CYFARCHION BARDDOL
(Cyhoeddwyd yn Yr Wythnos a'r Eryr, 27 Mehefin 1900)
Cwrddai llu cawraidd a llawen - ar lawr
"Waterlo" Ceridwen;
A fe sy' ar faes awen
wedi byw a chadw'i ben.
- LLIFON
Gwirwyd mai Tom Jones yw'r gwron - am waith
Methu'n Nghaer Derwyddon;
Ei wyrdroi o'r frwydr hon
Wnai pylor saith Napoleon.
Ei Waterloo eto i'r wlad - fydd wledd
Selia i gyd wiredd sail ei gadeiriad.
- GWAENFAB
Daw'r HEDDWCH i dre'r Derwyddon - a'i gwys
Er gwae pob Napoleon;
Y gorwych Tom Jones yw'r gwron
Goda rwysg y gadair hon.
- GLAN CYMERIG
Eitha gwir, saith o gewri - adodd ef
Gyda'i ddawn barddoni;
Awyr gynes tair gini - fu'n enyn
Asbri ei delyn i'n hysbrydoli.
Dawnus wyt Bryn Du anwyl,
Iraidd wr, prif fardd yr wyl.
- H Ll W HUGHES, Cerrigydrudion
Y BARDD
Ganed Thomas Jones yn Nhynygors, Nantglyn ym 1860. Cafodd ei fagu gan ei nain a'i daid, ac ni chafodd fawr o addysg yn ei flynyddoedd cynnar. Roedd yn fardd lluosog ei wobrwyon, ac yn feirniad eisteddfodol hefyd. Cyhoeddodd sawl cyfrol o faledi a cherddi. Bu farw yn ysbyty Dinbych ym 1932.
Cofnod Thomas Jones yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-JONE-THO-1860