Diolch i'r canlynol a fu o gymorth mewn amryw ffyrdd wrth roi'r cofnodion ar y dudalen hon at ei gilydd:
Eifion Wynne;
Mae hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar unrhyw flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol. Bydd clicio ar enwau'r enillwyr yn mynd â chi at eu bywgraffiadau.
Cyfeiriadau

ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH CÔR LLANFOR, CÔR BUTT LANE, CÔR MAELOR, CÔR CEFN, CÔR WRECSAM
Cystadlodd chwech o gorau meibion ym mhrif gystadleuaeth gorawl Eisteddfod Pentrecelyn 1914, mewn gornest a barodd oddeutu dwyawr, yn ol adroddiad Baner ac Amserau Cymru. Cynhaliwyd yr eisteddfod mewn sied sylweddol ar dir Llysfasi, ar wahoddiad R. W. Brown, perchennog y coleg amaethyddol a sefydlwyd ar dir yr ystad ym 1911. Gallai'r adeilad ddal yn agos at ddwy fil o bobl - angenrhaid o ystyried nifer y corau a gystadlai yno trwy gydol y dydd - roedd 1,500 o bobl yn bresennol ar gyfer cyfarfod yr hwyr. Mae'n werth tynnu sylw at yr olygfa a ddisgrifiwyd gan y gohebydd ar ddiwedd yr eisteddfod, gyda phawb yn prysuro am adref:
Ar derfyn cyfarfod yr hwyr, yr hwn a ddibenodd o ddeutu un ar ddeg o'r gloch, caed golygfa hynod. Yn y brif ffordd yr oedd dwsin neu chwaneg o gerbydau modur anferth eu maint yn disgwyl am eu llwythi; yn y buarth, ac hefyd, yn y ffordd, hanner cant o gerbydau bach a mawr gyda'r meirch ynglyn wrthynt, ac yna rhai cannoedd o feisyclau - pob cerbyn a modur, &c., gyda'u llusernau yn oleu. Yr oedd yr olygfa yn un fywiog dros ben, a phrysured oedd y dorf am hel tua thre fel y bu'r heddgeidwaid wrthi a'u holl egni yn rheoli a chyfarwyddo y drafnidiaeth. Y mae'n debyg na welwyd golygfa o'r fath yn Mhentrecelyn erioed o'r blaen. Yr oedd yn dyst effeithiol i ddylanwad yr eisteddfod.
Golygfa anghyffredin iawn mewn pentref gwledig yng Ngogledd Cymru ym 1914!

Enillwyr cadair Eisteddfod Pentrecelyn 1923 oedd Cor Meibion Cymreig Wallasey dan arweiniad Henry Roberts.
Y GADAIR
Bu'r gadair hon am ddegawdau yng Nghapel Seion (P), Penbedw - fe'i cyflwynwyd yn rhodd i Gymdeithas Cymry Wallasey ym 1964 gan deulu Henry Roberts, yr arweinydd. Gwelir yr holl fanylion ar blac ar gefn y gadair (a ddangosir yn y llun ar y dde). Yn 2022, yn dilyn ymweliad aelodau Bethel, Pentrecelyn, â Chapel Seion, rai blynyddoedd ynghynt, dychwelwyd y gadair i'r man lle cafodd ei gwobrwyo. |
CYFEIRIADAU
1914
- 'Pentrecelyn, ger Rhuthyn' yn Baner ac Amserau Cymru, 27.06.1914
1923
- Ffotograffau a gwybodaeth a rannwyd gan Eifion Wynne ar grwp 'Cerddi Corona!' ar Facebook, 25.02.2023, cyrchwyd 27.02.2023 www.facebook.com/groups/631541714076813/permalink/1312202062677438/