Diolch i'r canlynol a fu o gymorth wrth roi'r cofnodion ar y dudalen hon at ei gilydd:
Non Lewis
Non Lewis
ENGLYNION CYFARCH
(Cyhoeddwyd yn Yr Wythnos a'r Eryr, 10 Ebrill 1901)
Cariwr prif wobr y Cerrig - a godwyd
I'w gadair yn ddiddig;
Dygodd ffawd y brawd I'r brig
yn addas fardd boneddig.
- MYFYR ALWEN
Heb glwy' o'r Ddyfrdwy fawr ddig - rhyfedd iawn
Rhwyfodd ef mewn canig;
O'r beirdd dringodd i'r brig,
Curodd ar gamp y Cerrig.
Ow adrodd! yn nwfr didrai - Llanycil,
Llanc oedd ac wyth cyfaill;
Tra trwodd nofiodd y naill,
Eitha oer yw'r wyth arall.
- THOMAS JONES, BRYNDU
Y SEREMONI
Brawd y bardd buddugol a'i gynrychiolai yn y seremoni, sef Joseph Owen, Tanygraig, Hafod Elwy. Nodwyd mai 'nifer lled fychan' o feirdd a ymunodd yn y seremoni ar y llwyfan, ac mai tri yn unig a gynigiodd gyfarchion i'r buddugol; y ddau uchod, ac Edward Thomas Roberts, Frondeg, Cerrigydrudion. Y Parch J R Ellis a Thomas Jones, Bryndu a gyrchodd Joseph Owen i'r llwyfan i dderbyn y gadair.
O'R FEIRNIADAETH
"Morfran ab Tegid." - Pryddest dda. Mae hwn yn fwy o feistr ar feddwl a mesur na'r cyffredin o'r rhai a garant gwmni yr awen. Y mae yn paentio rhai o'i olygfeydd yn swynol a chywir, ac y mae cyfrinion hanes a thraddodiad, ynglyn a'i destyn, at ei alwad. Y mae yn adnabod ei ddefnyddiau, a medr law gelfydd I drefnu pobpeth i'r amcan goraf. Ar ol ei ddarllen ef, yr wyf yn dawel iawn na ddylai Eisteddfod Cerrigydruidion eleni wisgo sachliain a lludw oherwydd "Cadair wag." […] Amlwg yw mai y goreuon ydynt, "Murmur y Mor," "Yspryd Myfanwy," a "Morfran ab Tegid." Ac erbyn manylu ar gynyrchion y tri wyr hyn - edrych arnynt o bob cyfeiriad, a'u cydmaru mewn nerth a gwendid - y mae un yn dyfod allan o'r prawf "yn anrhydeddusach na'i frodyr" - yr un hwnw ydyw, "Morfran ab Tegid." Iddo ef y dyfernir cadair Cerrigydruidion y Groglith, 1901.
(Yr Wythnos a'r Eryr, 8 Mai 1901)