Ers sefydlu gwefan Casglu’r Cadeiriau mae sawl un wedi cysylltu gyda gwybodaeth am gadeiriau sydd yn eu meddiant neu rai y maent yn gwybod amdanynt. Ond weithiau, daw cadair i’r fei nad oes neb yn hollol siwr beth yw ei hanes. Dyma oedd yr achos gyda chadair Eisteddfod Yr Eifl 1897, a ddaeth i’r fei mewn sied yn Rhos Isaf ger Caernarfon yn ddiweddar. Cysylltodd y sawl oedd wedi etifeddu’r sied gyda lluniau o’r gadair a chais am fwy o wybodaeth amdani.
Tyrchais mewn hen bapurau newydd, a dod o hyd i ambell golofn. Mae’n debyg bod eisteddfod Yr Eifl yn Llithfaen yn ddigwyddiad sylweddol o ran maint tua throad yr ugeinfed ganrif. Yn wir, roedd dros 500 o gystadleuwyr yn eisteddfod 1897, a gynhaliwyd ar ddiwrnod ‘hyfryd a hafaidd’ o Fai, â’r cystadlaethau yn amrywio o wau sanau i unawd soprano, ac o dynnu llun mochyn i gystadleuaeth ‘setts’ gwenithfaen ar gyfer y chwarelwyr.
Daeth pedair pryddest ar hugain i law ar destun y gadair, sef ‘Enoch.’ Y beirniad oedd Alafon, sef y Parch. Owen Griffith Owen, gweinidog gyda’r Methodistiaid Calfinaidd ym mhlwyf Llanddeiniolen, Arfon.
Er nad oedd gwahaniaeth mawr, meddai Alafon, yn nheilyngdod yr wyth pryddest uchaf yn y gystadleuaeth, gwelai fod dau yn dod i’r brig, sef eiddo ‘Llef’ a ‘Syml.’ O drwch blewyn, ‘Syml’ oedd flaenaf, ac meddai:
‘Canodd bryddest frwd, rymus, farddonol iawn, heb ynddi ond ychydig iawn o bethau anfoddhaol, a’r rhai hyny yn bethau lled ddibwys bron i gyd…Y mae y dychmygiadau a’r desgrifiadau yn fyw iawn, ac yn effeithiol iawn bron trwyddynt. ‘ (Yr Herald Cymraeg, 25ain o Fai 1897)
Wedi’r feirniadaeth galwyd ar y bardd buddugol i godi ar ei draed yn ôl yr arfer, ond buan y sylweddolwyd nad oedd ‘Syml’ na chynrychiolydd iddo yn bresennol yn y gynulleidfa. Yn ei absenoldeb, cymerwyd ei le yn y seremoni gan un Mr. D. R. Daniel o’r Ffôr, a chafwyd ‘anerchiadau barddonol gan amryw feirdd, y rhai sydd yn rhy luosog i’w henwi.’
Ni wyf wedi gallu darganfod dim mwy o hanes y gadair hyd yn hyn, ond mae gan y teulu yn Rhos Isaf gysylltiadau â Llithfaen. Mae’n ddigon posib na ddaeth yr enillydd ymlaen o gwbl i hawlio’i wobr, a bod y gadair wag wedi cael ei phasio i lawr drwy deulu rhywun arall yn y pentref. Pwy oedd ‘Syml’, tybed?
Peth sy’n ddifyr iawn i’w nodi yw i’r un math o sefyllfa godi flwyddyn yn ddiweddarach, yn eisteddfod Yr Eifl 1898:
Ni ddaeth y bardd buddugol na’i gynrychiolydd yn mlaen, yr hwn a gyfenwai ei hun yn Astrea, a phenderfynwyd sefyll wrth yr amodau, a chedw’r gadair hyd yr eisteddfod nesaf. (Y Genedl Gymreig, 17eg Mai 1898)
Mae’r ‘amodau’ yn awgrymu i reol newydd gael ei roi mewn grym wedi siom 1897, ac i’r pwyllgor weithredu yn unol â’r rheol hwnnw. Cafwyd gwell lwc ym 1899, pan enillodd Owen Caerwyn Roberts y gadair ar y testun ‘Duw gadwo Gymru.’
Os oes unrhyw un yn gwybod rhagor o hanes cadair eisteddfod Yr Eifl 1897, cofiwch gysylltu!