Mae hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar unrhyw flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol. Bydd clicio ar enwau'r beirdd yn mynd â chi at eu bywgraffiadau.

1970 Charles Jones
1971 1972 1973 1974 1975 Moses Glyn Jones 1976 1977 1978 1979 |
1980
1981 1982 1983 1984 1985 1986 1987 1988 1989 |
1990
1991 1992 1993 1994 1995 1996 1997 1998 1999 |
2000
2001 2002 2003 T. Graham Williams (Cefnfab) 2004 2005 2006 Elfed Lewis 2007 Gwilym Hughes 2008 Gwilym Hughes [2] 2009 |
2010
2011 2012 2013 2014 2015 Richard Morris Jones 2016 2017 Robin Hughes 2018 Dafydd Guto Ifan 2019 Richard Morris Jones [3] |
Cyflwyniad
Er i Eisteddfod Mynytho fodoli a thyfu am rai blynyddoedd cyn 1969, yn y flwyddyn honno y penderfynwyd rhoi iddi statws Eisteddfod Gadeiriol.
Cynhelir yr eisteddfod flynyddol yn Neuadd Goffa Mynytho (dde), testun englyn enwog R. Williams Parry ar achlysur ei hagor: Adeiladwyd gan dlodi; - nid cerrig Ond cariad yw'r meini; Cyd-ernes yw'r coed arni; Cyd-ddyheu a'i cododd hi. Llun: Alan Fryer trwy Wikimedia Commons |
1969CHARLES JONES
MYNYTHO TESTUN BAE CEREDIGION (CADWYN O ENGLYNION) FFUGENW MORYN Y BAE NIFER YN CYSTADLU 8 GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO BEIRNIAD GWILYM TILSLEY LLEOLIAD YN 2022 ANHYSBYS |
Bardd lleol, Charles Jones, oedd bardd y gadair yn Eisteddfod Mynytho 1969. Roedd ar y pryd yn athro yn Ysgol Uwchradd Botwnnog, a nodwyd yn ei fywgraffiad yng nghyfrol pigion yr eisteddfod mai rhai o'i hoffterau oedd garddio, pysgota a ffotograffiaeth.
Roedd Charles Jones yn gyn-enillydd ar yr englyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac mae'n eglur o'r cyflwyniad i'r gyfrol fechan o gyfansoddiadau buddugol yr eisteddfod fod hynny, ynghyd ag adnabyddiaeth y gynulleidfa o'r enillydd fel un o'u plith, wedi rhoi bri ar y gystadleuaeth ac achosi cryn gyffro:
Cadwodd Mr. W. E. [William Ellis] Jones ein hysgrifennydd y gyfrinach am y bardd buddugol yn berffaith ddi-lwgr, ac ni wyddai yr arweinyddion hyd yn oed, ddim oll am y dyfarniad nes y safodd y bardd ar ei draed pan alwyd ei enw: Moryn y Bae. Rhedodd gwefr drydanol drwy'r dorf pan ganfuwyd mai Charles Jones, Mynytho oedd Bardd y Gadair, Bardd aml ei gadair, a bardd a enillodd y wobr Genedlaethol am ei englyn i'r "Pry Canwyll".

Y GERDD
Cadwyn o 9 englyn yw'r gerdd fuddugol, a byddai'r testun, 'Bae Ceredigion', yn amlwg wedi apelio i Charles Jones ag yntau'n byw ar lethr Mynytho gyda'r dywededig fae yn ymagor o'i flaen. Mawl i'r bae ei hun a geir, ac mae'r bardd yn cloi gyda'r ddau englyn yma, sy'n cyferbynnu prysurdeb y miloedd a ddenir i fwynhau glesni'r bae a'i awydd personol i fwynhau ei heddwch hyd ddiwedd ei oes. Cofir hefyd fod Charles Jones yn hannu o deulu o forwyr, fel cynifer o drigolion Llŷn.

