Achosodd Eisteddfod Môn Porthaethwy 1873 gryn gynnwrf yn y byd eisteddfodol, a hynny oherwydd yr hyn a ddigwyddodd yn ystod seremoni'r cadeirio. Wedi i Ioan Arfon draddodi'r feirniadaeth ar yr awdlau i '[D]distawrwydd', safodd y sawl a ddygai'r ffugenw Salis ar ei draed, sef Dr. William Morgan Williams, meddyg deugain oed a oedd wedi ymgartrefu yn Llansantffraid Glan Conwy. Yn hytrach na'i gymeradwyo, torrodd nifer o'r beirdd eraill, gan gynnwys y beirniaid, a oedd yn bresennol allan i fonllefau, a chyhuddwyd Williams o ennill y gadair trwy dwyll:
Daeth Alvardd ymlaen, a thystiodd yn y modd mwyaf pendant, mai nid y Dr. oedd awdwr yr awdl; a daeth Ioan Arfon drachefn i geisio cadarnhau yr hyn a ddywedai Alardd [sic]. Ar ei ol ef daeth Tudno Jones ymlaen i amddiffyn galluoedd Dr. Williams fel bardd. Daeth Gwilym Cowlyd ymlaen drachefn; yr oedd ei fys yntau yn y brywes, Dewi Mawrth, a Gethin Jones; a llusgwyd Ioan Glan Menai i ganol y pentwr nes yr oedd yr Eisteddfod oll trwyddi draw yn un gymysgfa Fabelaidd ferwedig fel crochan potes. (Y Goleuad)
Sail gwrthwynebiad y beirniaid oedd mai Gwilym Cowlyd (William John Roberts) oedd awdur yr awdl fuddugol a'i fod wedi ei gwerthu i Fferyllfardd er mwyn iddo ei chyflwyno i'r gystadleuaeth. Taerent hwythau mai gwaith Fferyllfardd oedd yr awdl, ond ei fod wedi ei rhoi i Gwilym Cowlyd i fwrw golwg drosti:
... cyfaddefodd fod Gwilym Cowlyd wedi gwneyd ychydig gyfnewidiad yma ac acw ynddi, megis newid ambell i air a diwygio ambell i linell, a hyny heb newid un iod ar y meddwl. Ond cyn ei hanfon i'r gystadleuaeth drachefn gwnaeth Dr. Williams ddiwygiadau ar ddiwygiadau Cowlyd eilwaith, fel na ŵyr Cowlyd na neb byw bedyddiol ar y greadigaeth ond efe yn unig a'r beirniaid sut yr oedd yn sefyll yn y gystadleuaeth. (ibid.)
Sefydlwyd pwyllgor yn ystod y prynhawn i drafod y benbleth hon, a daethpwyd i'r casgliad - er mai prin iawn oedd y dystiolaeth y naill ffordd na'r llall - y byddai Fferyllfardd yn derbyn ei gadair. Fodd bynnag, roedd amod i hynny - a hynny ar sail credoau'r Orsedd ...
Teg ydyw hysbysu na chadeiriwyd y bardd o gwbl, oblegid fod hyny, meddant hwy, yn amhosibl. Yr oedd yn rhaid cadeirio ar hanes dydd, sef ar "awr anterth," ac felly gorfu i'r bardd fyned adref heb ei gadeirio, ond yr ydym yn gobeithio y cadeirir ef yn ogoneddus yn Llansantffraid ... (ibid.)
Ni chafodd Fferyllfardd ei gadeirio yn ôl braint a defod felly, ac mae'n debyg i hynny bwyso'n drwm ar ei feddwl - yn wir, credai rhai mai'r poen meddwl a achoswyd iddo a'i enw fel bardd oedd y tu ôl i'w farwolaeth yn ŵr ifanc 44 oed, rhai blynyddoedd yn ddiweddarach.
Os ydych chi’n gwybod am hen gadair eisteddfodol goll sy’n llechu yn rhywle, fe allwch hysbysu prosiect Casglu’r Cadeiriau trwy’r wefan – cadeiriau.cymru; dros e-bost – [email protected]; neu drwy chwilio am 'Casglu'r Cadeiriau' ar Twitter, Facebook neu Instagram. Gallwch hefyd ysgrifennu ataf yn 9 Heol Elinor, Caernarfon, LL55 1PG.