Diolch i'r canlynol a fu o gymorth mewn amryw ffyrdd wrth roi'r cofnodion ar y dudalen hon at ei gilydd:
Gwilym Bowen Rhys, Rachub; Meilyr Hughes, Llanelli
Mae'r dudalen hon yn y broses o gael ei hadeiladu. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol.
1909

Wele wr sy'n haul i lu, - yn esgyn
Yn Mhrif-ysgol Cymru;
Y mae'r gwr medd Cymru gu
Yn fwynaidd ddringo fynu.
- AMANYDD (Ionawr 1909)
Y FEIRNIADAETH
Yn ei feirniadaeth dywedodd [Dyfnallt] bod chwech o'r wyth yn deilwng o'r gadair, ond rhagorai Myfyr Hefin ar y llall yn naturiolder ei bryddest. Canai i'r aelwyd, heb fyn'd tuallan i'r tŷ.
(Seren Cymru, 29.01.1909)

Y BARDD
Ganed David Bowen yn Nhreorci ym 1874. Roedd yn frawd hŷn i'r beirdd Ben Bowen a Thomas Orchwy Bowen (sef tad y Prifeirdd Geraint ac Euros Bowen). Bu farw Ben Bowen ym 1903, a Myfyr Hefin a fu'n bennaf cyfrifol am olygu cofiant a chasgliad o'i waith, ac o hynny datblygodd ddiddordeb mewn barddoni ei hun. Roedd yn weinidog â'r Bedyddwyr. Bu farw ym 1955.
Cofnod Myfyr Hefin yn y Bywgraffiadur Cymreig:
http://yba.llgc.org.uk/en/s2-BOWE-DAV-1874.html