Mae hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar unrhyw flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol. Bydd clicio ar enwau'r beirdd yn mynd â chi at eu bywgraffiadau.
Cyfeiriadau

Y GADAIR
2000
2001 2002 2003 Manon Lloyd 2004 Nia Efans 2005 Ceri Meredydd Jones 2006 Nia Efans [2] 2007 Mared Tomos 2008 2009 Catrin Jones |
Y GORON
2010
2011 2012 2013 2014 2015 2016 Naomi Seren Nicholas 2017 Naomi Seren Nicholas [2] 2018 Megan Elenid Lewis 2019 Sion Jenkins |
2020 NI CHYNHALIWYD EISTEDDFOD
2021 Carwyn Jones 2022 Mared Fflur Jones |
Mae prif gystadlaethau llenyddol Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru yn cynnwys enillwyr y cystadlaethau rhyddiaith a barddoniaeth yn yr holl eisteddfodau sirol ledled Cymru.
Hyd 2015, cyflwynid Cadair Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru am y gwaith gorau yn y prif gystadlaethau rhyddiaith a barddoniaeth. Golygai hyn fod modd weithiau i benderfyniad y beirniaid cenedlaethol wyrdroi yr hyn a ddigwyddodd ar lefel sirol; er enghraifft, enillodd Bethan Mair Hughes gadair Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Eryri yn 2012 gyda cherdd, ond stori fer Gwenno Elin Griffith, a ddaeth yn ail am gadair Eryri, ddaeth i frig cystadleuaeth y Gadair Genedlaethol y flwyddyn honno. Fodd bynnag, ni fu hyn yn bosib ers 2016 gan y cyflwynir coron erbyn hyn am y stori fer orau, a gwobr am farddoniaeth yw'r gadair.
Yn 2018, cwblhawyd y 'dwbl' am y tro cyntaf yn yr eisteddfod hon, wrth i Megan Elenid Lewis o Geredigion gipio'r goron a'r gadair.

ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH CARWEN RICHARDS, SIR GAR [2], CADI GLWYS DAVIES, MALDWYN [3]
Enillydd cadair Eisteddfod Ffermwyr Ifanc CFfI Cymru, Sir Benfro 2022, oedd Lisa Angharad Evans o Glwb Godre'r Eifl, Eryri. Dyma'r eildro i aelod o Glwb Godre'r Eifl ennill y wobr (2016).
Y GADAIR
Dylunydd a gwneuthurwr y gadair oedd Tomos Lewis o Langlydwen, athro dylunio a thechnoleg a oedd hefyd ar y pryd yn is-gadeirydd y Ffermwyr Ifanc yn Sir Benfro. Gwnaed y gadair o goedyn derw, ac mae ei chefn yn adlewyrchu carreg goffa Waldo Williams, un o feirdd Cymraeg enwocaf Sir Benfro, a leolir ger Mynachlog-ddu yng ngogledd y sir. Gellir gweld y garreg yng nghefndir llun y gadair (uchod). Cafwyd y garthen ar gyfer sedd y gadair yn lleol hefyd, o Felin Tregwynt yn Hwlffordd.

ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH MARED ROBERTS, ERYRI [2]; ELEN DAVIES, CEREDIGION [3];
Y GORON
Cafodd y goron ddur ei dylunio a'i chreu gan Eifion Thomas, Dinas, crefftwr o deulu o ofaint yn ymestyn yn ol bum cenhedlaeth. Dyluniwyd y goron i adlewyrchu tri o brif nodweddion Sir Benfro - tir, mor, a mynyddoedd y Preselau. Yng nghefndir y dyluniad ceir amlinell y mynyddoedd hynny, ac mae pysgod, tonnau a chennin pedr yn addurno'r goron.

CYFEIRIADAU
2022
- 'Dadorchuddio cadair a choron Eisteddfod CFfI Cymru' ar wefan BBC Cymru Fyw, 17.11.2022, cyrchwyd 27.02.2023 www.bbc.co.uk/cymrufyw/63652682