Yn ddiweddar mi fu sylw ar y cyfryngau i un o Gadeiriau Cenedlaethol T. Rowland Hughes a ddaeth i’r fei (nid ei bod hi ar goll i’r sawl a wyddai amdani!). Bu ymholiadau yn ei chylch gan berthynas i wneuthurwr y gadair sydd bellach yn byw yng Ngogledd America; a thrwy ymchwil trylwyr Tomos Morse o’r BBC daethpwyd o hyd i Gadair Machynlleth 1937 gydag un o ddisgynyddion Rowland Hughes yng Nghaerdydd. Mae hi’n gadair drawiadol; nid un sy’n apelio at chwaeth heddiw, efallai, ond un urddasol serch hynny, ac yn rhodd ar y pryd gan rai Gymry cefnog Brisbane, Awstralia.
Bellach, ni fyddech yn clywed am unrhyw un ar wahan i saer o Gymru yn derbyn y gyfrifoldeb o ddylunio a chreu Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn ystod y tridegau, fodd bynnag, roedd hi’n gyffredin gweld cadeiriau egsotig o bob math ar lwyfan y brifwyl.
Dyna i chi gadair Eisteddfod Wrecsam 1933, a gomisiynwyd gan Gymry alltud yn Hong Kong (Cymdeithas Gymraeg Shanghai oedd hefyd yn gyfrifol am gomisiynu Cadair Genedlaethol Abertawe 1926, a enillwyd gan Gwenallt); cadair anferthol a grefftwyd gan bedwar dyn dros gyfnod o ddeunaw mis mewn amddifaty yn Shanghai.
Yn Eisteddfod Caernarfon 1935 wedyn, gan Gymry Seland Newydd y daeth y Gadair; a honno wedi ei chrefftio’n drawiadol gan seiri Maori, o goed cynhenid a gyda cherfwaith dotemaidd o greaduriaid a duwiau ar hyd y breichiau a’r coesau. Roedd hon hefyd yn nodedig am mai hi oedd y Gadair Genedlaethol gyntaf i gael ei hennill am gerdd ar y vers libre cynganeddol, ac am mai awdur y gerdd honno yw’r prifardd cadeiriol ieuengaf erioed i eistedd yn hedd yr Eisteddfod Genedlaethol; Gwyndaf, a ddaeth maes o law yn Archdderwydd ac yn Gofiadur yr Orsedd. Gellir gweld y gadair hon (ac mae hi’n werth ei gweld os cewch chi gyfle) yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
Sefyllfa debyg oedd hi yn Abergwaun ym 1936, pan dderbyniodd y Prifardd Simon B. Jones Gadair oedd yn rhodd gan Gymry Uganda, a’r gadair eto yn adlewyrchu nodweddion y wlad honno tra’n eu cydblethu â delweddau o Gymru a Chymreictod.
Mae’r cadeiriau hyn yn eithriadol o ddifyr o ran eu hanes a’u dyluniad. Byddent wedi creu cryn argraff ar y pryd, ac maent yn dal i wneud – dyna oedd eu bwriad, wrth reswm. Maent yn cynrychioli adeg penodol yn ein hanes, ac yn drysorau, heb os. Ond chwithig ar y llaw arall ydi meddwl mai lledaeniad yr Ymerodraeth Brydeinig fu’n gyfrifol am alltudiaeth nifer o’r Cymry cefnog hyn, ac mai eu safle freintiedig fel rhan o’r ymerodraeth honno a’u galluogai i anfon eu nawdd adref i gefnogi’r Brifwyl.
Os ydych chi’n gwybod am hen gadair eisteddfodol goll sy’n llechu yn rhywle, fe allwch hysbysu prosiect Casglu’r Cadeiriau trwy’r wefan – cadeiriau.cymru; dros e-bost – [email protected]; neu drwy chwilio am 'Casglu'r Cadeiriau' ar Twitter, Facebook neu Instagram. Gallwch hefyd ysgrifennu ataf yn 9 Heol Elinor, Caernarfon, LL55 1PG.