Mae hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Diolch i'r canlynol a fu o gymorth wrth roi'r cofnodion ar y dudalen hon at ei gilydd:
Illtud Daniel
Diolch i'r canlynol a fu o gymorth wrth roi'r cofnodion ar y dudalen hon at ei gilydd:
Illtud Daniel
0 gasgliad T. Rowland Hughes y daeth y gadair hon i Ysbyty Chwarel Dinorwig. Y cysylltiad yw i Rowland Hughes ddod dan ddylanwad R E Jones pan oedd yn dysgu'r grefft o farddoni.
Y BARDD
Un o Lanberis oedd R. E. Jones (Cyngar), ac roedd T. Rowland Hughes yn ddisgybl barddol iddo ar un adeg. Daeth yn gyd-fuddugol am ei englyn i 'Aderyn y To' yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1933.
Un o Lanberis oedd R. E. Jones (Cyngar), ac roedd T. Rowland Hughes yn ddisgybl barddol iddo ar un adeg. Daeth yn gyd-fuddugol am ei englyn i 'Aderyn y To' yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1933.
Dyma atgynhyrchu rhai o'r cyfarchion barddol i R. Abel Davies a ddatganwyd gan feirdd lleol yn ystod y seremoni. Fe'u cyhoeddwyd ym mhapur newydd Gwalia:
I'r "Ystwyll" y canodd ei bryddest odidog,
Fo gurodd y beirddion galluog yn lan, Enillodd anrhydedd a chadair ardderchog, Mae gwres awenyddol yn fywyd i'w gan; Tra'r Wyddfa'n ymestyn i lesni y wybren Bydd enw'r awenydd yn aros yn wyrdd Tra cofir y "Doethion" yn gwylio y "Seren," Rhydd darllen ei bryddest ysbrydiaeth i fyrdd. TOM EVANS A'th wir ddawn goeth, arddunol, - ti guraist Gewri awenyddol Am dy bryddest orchestol, - gywrain, dlos, Y cei di aros yn fardd cadeiriol. 'UN O'R YNYS' Cadair ddiwarth i "Arthur" - a roddir Am ei bryddest wiw-bur; Ynddi cawsom gerdd cysur O rin byw yr awen bur. PENFRO Fardd glan! Ei gerdd ddianair - a weodd Awen ddi-lyffethair; A byw ga ei gan bob gair, I'w godi uwch y gadair. T. J. P. Mewn cadair dderw, fawr a hardd, Rhown heno fardd y beirddion, Efe yw penaf fardd yr wyl, Mewn hwyl caiff ein cyfarchion; Enillodd hwn y llawryf gwyrdd, Boed iddo fyrdd bendithion. MYMBYR |
Bu dy awen goeth yn syllu
Draw i'r Dwyrain pell, yn hir; Gwelaist seren yno'n gwenu Ar y wybren oleu, glir; Gwyliaist ddoethion arni'n tremio Ac yn teimlo rhywbeth byw, Trwy'u calonau yno'n treiddio, Fel cyfaredd Nefoedd Duw. Gwylaidd rodiaist gyda'r doiethion, Ar y daith i Fethl'em gynt, Cenaist am y rhyfedd swynion, Lanwai'th galon ar dy hynt; 'Roedd y seren fry mewn purdeb, Megis llygaid Nef y Nef, Pan y safodd uwch y preseb, Canai d'enaid "Iddo Ef." Bydd dy gerdd yn dwyn calonau I folianu gyda hwyl, Ar yr Ystwyll, uwch gofidiau, Sanctaidd, fendigedig wyl! Yn dy gadair, Arthur trylen, Eistedd mwy, heb unrhyw loes, Cofia genadwri'r seren - Seren Bethl'em - drwy dy oes. PARCH E. B. THOMAS |
- Yr Herald Cymraeg, 18.12.1906
- Gwefan BBC CymruCylchgrawn (cyrchwyd 08.01.2020) https://www.bbc.co.uk/blogs/cylchgrawn/2011/07/gwobr_pat_neill.shtml
- Gwalia, 18.02.1908
- Gwefan BBC CymruCylchgrawn (cyrchwyd 08.01.2020) https://www.bbc.co.uk/blogs/cylchgrawn/2011/07/gwobr_pat_neill.shtml
- Gwalia, 18.02.1908