Yr orchwyl gyntaf yn y golofn y tro hwn ydi estyn ymddiheuriad i Catherine Richards; am iddi anfon eitem am Eisteddfod Gadeiriol Treuddyn i’w chynnwys yn y rhifyn diwethaf, ac i minnau fod yn ddigon anhrefnus i anghofio gwneud hynny. Ymateb wnaeth Catherine i sôn a fu mewn rhifyn blaenorol am ‘ailgylchu’ cadeiriau eisteddfodol:
Na, nid bardd sy'n eistedd â chadair yn ei llaw!
Enillwyd y gadair fach yn Eisteddfod Gadeiriol Treuddyn gan Dafydd Guto Ifan yn 2013, cadair a grëwyd gan John Meurig Parry.
Cadeiriwyd Dafydd mewn cadair fenthyg o 'Steddfod Dyffryn Conwy, Llanrwst 1958 sydd ar gadw yn yr ysgol leol gan deulu y bardd buddugol, Ffowc Williams, Llanllechid, - sef teulu Islwyn Griffiths, Treuddyn.
Cyflwynodd Dafydd Guto Ifan ei gadair i'r ysgrifenyddes, Ceinwen Parry fel gwerthfawrogiad o'i gwaith diflino fel ysgrifenyddes y 'steddfod.
Dyna stori ailgylchu cadeiriau Eisteddfod Gadeiriol Treuddyn - dwbl ailgylchu!
---
Yn Eisteddfod Rhys Thomas James, Llanbedr Pont Steffan; y gadair a ddefnyddir yn flynyddol yn ystod y seremoniau yw cadair yr un eisteddfod o’r flwyddyn 1974. Un o’r mannau y byddaf yn eu sgowtio’n aml am gadeiriau eisteddfodol yw gwefannau arwerthwyr hen bethau, ac fe ddes i ar draws y gadair yma mewn rhestr o eitemau a werthwyd mewn ocsiwn yng Nghaerfyrddin yn 2015.
Dyma bostio’r llun i gyfryngau cymdeithasol y prosiect, a chael ymateb yn fuan iawn gan sawl un ei bod yn cael ei defnyddio ar gyfer seremoniau Eisteddfod Llambed, a’i bod wedi cael cartref yn hen gapel Libanus, y Borth, sydd bellach yn fwyty ac yn sinema – ac lle mae nifer o gadeiriau eraill yn cael eu cadw hefyd, yn cynnwys cadair hardd Eisteddfod Ponterwyd 1926. Roedd fy ymchwil fy hun wedi dweud wrthyf mai neb llai na T Llew Jones oedd bardd buddugol eisteddfod Llambed ym 1974, a hynny am gyfres o gerddi coffa i ffigurau amlwg ym myd llenyddol y Gymraeg. Yn ôl perthynas iddo, byddai T Llew yn aml yn rhoi ei gadeiriau i ffwrdd am nad oedd lle iddynt i gyd yn ei fyngalo bach!
Mae’r cyfryngau cymdeithasol felly wir yn dangos eu gwerth wrth barhau â’r prosiect o gasglu a chofnodi hanesion yr hen gelfi hyn, ac mae pobl yn parhau i gysylltu o bob cwr â rhagor i’w ychwanegu – diolch o galon, a daliwch ati i wneud, da chi!
Fe allwch wneud hynny trwy’r wefan – cadeiriau.cymru; dros e-bost – [email protected]; neu drwy chwilio am 'Casglu'r Cadeiriau' ar Twitter, Facebook neu Instagram. Gallwch hefyd ysgrifennu ataf yn 9 Heol Elinor, Caernarfon, LL55 1PG.