Yn dilyn un o golofnau Casglu’r Cadeiriau mewn rhifyn diweddar o Steddfota, a oedd yn sôn am gadeiriau eisteddfodol yn cael eu hailddefnyddio, cysylltodd Catherine Richards â’r pwt yma ynglŷn ag un o gadeiriau Eisteddfod Gadeiriol Treuddyn. Y STORI Y TU ÔL I'R LLUN - AILGYLCHU DWBL? Na nid bardd sy'n eistedd â chadair yn ei llaw! Enillwyd y gadair fach yn Eisteddfod Gadeiriol Treuddyn gan Dafydd Guto Ifan yn 2013, cadair a grëwyd gan John Meurig Parry. Cadeiriwyd Dafydd mewn cadair fenthyg o 'Steddfod Dyffryn Conwy, Llanrwst 1958 sydd ar gadw yn yr ysgol leol gan deulu y bardd buddugol, Ffowc Williams, Llanllechid, - sef teulu Islwyn Griffiths, Treuddyn. Cyflwynodd Dafydd Guto Ifan ei gadair i'r ysgrifenyddes, Ceinwen Parry fel gwerthfawrogiad o'i gwaith diflino fel ysgrifenyddes y 'steddfod. Dyna stori ailgylchu cadeiriau Eisteddfod Gadeiriol Treuddyn - dwbl ailgylchu! CATHERINE RICHARDS |