Enillydd y Gadair: John Williams, Gorsaf-feistr, Trawsfynydd
(Nid oedd yn bresennol i gael ei gadeirio)
Ffugenw: Islyn
Testun: 'Doethineb'
Beirniad: John Owen Williams (Pedrog)
(Nid oedd yn bresennol i gael ei gadeirio)
Ffugenw: Islyn
Testun: 'Doethineb'
Beirniad: John Owen Williams (Pedrog)
‘TESTYN Y GADAIR. – Beirniadaeth Pedrog ar dernyn o farddoniaeth ar “Ddoethineb” Ymgeisiodd 10. Y buddugwr ydoedd – Islyn, sef Mr. Williams, Gorsaf-feistr, Trawsfynydd, yr hwn a gadeiriwyd yn ol braint a defod beirdd Ynys Prydain, a’r hwn hefyd a gyhoeddwyd yn Fardd Cadeiriol Eisteddfod y Bala am y flwyddyn 1900. Canwyd can y cadeirio gan Miss John. Cynorthwywyd yn y seremoni gan y beirdd Gwrtheyrn, Edward Watcyn, Glan Cymerig, Celynfab, Gwaenfab, Richard Ab Hugh, Bardd Glas, Cusi, &c.
Mr Williams, Station Master, Trawsfynydd.
Cynrychiolid Islyn gan Maj. Gen. Jones, ac arwisgwyd ef gan Mrs Price.'
Mr Williams, Station Master, Trawsfynydd.
Cynrychiolid Islyn gan Maj. Gen. Jones, ac arwisgwyd ef gan Mrs Price.'
Yr Wythnos a'r Eryr, 6 Mehefin 1900
CYFARCHION GAN Y BEIRDD
Yn addfwyn daeth i’n gwyddfod – un brofwyd
Yn brif-fardd ein ‘Steddfod;
Arwr glew, caned hir glod – iddo’n ber
Yn ol eangder ei wir deilyngdod.
Doethineb a’i thelynau
Wefreiddia’i awen gref,
Doethineb gyd a’i lampau
Fu yn ei arwain ef;
Doethineb a’i corona
Yn deyrn y beirdd i gyd,
A blodau clod ddisgyna
Ar “Islyn” – gwyn ei fyd.
RICHARD AB HUGH.
Heddwch torf a’i cyhoedda – heddyw’n fardd
“Un fil naw cant” yma;
O’r deg, ein “Hislyn” wr da,
Awr y dethol yw’r “doetha.”
GWAENFAB
Golau’r awenau rhinol – ar ei ben
Fwynha’r bardd cadeiriol;
Yn wir daeth, wedi’r dethol
Nos oer iawn i’r naw sy’ ar ol.
GLAN CYMERIG.
Cyfaill yw’r Islyn, cofier – a’i dalent
Yn dilyn ei bleser;
A than bwys doethineb bêr,
Hwn gydiodd yn y gadair.
CELYNFAB.
Islyn, ein pen awenwr – a godwyd
I gadair buddugwr;
Aeth i dreithi y doethwr,
A’i ddawn deg fu iddo’n dwr.
BARDD GLAS.
Doethineb yw’r daith hynod – a rodiaist
Fel prydydd o hanfod;
Daw iaith glir i godi’th glod,
Hyd binacl am dy benod.
Yn gryf iawn bydd dy gofeb – yn esgyn
Dan gysgod Doethineb;
Cei difrwysg mewn cader heb
Goeg hanes na gwg wyneb.
Y doethaf o’r gymdeithas – a godwyd
I gadair camp barddas;
Trwy y prawf ti yw’r prif-was
O’r deg fu’n rhedeg y ras.
E. WATKINS
Er clod yr Eisteddfodau – oes waraidd
O seiri fydd eisiau;
Yn fuan iawn, i lyfnhau
Derwen, i wneyd cadeiriau.
Na warafuner funyd – i awen
Dryloew pob hawddfyd;
Hedd i hyfwyn fardd hefyd
Ar ei hardd dderw o hyd.
Oni chawn Heddwch o wyneb – golau
Teg heulwen uniondeb;
Ni thywyna “Doethineb”
Yma un awr, er mwyn neb.
