Mae'r hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar unrhyw flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol. Bydd clicio ar enwau'r beirdd yn mynd â chi at eu bywgraffiadau.
Cyfeiriadau

1880
1881 1882 1883 1884 1885 1886 1887 1888 1889 |
1890
1891 1892 1893 1894 1895 1896 1897 1898 1899 |
1879J. T. GABRIEL
LLANGOLLEN TESTUN TEYRNASOEDD Y DDAEAR (côr heb fod dan 40 mewn nifer) NIFER YN CYSTADLU GWOBR ARIANNOL £10 DYDDIAD CADEIRIO 14 EBRILL 1879 BEIRNIAID GWNEUTHURWR LLEOLIAD YN 2020 SIAMBR HEN LYFRGELL Y CARNEGIE, COEDPOETH Llun: Gwefan Cyngor Cymuned Coedpoeth |
Prynwyd y gadair mewn arwerthiant ar-lein yn ddiweddar, a'i dychwelyd i Goedpoeth. Daw'r datganiad isod o wefan Cyngor Cymuned Coedpoeth:
The Bardic Chair from the Coedpoeth Eisteddfod 1879
Following an email from Mr Ian Land in Wrexham, the Community Council were alerted to an eBay listing of a Bardic Chair for sale in Chichester. This had been won at the Eisteddfod by Mr J T Gabriel of Newbridge, near Llangollen. The Community Council were pleased to be able to purchase the chair, which is now stored in the Chamber of the The Old Carnegie Library.

Cynigiwyd y gadair hon i arweinydd y côr buddugol yn eisteddfod Wesleyaid y dref. Dyma ddyfynnu llythyr gan un yn dwyn y ffugenw Cymro yn caru Cymru a ymddangosodd ym mhapur Y Gwyliedydd ar 23 Ionawr 1879:
COEDPOETH. Mae yn mryd Wesleyaid y lle hwn gael eisteddfod fawreddog ar ddydd Llun y Pasc. Cynygir gwobr o ddeg punt a chadair dderw am y prif ddernyn cerddorol. Bwriedir cadeirio yr arweinydd, er mwyn sicrhau heddwch wedi yr ymgyrch. Nis gellir llai nag edmygu y pwyllgor yn ei waith yn rho'i cadair i arweinydd y cor buddugol; a phwy a wyr nad oes yn mryd rhywun i ysgrifenu cyfres o lythyrau ar yr "Arweinyddion Cadeiriol." Ond pa un bynag am hyny, credir mewn cylchoedd uchel mai yn eisteddfod Coedpoeth y bydd esiampl o safon perffeithrwydd beirniadol i'r oesau a ddel i'w chael. Dymunwn bob llwyddiant i'r eisteddfod. Bydd yr elw i drysorfa capel Wesleyaid Coedpoeth

ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH RICHARD ROWLANDS [2]
Roedd y gystadleuaeth hon yn gyfyngedig i rai nad oeddent wedi ennill cadair eisteddfodol o'r blaen; Tonlas oedd yn fuddugol allan o 9, a chadeiriwyd ei gynrychiolydd, D. W. Hughes, yn ei le. Cafwyd anerchiadau barddol gan Ap Tegla, Meurig Cybi, T. E. Parri, Thomas Cadwaladr, Dafydd Celi, Idris Ial ac eraill.
Roedd yn gystadleuaeth agos ar ei brig, gyda Richard Rowlands, Lerpwl (dan y ffugenw Myfyr Mon), yn ail. Dywedodd Pedrog yn ei feirniadaeth fod yng nghyfansoddiad Sator 'olwg eangach' ar y testun ac y 'gwna well defnydd o'r 'Ddameg'' (sef dameg yr Hauwr). Cynhwysir dyfyniad o derfyn y bryddest fuddugol yn y feirniadaeth, ac fe'i atgynhyrchir isod:
O Hauwr Dwyfol! Rho dy nerth i minau,
Trwy ing a gwae, i gerdded yn dy Iwybrau;
I hau goleuni yn nhywyllwch daear,
I ffrwytho'r anial a rhinweddau hawddgar:
I wneud fy rhan i leddfu gofid dynion,
A dweyd am gariad Tad wrth blant afradlon;
Dy law a'm deil yn gryf ar ffordd dyledswydd
I wasgar had gwirionedd a sancteiddrwydd.
Gellir darllen beirniadaeth Pedrog yn ei chrynswth yn Y Cymro (23.04.1903) trwy glicio yma.

CYFEIRIADAU
1879
- Gwefan Cyngor Cymuned Coedpoeth, cyrchwyd 28.10.20 https://www.coedpoeth.com/Coedpoeth-CC/press_releases-20692.aspx
1903
- 'Cyfarfodydd y Groglith a'r Pasg', Y Cymro, 16.04.1903
- 'Eisteddfod Gadeiriol Coedpoeth', Y Cymro, 23.04.1903