Fel rheol, mae ‘eisteddfod gadeiriol’ yn dynodi eisteddfod sy’n anrhydeddu ei phrifardd â chadair. Fodd bynnag, mae traddodiad llai adnabyddus o roi cadeiriau i arweinwyr y corau buddugol hefyd.
Tynnwyd fy sylw yn ddiweddar at un o’r cadeiriau hyn sydd i’w chael yn Eglwys Dewi Sant, Llanwrtyd. Cadair Eisteddfod Salem, Llangennech 1882 ydy hon – cadair freichiau seml o dderw.
Ni lwyddais i ddod o hyd i unrhyw wybodaeth am yr arweinydd na’r côr a’i henillodd, ond mae’n ddigon posib mai côr o ardal Llanwrtyd ydoedd, ac mae dyna pam ei bod wedi ei chadw yn yr eglwys yno. Dyma sut y nodwyd y gystadleuaeth yn y rhestr testunau:
CANIADAETH. I’r Côr heb fod dan 50 o rif a gano oreu, “There is Beauty on the Mountain,” by Sir John Goss (Publisher Novello). Gwobr, £12. A Chadair Dderw i’r Arweinydd.
Difyr heddiw yw nodi’r darn gosod clasurol, Seisnig – rhywbeth llawer mwy cyffredin ym myd yr eisteddfodau bryd hynny.
Eos Morlais (Robert Rees, 1841-1892), y tenor enwog, oedd beirniad y gystadleuaeth. Roedd Eos Morlais yn un o ffigyrau amlycaf canu eisteddfodol ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’n debygol y byddai cael beirniad o’r fath yn gosod bri ar gystadleuaeth fel hon, a gellir dychmygu y bu cystadlu brwd am y wobr.
Yn ogystal â’u henillwyr, mae gwneuthurwyr cadeiriau eisteddfodol hefyd yn cael sylw ar wefan cadeiriau.cymru. Dyma bwt o adroddiad yn yr Herald Cymraeg ar y 23 Mawrth 1909:
Dydd Llun bu farw Mr Owen Tudor, y cerfiwr adnabyddus. Yr oedd yn gymeriad adnabyddus iawn yn Nolgellau, y byddai ei ymddangosiad bywiog a heinyf ar yr heol bob amser yn tynu sylw y dieithriaid. Efe fyddai gwneuthurwr cadeiriau eisteddfodol Dolgellau, a deallwn ei fod wedi gwneud oddeutu pedwar ugain o honynt.
Yn wir, yn oes aur yr eisteddfodau, roedd bod yn saer cadeiriau barddol bron a bod yn gyflogaeth lawn amser! Roedd Owen Tudor, neu Owain Tudur, yn gwneud cadeiriau hyd ddiwedd ei oes, a cheir llun trawiadol ohono ychydig fisoedd cyn ei farwolaeth yn sefyll wrth gadeiriau yr oedd newydd eu cwblhau i eisteddfodau Meirion, Abermaw a Dyffryn Ardudwy y flwyddyn honno.
Dotiodd William Richards (Alfa), y bardd o Frynaman, cymaint at y gadair o waith Owain Tudur a enillodd yn Eisteddfod Powys, Machynlleth 1905, nes bwrw ati i ysgrifennu englyn o ddiolch i’r saer:
Gywrain gerfiwr ein goror – ca Alva’i
Waith celfydd yn drysor;
O’r myrdd tu yma i’r môr
Eu tad yw Owain Tudor.
Daliwch ati i anfon eich hanesion a’ch lluniau! Gallwch gysylltu trwy @cadeiriau ar Twitter, trwy fy e-bostio ar iestyntyne@yahoo.co.uk, neu trwy ysgrifennu ataf yn 9 Heol Elinor, Caernarfon, Gwynedd LL55 1PG.