Digwyddiad untro oedd Gŵyl y Gadair Ddu, a gynhaliwyd ym Mhenbedw i nodi canmlwyddiant Eisteddfod Genedlaethol Penbedw 1917, lle enillodd Hedd Wyn y Gadair, ag yntau wedi ei ladd chwe wythnos ynghynt ar faes y gad yng Nghefn Pilkelm, Gwlad Belg.
Y GADAIR
Cyflwynwyd y gadair drawiadol gan Gymdeithas Hedd Wyn Fflandrys, Gwlad Belg - ac fe'i dyluniwyd gan fyfyrwyr ym Mhrifysgol Thomas More, ym Mechelen. Roedd hyn yn arbennig o arwyddocaol gan mai ffoadur o Wlad Belg, Eugeen Vanfleteren, a ddyluniodd y Gadair Ddu wreiddiol. Roedd wedi bod yn gweithio fel saer ym Mechelen adeg dechrau'r rhyfel, a threuliodd weddill y cyfnod yn gweithio yng Ngogledd Lloegr.
Gwnaed y gadair o estyll rheilffordd a ddarganfuwyd ar dir fferm ger maes y gad. Y bwriad gwreiddiol oedd y byddai'r gadair yn cael ei chyflwyno am yr awdl fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017, ond ni fu'r cais i wneud hynny yn llwyddiannus.

- Gwefan y Daily Post (cyrchwyd 06.01.20) https://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/hedd-wyn-wirral-festival-belgium-13150521