Diolch i'r canlynol a fu o gymorth mewn amryw ffyrdd wrth roi'r cofnodion ar y dudalen hon at ei gilydd:
Morgan Owen, Caerdydd;
Mae hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol.
2020
Yn 2020, yn ystod y pandemig COVID-19, cynigiwyd cadeiriau mewn dwy gystadleuaeth lenyddol - un i bobl ifanc a'r llall yn agored - gan Gymdeithas Eisteddfodau Cymru, gyda mwyafrif eisteddfodau'r flwyddyn wedi eu gohirio.

Morgan Owen, yn wreiddiol o Ferthyr Tudful, oedd enillydd y gystadleuaeth agored.
Siôn Wyn Evans o Felinfach oedd enillydd y gystadleuaeth i bobl ifanc dan ddeunaw oed, a hynny am gerdd a ysgrifennodd ar ôl 'clywed ar y newyddion bod gwestai gwag mewn dinasoedd yn cynnig lloches i’r digartref yng nghyfnod Pandemig Cofid-19'. Gofynnwyd am farddoniaeth neu ryddiaith ar y testun '2020', ac yn ail a thrydydd roedd Lois Medi Wiliam o Benrhosgarnedd, a Lowri Elen Bebb o Gaernarfon. Anni Llŷn oedd y beirniad.

Y GERDD
Cerdd benrydd yw darn buddugol Morgan Owen, dan y teitl 'Atgyfodwyd fy Ninas'. Mae'n disgrifio'r modd y daeth dinas Caerdydd yn 'fyw' mewn ffordd wahanol yn ystod dyddiau'r haint a'r clo mawr, yn enwedig o ran bywyd gwyllt a byd natur.
Gellir darllen y gerdd ynghyd â'r feirniadaeth yn rhifyn Awst 2020 o Steddfota, cylchlythyr Cymdeithas Eisteddfodau Cymru, o droi at dudalen 5. Mae'r fersiwn ddigidol ar gael i'w darllen yma.
O'R FEIRNIADAETH
Aneirin Karadog oedd beirniad y gystadleuaeth agored, sy'n nodedig, mae'n siŵr, am fod yn un o'r cystadlaethau llenyddol cyntaf i ymateb yn uniongyrchol i'r pandemig, a hynny yn ystod ei anterth. Dyma ddyfynnu rhai o'i sylwadau:
Aeth nifer o’r beirdd i ddychmygu naill ai sgwrs rhwng y bardd a’r feirws, neu lunio ymson lle mae’r feirws ei hun yn siarad. Mewn cystadleuaeth sy’n gofyn am gerddi sy’n trafod Covid-19 wrth ddarllen, ail-ddarllen a thrydydd-ddarllen y cerddi, y rhai oedd yn apelio fwyaf oedd y rhai a amcanent i ganu o safbwynt ehangach, o weld y darlun cyfan neu gymhathu’r pandemig gydag argyfwng arall. Neu, yn achos rhai, peidio braidd â chrybwyll y feirws o gwbwl. Nid canu’n anhestunol mo hyn, gan bod y cerddi a wnaeth hyn yn rhai a oedd yn amlwg yn cyfeirio at y cyfnod digynsail hwn, ond yn osgoi syrthio i ambell fagl o orgyfeirio at y feirws fel y gwnaeth ambell fardd

Y BARDD
Daw Morgan Owen (g. 1994) o Ferthyr Tudful yn wreiddiol. Mae'n fardd, yn awdur ac yn ddramodydd. Cyhoeddodd ddwy gasgliad o farddoniaeth hyd yma, sef moroedd/dŵr (2019) a Bedwen ar y lloer (2019). Mae ei waith yn aml yn archwilio lleoliadau daearyddol fel cyfrwng i fynegi profiadau dynol, yn enwedig yng nghyd-destun ei fro enedigol yng Nghymoedd y De. Cofnod Morgan Owen ar Wicipedia: https://cy.wikipedia.org/wiki/Morgan_Owen_(bardd_a_llenor) |
CYFEIRIADAU
2020
- Steddfota, rhif. 54, Awst 2020, t. 4-5