CUSI
Wel dyma brif arwr y ‘Steddfod yn awr,
Wedi dyfod i’r llwyfan, o ganol y llawr,
Efe yw’r buddugwr, enillodd y clod
Ac nid oes byth ddiwedd i’w enw i fod;
Yn ngwenau ei wyneb,
Canfyddir “Doethineb”
Yn chwarau yn nwyfus, a llawn o anwyldeb.
Dyma’r bardd yn nhre y Bala,
Wedi curo cewri Gwalia;
I “Ddoethineb” darfu ganu,
Hithau sy’n ei anrhydeddu.
GWILYM DERFEL.
Aur odlau beirdd Ceridwen – yn cyfarch
Ein cyfaill yn llawen;
Holi am hwn mae’r heulwen
I roi ei bri ar ei ben.
MYFYR MACHNO.
Yn brif-fardd ein ‘Steddfod;
Arwr glew, caned hir glod – iddo’n ber
Yn ol eangder ei wir deilyngdod.
Doethineb a’i thelynau
Wefreiddia’i awen gref,
Doethineb gyd a’i lampau
Fu yn ei arwain ef;
Doethineb a’i corona
Yn deyrn y beirdd i gyd,
A blodau clod ddisgyna
Ar “Islyn” – gwyn ei fyd.
RICHARD AB HUGH.
Heddwch torf a’i cyhoedda – heddyw’n fardd
“Un fil naw cant” yma;
O’r deg, ein “Hislyn” wr da,
Awr y dethol yw’r “doetha.”
GWAENFAB
Golau’r awenau rhinol – ar ei ben
Fwynha’r bardd cadeiriol;
Yn wir daeth, wedi’r dethol
Nos oer iawn i’r naw sy’ ar ol.
GLAN CYMERIG.
Cyfaill yw’r Islyn, cofier – a’i dalent
Yn dilyn ei bleser;
A than bwys doethineb bêr,
Hwn gydiodd yn y gadair.
CELYNFAB.
Islyn, ein pen awenwr – a godwyd
I gadair buddugwr;
Aeth i dreithi y doethwr,
A’i ddawn deg fu iddo’n dwr.
BARDD GLAS.
Doethineb yw’r daith hynod – a rodiaist
Fel prydydd o hanfod;
Daw iaith glir i godi’th glod,
Hyd binacl am dy benod.
Yn gryf iawn bydd dy gofeb – yn esgyn
Dan gysgod Doethineb;
Cei difrwysg mewn cader heb
Goeg hanes na gwg wyneb.
Y doethaf o’r gymdeithas – a godwyd
I gadair camp barddas;
Trwy y prawf ti yw’r prif-was
O’r deg fu’n rhedeg y ras.
E. WATKINS
Er clod yr Eisteddfodau – oes waraidd
O seiri fydd eisiau;
Yn fuan iawn, i lyfnhau
Derwen, i wneyd cadeiriau.
Na warafuner funyd – i awen
Dryloew pob hawddfyd;
Hedd i hyfwyn fardd hefyd
Ar ei hardd dderw o hyd.
Oni chawn Heddwch o wyneb – golau
Teg heulwen uniondeb;
Ni thywyna “Doethineb”
Yma un awr, er mwyn neb.
CUSI
Wel dyma brif arwr y ‘Steddfod yn awr,
Wedi dyfod i’r llwyfan, o ganol y llawr,
Efe yw’r buddugwr, enillodd y clod
Ac nid oes byth ddiwedd i’w enw i fod;
Yn ngwenau ei wyneb,
Canfyddir “Doethineb”
Yn chwarau yn nwyfus, a llawn o anwyldeb.
Dyma’r bardd yn nhre y Bala,
Wedi curo cewri Gwalia;
I “Ddoethineb” darfu ganu,
Hithau sy’n ei anrhydeddu.
GWILYM DERFEL.
Aur odlau beirdd Ceridwen – yn cyfarch
Ein cyfaill yn llawen;
Holi am hwn mae’r heulwen
I roi ei bri ar ei ben.
MYFYR MACHNO.