Mae hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar unrhyw flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol. Bydd clicio ar enwau'r beirdd yn mynd â chi at eu bywgraffiadau.

Unwaith yn unig y cynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol Sarn Meillteyrn, a hynny ym 1883.
Y BARDD
Ganed y Prifardd Thomas Jones (Tudno) yn Llandudno yn 1844. Roedd yn fardd, yn offeiriad ac yn newyddiadurwr. Bu'n gweithio fel golygydd y Llandudno Directory, ac am gyfnod i'r Caernarvon and Denbigh Herald. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol bedair gwaith, record y mae'n ei rhannu â Dewi Emrys a Dyfed. Bu farw ym 1895, yn 51 oed. Cyhoeddwyd cyfrol o'i farddoniaeth dan olygyddiaeth David Rowlands (Dewi Môn) wedi ei farwolaeth - Telyn Tudno (1897). Llun: Telyn Tudno (1897) Cofnod Tudno yn y Bywgraffiadur Cymreig: http://yba.llgc.org.uk/cy/c3-JONE-TUD-1844.html |