Hwyliau'r byd sy'n hulio'r Bae – ar ewyn
Amrywiol batrymau; Denir miloedd i'w donnau I fynnu hedd a'i fwynhau. |
Ei hedd boed imi fwynhau – yn dawel
Nes daw diwedd dyddiau; Lle y bwyf rhowch fy rhwyfau Ar y bedd, ar gwr y Bae. |
Gellir darllen y gerdd yn ei chrynswth yn Nithiad o Wyl Mynytho: Pigion o gynnyrch Llenyddol Eisteddfod Gadeiriol 1969, a gyhoeddwyd gan bwyllgor yr eisteddfod trwy Wasg y Castell, Cricieth.
Yr eisteddfodwr o Riwfawr, Cefnfab, oedd enillydd y gadair yn Eisteddfod Mynytho 2003.
Y BARDD
Ganed Thomas Graham Williams ym 1936 yng Nghefn Bryn Brain. Cafodd ei enw barddol o enw'r pentref. Gweithiodd fel glowr cyn cael addysg bellach yn hwyrach yn ei oes, a graddio o'r Brifysgol agored. Roedd yn gystadleuydd llwyddiannus mewn eisteddfodau lleol ar hyd a lled y wlad; ac yn adnabyddus am ei berfformiadau adrodd yn ogystal â'i gamp o ennill dros 80 o gadeiriau barddol. Roedd yn perfformio sioe un-dyn ar hanes Dylan Thomas ac yn dysgu Cymraeg i oedolion. Bu farw yn Ionawr 2020, yn 86 oed.
Bywgraffiad Cefnfab ar ei wefan bersonol:
http://www.cefnfab.co.uk/biog.htm

Enillodd Gwilym Hughes, cyn-athro o Fynytho, ei gadair eisteddfodol gyntaf yn Eisteddfod Mynytho 2007.
Enillodd y bardd lleol, Gwilym Hughes, ei ail gadair yn olynol yn Eisteddfod Mynytho yn 2008.
Enillydd y gadair yn Eisteddfod Gadeiriol Mynytho 2019, a hynny am y trydydd tro, oedd Richard Morris Jones o Gaernarfon.
2020-22
Ni chynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol Mynytho yn 2020, 2021 na 2022 oherwydd pandemig COVID-19.
1969
- Nithiad o Wyl Mynytho: Pigion o gynnyrch Llenyddol Eisteddfod Gadeiriol 1969 (Gwasg y Castell, Cricieth)
2003
- 'Eisteddfodau' ar wefan T. Graham Williams (Cefnfab, 1936-2020), cyrchwyd 20.07.2022 (www.cefnfab.co.uk/eisteddfodau.htm)
2007
- 'Eisteddfod Gadeiriol Mynytho' yn The Daily Post, 20.04.2007, cyrchwyd ar-lein 20.07.2022 (www.thefreelibrary.com/WALES%3A+Eisteddfod+Gadeiriol+Mynytho.-a0162329995)
2008
- 'Eisteddfod Gadeiriol Mynytho results' yn The Daily Post, 15.04.2008, cyrchwyd ar-lein 20.07.2022 (www.thefreelibrary.com/WALES%3A+Eisteddfod+Gadeiriol+Mynytho+results.-a0177858636)
2018
- 'Canlyniadau o Mynytho' yn The Daily Post, 23.05.2018, cyrchwyd 20.07.2022 (www.thefreelibrary.com/Canlyniadau+o+Mynytho.-a0539900916)
2019
- cyfrif Facebook Eisteddfod Gadeiriol Mynytho, cyrchwyd 20.07.2022 (https://www.facebook.com/eisteddfodgadeiriolmynytho/)
- adroddiad Eisteddfod Gadeiriol Mynytho 2019 ar wefan Cymdeithas Eisteddfodau Cymru, cyrchwyd 20.07.2022 (smala.net/steddfota/wp-content/uploads/2019/04/Adroddiad-a-Chanlyniadau-Mynytho-2019-Autosaved.pdfdf)