Os cewch chi gyfle fis Awst, wrth i chi gymryd tro i’r gogledd i Brifwyl Llanrwst, beth am biciad draw i Flaenau Ffestiniog? Mae Cadair a Choron Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Ffestiniog 1898 bellach wedi cael lle anrhydeddus yng nghanolfan Antur Stiniog, ac mae’n werth i chi fynd i’w gweld.
Elfyn (Robert Owen Hughes) oedd enillydd y gadair yn yr eisteddfod honno; brodor o Lanrwst oedd yn byw ym mro Ffestiniog, gan weithio yno fel llyfrgellydd a golygydd cyfnodolion Cymraeg. Bu’r Gadair am flynyddoedd maith yn cael ei chadw yn Siambr Cyngor Tref Blaenau Ffestiniog ac yn cael ei defnyddio fel sedd i’r Cadeirydd.
Roedd Elfyn wedi dod o fewn dim i gipio’r gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd y flwyddyn flaenorol, ac addas oedd mai yn steddfod Stiniog y cafodd ei awr fawr. Berw a Dyfed oedd beirniaid y gystadleuaeth, ac roeddent yn unfrydol gytûn ynghylch rhagoriaeth awdl Elfyn i’r ‘Awen’. Rhoddwyd awdl gan Tafolog (Enillydd Cadair Genedlaethol Caernarfon, 1886) yn yr ail safle.
Digon symol ei iechyd oedd Elfyn ar y pryd, ac mae’n debyg mai adref wrth y tân oedd bardd y gadair pan aeth y si ar led mai ef fyddai’n mynd â hi. Fel hyn yr edrydd gohebydd yn Y Genedl Gymreig ar 26 Gorffennaf 1898, wrth fwrw golwg yn ôl ar y prif seremoniau:
Digwyddodd anffawd ynglyn a’r Cadeirfardd …Rywsut yr oedd si wedi mynd allan mai Elfyn gawsai y gadair, ac yn ei dŷ, yn wael ei iechyd yr oedd y bardd. Gyrwyd pellebyr [telegram] i geisio ganddo ddod i’r Eisteddfod, eithr ni fedrai. Yna gyrwyd cerbyd i’w gyrchu, ac felly y cafwyd ef mewn pryd i’r babell. (Y Genedl Gymreig, 26 Gorffennaf 1898)
Nid y cadeirfardd yn unig gafodd anffawd, chwaith! Mae coron Ffestiniog yn goron fechan, ac wrth i R Gwylfa Roberts (nad oes sôn yn unman am faint ei ben!) dderbyn ei goroni, a’r archdderwydd Hwfa Môn straffaglu i’w chael i aros am ei ben, mae’n debyg i un o ymylon miniog y deiliach arian sydd ar y goron fynd i sgalp yr hen Gwylfa ac achosi poen enbyd iddo. Parhaodd hanes y goron hon yn helbulus hyd heddiw, gan mai ar eBay wedi ei hysbysebu fel tiara y cafodd hi ei darganfod cyn ei dychwelyd yn ddiogel i fro Ffestiniog.
Mr William Williams o Gyttir, Penrhoslligwy, oedd saer y gadair – ac mae wedi mewnosod ei enw o dan wydr ar ei chefn. Byddai’n arfer yn y dyddiau hynny i osod y gwaith o saernio cadair yr eisteddfod fel cystadleuaeth y flwyddyn flaenorol. Mae’n ddigon posib mai dyma’r achos, a cheir cofnod fod yr un William Williams wedi ennill cystadleuaeth debyg yn Eisteddfod Gadeiriol Penbedw yn ystod yr un flwyddyn.
Mi fydd mwy o hanes Elfyn a Chadair Eisteddfod Genedlaethol 1898 ar wefan y prosiect cyn bo hir. Yn y cyfamser, ewch draw i cadeiriau.cymru am sbec – mae’r straeon yn parhau i lifo i fewn, ac mae llawer o’r diolch am hynny i’r rhai ohonoch sydd mor aml yn anfon gair ataf gyda hanes rhyw gadair golledig neu’i gilydd. Gallwch gysylltu trwy @cadeiriau ar Twitter, trwy fy e-bostio ar [email protected], neu trwy ysgrifennu ataf yn 9 Heol Elinor, Caernarfon, Gwynedd LL55 1PG.