Mae hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar unrhyw flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol. Bydd clicio ar enwau'r beirdd yn mynd â chi at eu bywgraffiadau.

Eisteddfod 1894 oedd yr eisteddfod gadeiriol gyntaf yn y gyfres hon, wedi sawl blwyddyn o ymdrechion i gyfuno rhai o'r cyrddau cystadleuol llai yn yr ardal i greu eisteddfod gyffredinol o faint mwy. Arweiniwyd yr eisteddfod gan Hwfa Môn ac Eifionydd.
Nid oedd bardd y gadair, Michael Thomas o Ynyswen, yn bresennol ar gyfer y cadeirio, er siom i'r cynulliad oedd yn bresennol. Fodd bynnag, mae adroddiad Baner ac Amserau Cymru yn nodi iddo gyrraedd yr eisteddfod rhyw dair awr wedi'r cadeirio, 'a chafodd dderbyniad tywysogaidd.'
Cafwyd awgrym gan ohebydd y papur hwnnw y gellid codi dirwy o ddegpunt ar enillwyr cadeiriau a fethau ymbresennoli ar gyfer eu seremoni. 'Byddai hyny', meddai, 'yn tybied y byddai rhaid iddo gael rhybudd prydlawn cyfrinachol'.

Y GADAIR
Enillydd y gystadleuaeth i ddylunio a chreu cadair farddol i'r enillydd oedd y saer lleol, Edward Ellis o Langollen.
Enillydd y gystadleuaeth i ddylunio a chreu cadair farddol i'r enillydd oedd y saer lleol, Edward Ellis o Langollen.
1895
ELISEUS WILLIAMS
(EIFION WYN) PORTHMADOG TESTUN OWAIN GLYNDWR FFUGENW NIFER YN CYSTADLU GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO 3 MEHEFIN 1895 BEIRNIAD ELFED CERNYW LLEOLIAD YN 2022 ANHYSBYS |
Er i Peredur Wyn Williams nodi yn ei gofiant i'w dad, Eifion Wyn, mai yn Ionawr 1895 y cynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol Llangollen, eisteddfod a gynhaliwyd ar y Llungwyn, ddechrau Mehefin, ydoedd. Hon oedd yr ail yn y gyfres hon o eisteddfodau, a'r olaf o bosib, er iddi fod yn llwyddiant i bob golwg.
Canodd y bardd lleol a darpar enillydd y Gadair Genedlaethol, Gwilym Ceiriog, yr englynion hyn i gyfarch Eifion Wyn o lwyfan y cadeirio:
Canodd y bardd lleol a darpar enillydd y Gadair Genedlaethol, Gwilym Ceiriog, yr englynion hyn i gyfarch Eifion Wyn o lwyfan y cadeirio:
I'n glân dad, Owain Glyndŵr – Eifion Wyn
Brawf yn enwog ganwr; Dir fawl i'r dewr ryfelwr A'i wresog gân roes y gŵr. |
Yn llewyrch haul yn llawen – hwn godwn
I gadair Llangollen; Torf eidduna, gyda gwên, Hir fywyd i'w dirf awen. |
Y BARDD
Ganed Eifion Wyn ym Mhorthmadog ym 1867, ac yn ardal y dref honno y bu'n byw a gweithio ar hyd ei oes. Bu'n fardd cystadleuol llwyddiannus (ef sy'n dal y record am ennill cystadleuaeth yr englyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol y mwyaf o weithiau, a bu ond y dim iddo gipio'r Gadair ym 1901, pryd y credai llawer iddo gael cam). Daeth yn enwog am ei delynegion, a'i gyfrol hynod boblogaidd, Telynegion Maes a Môr. Derbyniodd radd M.A. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru ym 1919. Bu farw ym 1926, a'i gladdu ym mynwent Chwilog. Llun: Telynegion Maes a Môr Cofnod Eifion Wyn yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-WILL-ELI-1867 |
1894
- 'Eisteddfod Llangollen' yn Y Genedl Gymreig, 15.05.1894
- 'Llangollen Chair Eisteddfod' yn The Western Mail, 17.05.1894
- 'Eisteddfod Gadeiriol Llangollen' yn Tarian y Gweithiwr, 24.05.1894
- 'Eisteddfod Gadeiriol Llangollen' yn Baner ac Amserau Cymru, 30.05.1894
1895
- Peredur Wyn Williams, Eifion Wyn (Llandysul 1980), tud. 31
- 'Eisteddfod Gadeiriol Llangollen' yn Baner ac Amserau Cymru, 12.06.1895