powys' o Y Cymro, 20.06.1895
1896
- Peredur Wyn Williams, Eifion Wyn (Llandysul 1980), tud. 31
- 'Eisteddfod Gadeiriol Powys' o Baner ac Amserau Cymru, 24.06.1896
- Evan Rees (Dyfed), David Howell (Llawdden), 'Beirniadaeth [...]', Baner ac Amserau Cymru, 24.06.1896
- 'Caernarfon' o Y Genedl Gymreig, 30.06.1896
- 'Esgyniad y Cymro' o Y Tyst, 03.07.1896
- FILE NLW MS 8336B - Barddoniaeth, cyrchwyd 07.07.2022 https://archives.library.wales/index.php/barddoniaeth-1304
1897-98
- Huw Ceiriog, Y Chwaer Hynaf: Hanes Eisteddfod Cymrodoriaeth Talaith a Chadair Powys (2020), tud. 59-60
1899
- Dewi Wyllt, 'Notes from Prestatyn' o'r Rhyl Record and Advertiser, 24.06.1899
- 'Powys Provincial Eisteddfod' o The Montgomery County Times, 24.06.1899
- 'Eisteddfod Dalaethol Powys' yn Y Genedl Gymreig, 27.06.1899
- 'Notes of the Week' o The North Wales Express, 29.09.1899
1901
- 'Mr Daniel Owen [...]' o Baner ac Amserau Cymru, 29.06.1901
- 'Cadair Powys' yn 'Sgrepan Samuel Sam' o Gwalia, 02.07.1901
- Cynfarwydd, 'Eisteddfod Powys' o Gwalia, 23.07.1901
- 'Dispute about a Bardic Chair' o The Weekly Mail, 09.08.1902
- 'Cadair Eisteddfod Powys, Meifod' o Baner ac Amserau Cymru, 10.09.1902
- 'Helynt Cadair Powys 1901' o Y Cymro, 25.09.1902
1904
- 'Eisteddfod Llansantffraid' yn Y Negesydd, 23.06.1904
- 'Aberdovey' yn The Towyn-on-sea and Meirioneth County Times, 23.06.1904
- 'Aberdyfi' yn Y Gwyliedydd, 13.07.1904
1905
- Adran hysbysebion y Cambrian News, 23.12.1904
- 'Powys Eisteddfod' yn The Cambrian News and Meirionethshire Standard, 07.07.1905
- 'Eisteddfod Dalaethol Powys' yn Baner ac Amserau Cymru, 12.07.1905
- 'Eisteddfod Powys' yn Y Cymro, 13.07.1905
- 'Yr Arsyllfa' yn Y Dydd, 28.07.1905
1906
- 'Eisteddfod Dalaethol Powys' yn Yr Herald Cymraeg, 03.07.1906
- 'Ar Antur' yn Y Brython Cymreig, 01.11.1906
1909
- 'Eisteddfod Powys' yn Y Brython Cymreig, 01.07.1909
- Huw Ceiriog, Y Chwaer Hynaf: Hanes Eisteddfod Cymrodoriaeth Talaith a Chadair Powys (2020), tud. 64
2023
- Adroddiad Eisteddfod Powys 2023 ar wefan Cymdeithas Eisteddfodau Cymru, cyrchwyd 20.11.2023 steddfota.cymru/wp/wp-content/uploads/2023/11/Adroddiad-EISTEDDFOD-POWYS-2023.pdf