YR EISTEDDFOD
Credaf mai unwaith yn unig y bu i'r eisteddfod unigryw hon gael ei chynnal. Fe'i cynhaliwyd ar fuarth fferm Caergerrig ger Pontyglyn, Llangwm. Bu'r aelod seneddol Tom Ellis (T E Ellis, 1859-1899) - gwleidydd radical a oedd yn arweinydd mudiad cenedlaetholgar Cymru Fydd - yn areithio yn ystod yr eisteddfod, pryd y mynegodd ei bryderon fod mudiad yr eisteddfod mewn perygl o gael ei 'Sacsoneiddio'.