Enillydd y Gadair: Arwel 'Rocet' Jones, Aberystwyth
Testun: 'Cofeb'
Beirniad: Anni Llŷn, Caerdydd.
Testun: 'Cofeb'
Beirniad: Anni Llŷn, Caerdydd.
" Prif seremoni’r dydd oedd Y Cadeirio a braf oedd gweld teilyngdod. Y bardd buddugol oedd Arwel ‘Rocet’ Jones o Aberystwyth. Testun cystadleuaeth y Gadair eleni oedd ‘Cofeb’ ac mi roedd cerdd Arwel er cof am ffrind annwyl a gollodd yn ddiweddar. Canmolwyd gwaith y bardd gan Anni Llŷn ac ’roedd pawb yn ymfalchïo yn ei lwyddiant. Derbyniodd gadair fechan hardd o waith Jeff Jones. Eirwen James oedd yng ngofal y seremoni a chanwyd y corn gwlad gan Efan Williams. Cyrchwyd y bardd buddugol i’r llwyfan gan ddau aelod newydd o’r pwyllgor sef Dorian Pugh (Pennaeth Ysgol Henry Richard) a Miss Elen Powell (Campws Cynradd Tregaron) ac yn cyfarch ’roedd Ffion Williams a Siencyn Jones, Prif Swyddogion Ysgol Henry Richard. Canwyd cân y Cadeirio gan Dewi Siôn, is-ysgrifennydd y pwyllgor. Hyfryd oedd croesawu Mr Dai Mason Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion a’i briod, Mr Alun Owen, Cadeirydd Cyngor Tref Tregaron a Catherine Hughes, Cynghorydd Sir (Ward Tregaron) i fod yn rhan o’r seremoni. "
|
Enillwyr llenyddol eraill:
Can Ysgafn - 'Diwrnod Marchnad' Carys Briddon, Tre'r Ddol Pennill - 'Ymgom mewn sgrym Rygbi' John Meurig Edwards, Aberhonddu Erthygl i bapur bro Carys Mai Jôc addas ar gyfer Noson Lawen Mary B. Morgan Soned - 'Gaeaf' Hanna M. Roberts, Llandaf Brawddeg - 'Gwennol' Megan Richards Limrig - ‘Wrth ymyl Cors Caron un bore' Megan Richards Emyn - ‘Bedydd’ Megan Richards Cerdd (dysgwyr) - 'Yr Afon' Juliet Revell Oed Uwchradd - ‘Noson Mas’ Nest Jenkins |