Diolch i'r canlynol a fu o gymorth wrth roi'r cofnodion ar y dudalen hon at ei gilydd:
Iwan Price; Howell Evans
Iwan Price; Howell Evans
Nid cadair farddol yw hon, ond yn hytrach cadair a roddwyd yn wobr i arweinydd y côr buddugol. Dyma'r gystadleuaeth fel y'i nodwyd yn y rhestr testunau:
CANIADAETH. I’r Côr heb fod dan 50 o rif a gano oreu, “There is Beauty on the Mountain,” by Sir John Goss (Publisher Novello). Gwobr, £12. A Chadair Dderw i’r Arweinydd.
Eos Morlais (Robert Rees, 1841-1892) y tenor enwog oedd beirniad y gystadleuaeth, ond ni allaf ddod o hyd i gofnod sy'n nodi enw'r côr buddugol yn yr achos yma. Gan mai yn Eglwys y Plwyf Llanwrtyd y mae'r gadair bellach, mae'n bosib mai côr o'r fan honno aeth â'r wobr.
Tua chanol y 19G y gwnaed y gadair gan un Mr Jones - mae hyn yn awgrymu mai cadair wedi ei haddasu at ei phwrpas fel gwobr trwy ychwanegu'r plâc ydi hon, yn hytrach na chadair a saerniwyd fel gwobr eisteddfodol yn benodol.