2010
2011 2012 Bethan Mair Hughes 2013 Euros Jones 2014 Iestyn Tyne 2015 Iestyn Tyne 2016 Iestyn Tyne 2017 Sioned Erin Hughes 2018 Sian Heulwen Roberts 2019 Meinir Owen |
2020 Ni chynhaliwyd eisteddfod
2021 Elan Mair Williams |
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH IESTYN TYNE [2], FFION BRYN JONES [3]
Enillodd Iestyn Tyne ail gadair yn olynol yn eisteddfod Ffermwyr Ifanc Eryri 2015, a gynhaliwyd yn y ganolfan ym Mhorthmadog - sef lleoliad parhaol yr eisteddfod wedi hynny, gan iddi roi'r gorau i deithio i fannau amrywiol o fewn y sir.
Gan i Iestyn Tyne hefyd ddod yn ail, ac i Ffion Bryn Jones ddod yn drydydd, aeth y tri safle uchaf yng nghystadleuaeth y gadair i aelodau o Glwb Godre'r Eifl.
Y GERDD
Roedd y gerdd fuddugol yn gadwyn o sonedau a ysgrifennwyd yn deyrnged i gast Mimosa, sioe gerdd yr Urdd a deithiodd i Batagonia yn ystod haf 2015. Daeth y gerdd yn ail yn y gystadleuaeth farddoniaeth yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru yn hwyrach yn y flwyddyn.
Y GADAIR
Noddwyd y brif wobr, cadair freichiau bren wedi'i hailbwrpasu, gan ganolfan Portmeirion.

Llun: Arwyn Roberts, The Daily Post
O 2018 ymlaen, yn dilyn cyflwyno cystadleuaeth y gadair a'r goron yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru yn 2016, cyflwynwyd coron a chadair ar wahan yn eisteddfodau'r sir yn ogystal - y gadair am farddoniaeth a'r goron am ryddiaith. Cyn hyn, gellid enill cadair y sir am farddoniaeth neu ryddiaith.