Mae hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar unrhyw flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol.
Cyfeiriadau
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar unrhyw flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol.
Cyfeiriadau
CEFNDIR
Adeiladwyd Capel Gwylfa (MC) ym 1906 i ddyluniad y pensaer Rowland Jones, Caernarfon. Nid oedd ei bywyd yn hir - erbyn 1970 roedd y capel yn cael ei defnyddio fel garej ceir ac mae bellach wedi ei dymchwel, er bod carreg ddyddiad y capel wedi ei chadw mewn mur ar y safle. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am adeilad Capel Gwylfa ar wefan Coflein yma.
Llun: y gwaith adeiladu (Coflein) Cyflwynid cadair Eisteddfod Gadeiriol Capel Gwylfa i arweinydd y buddugol yn y prif gystadleuaeth gorawl. |
Roedd tri o gorau yn cystadlu am gadair Eisteddfod Gwylfa 1910, gyda chôr lleol Capel Hyfrydfa, Manod, Blaenau Ffestiniog, yn mynd â hi. Yn ôl adroddiad Baner ac Amserau Cymru ar y pryd, 'dywedai y beirniad wrth ddyfarnu y wobr [...] fod y canu o radd uchel, ac mai nid yn aml y ceid ei well yn yr Eisteddfod Genedlaethol'.
Gwerthwyd y gadair hon gan gwmni Nook Antiques, Llangollen, a cheir rhagor o luniau ohoni ar eu gwefan.
Mae'n gadair dderw syml ei dyluniad, gyda'r delyn gerfiedig ar ei chefn o bosib yn cyfeirio at y gwahaniaeth rhwng y gadair hon fel gwobr i enillydd cystadleuaeth gerddorol yn hytrach nac un farddonol.

CYFEIRIADAU
1910
- 'Eisteddfod Gadeiriol Gwylfa' yn Baner ac Amserau Cymru, 23.02.1910
1911
- Blaenau Ffestiniog Eisteddfod Chair ar wefan Nook Antiques, cyrchwyd 09.02.2023 nookantiques.co.uk/product/blaenau-ffestiniog-eisteddfod-chair/