Mae'r hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol.
1880 | 1882 | 1886
I arweinydd y côr buddugol y rhoddid cadair Eisteddfod Gadeiriol Chwarelwyr Cwmorthin ar ddechrau'r 1880au, ond erbyn 1886, cynigid y wobr am farddoniaeth.
CADWALADR ROBERTS, 1854-1915
Daw'r llun isod o gasgliadau amgueddfa Cymru, ac mae'n dangos Cadwaladr Roberts, arweinydd corau yn ardal Tanygrisiau, gydag o leiaf dwy o gadeiriau eisteddfod Cwmorthin a enillodd fel arweinydd y corau buddugol. Cadair 1880 a welir ar y chwith, ond nid yw'r flwyddyn yn amlwg ar y gadair sydd ar y dde. Tybir i'r llun gael ei dynnu tua'r flwyddyn 1910.
Roedd yn un o gymeriadau mawr yr ardal yn y cyfnod, a chafodd ei enw gorseddol, Pencerdd Moelwyn, adeg Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Ffestiniog 1898. Sefydlodd Gôr Meibion y Moelwyn, a bu'n llwyddiannus ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol, gan deithio gyda'r côr i Ogledd America a Chanada, a pherfformio i aelodau o deulu brenhinol Lloegr ar fwy nag un achlysur.
Gellir darllen erthygl W. Arvon Roberts ar Cadwaladr Roberts ar wefan Llafar Bro yma.

Gellir gweld casgliad o ffotograffau ansawdd uchel o'r gadair hon ar wefan Casgliad y Werin Amgueddfa Cymru yma: https://www.casgliadywerin.cymru/items/1372876.
Roedd dau gôr yn ymgiprys am gadair Eisteddfod Cwmorthin 1880, sef corau capeli Bethel a Charmel, Tanygrisiau. Carmel oedd yn fuddugol, a hynny dan arweiniad Cadwaladr Roberts - iddo ef y dyfarnwyd y gadair, fel yr arweinydd.
Eisteddfod i chwarelwyr Cwmorthin oedd hon, a drefnwyd gyda chefnogaeth Cwmni'r Chwarel a'r rheolwr, Mr. Kirkhouse.

Cynhaliwyd eisteddfod Cwmorthin 1882 ar nosweithiau Llun a Mawrth 17 ac 18 Ebrill, yn yr 'assembly room' ym Mlaenau Ffestiniog. Cynhwysai amrywiol gystadlaethau crefft, llenyddol a cherddorol. O ran barddoniaeth, dyfarnwyd gwobr am y bryddest orau ar 'Ymfudiaeth' i Dewi Emoel, Porthmadog, ac un Aaron Davies oedd yn fuddugol am englyn i'r 'Fall'.
Cadwaladr Roberts, Dopog, oedd arweinydd y côr buddugol unwaith eto ym 1882, gyda Chôr Tanygrisiau y tro hwn. Dyma'r unig gôr oedd yn y ras, a gellir tybio ei fod yn cynnwys cyfuniad o aelodau corau dau gapel Tanygrisiau oedd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd yn eisteddfod 1880.

|
1886WILLIAM ROBERTS
(GWILYM ERYRI) PORTHMADOG TESTUN Y DIWEDDAR MR. THOMAS JONES, RHOSYDD (AWDL-BRYDDEST) NIFER YN CYSTADLU 7 GWOBR ARIANNOL £5 DYDDIAD 11 MAI 1886 BEIRNIAD IOLO CAERNARFON LLEOLIAD YN 2020 Go Below, Betws-y-Coed |
Gwerthwyd y gadair hon mewn arwerthiant gan Ashton Mill Auctions, ym Melksham, Wiltshire yn 2016. Cafodd ei phrynu gan berson lleol o ardal Blaenau Ffestiniog a'i dychwelyd i'r ardal. Mae bellach wedi ei lleoli yng nghanolfan antur Go Below ym Metws-y-Coed.
Cynigiwyd y gadair hon am awdl-bryddest, heb fod dros 300 llinell, 'er coffadwriaeth am y diweddar Mr. Thomas Jones, Pen-y-Morfa (Rhosydd gynt).' Yn fuddugol ar gystadleuaeth yr englyn yn yr un eisteddfod, ar y testun 'Chwaeth', roedd Mr O. D. Williams, Rhyd, Llanfrothen:
Dawn anhebgor wêl ragoriaeth - y pur,
Parch rydd i wybodaeth;
A nodwedd mewn beirniadaeth
I adwaen chwyn, dyna chwaeth.

'Bwrw Golwg - Cadwaladr Roberts', gwefan Llafar Bro, cyrchwyd 08.07.2020 http://llafar-bro.blogspot.com/2016/07/bwrw-golwg-cadwaladr-roberts.html
1880
- The Cambrian News, 19.11.1880
1882
- Y Dydd, 28.04.1882; Y Gwyliedydd, 26.04.1882
1886
- UK Mine Exploration Forum, cyrchwyd 08.07.2020 https://www.aditnow.co.uk/community/viewtopic.aspx?t=11866#msg169824
- Y Gwyliedydd, 26.05.1886; Baner ac Amserau Cymru, 19.05.1886;