Aneirin Karadog o Bontyberem oedd Prifardd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016. Enillodd y gadair (o waith Emyr James, ac a roddwyd gan deulu'r diweddar Brifardd ac Archdderwydd Dic Jones i ddynodi 50-mlwyddiant awdl 'Y Cynhaeaf') am ddilyniant o gerddi caeth ar y testun 'Ffiniau.' Roedd y cerddi, sy'n cylchdroi o amgylch mab sy'n hyfforddi'n filwr, a'i dad sy'n heddychwr, yn archwilio rhyfel a heddwch, ac yn proffwydo fod 'y nos yn dynesu' i ddynoliaeth. Ei ffugenw oedd 'Y Tad Diymadferth.'
Y beirniaid oedd Tudur Dylan Jones, Cathryn Charnell-White a Meirion Macintyre Huws.
Y beirniaid oedd Tudur Dylan Jones, Cathryn Charnell-White a Meirion Macintyre Huws.
Elinor Gwynn o Rostryfan oedd Prifardd y Goron. Enillodd y goron (o waith Deborah Edwards ac yn rhodd gan Gymreigyddion y Fenni) am gasgliad o gerddi rhydd ar y testun 'Llwybrau.' Mae 'Llwybrau' yn gasgliad teimladwy sy'n delio a'r profiad o golli rhywun agos. Ei ffugenw oedd 'Carreg Lefn.'
Y beirniaid oedd Sian Northey, Menna Elfyn, ac Einir Jones.
Y beirniaid oedd Sian Northey, Menna Elfyn, ac Einir Jones.
Gwynfor Dafydd o Donyrefail oedd prifardd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir y Fflint 2016 ar y testun 'Cam'. Daeth y bachgen 18 oed i'r brig gyda dilyniant o gerddi yn ymdrin ag anghyfiawnder cymdeithasol yng nghymoedd glofaol y de. Cawsai'r cerddi eu hysbrydoli gan raglen ar y BBC oedd yn portreadu'r ardal mewn ffordd negyddol. Enillodd gadair o waith Neil Wyn Jones sy'n llawn symbolaeth o ardal yr eisteddfod. Ei ffugenw oedd 'Cwm Cnoi,' a'r beirniaid oedd Hywel Griffiths a Gwenallt Llwyd Ifan. Yn ail daeth Sion Jenkins o Glunderwen, gyda Gethin Wynn Davies o Gaerdydd yn drydydd. |
Gethin Wynn Davies o Brifysgol Caerdydd oedd ennillydd cadair yr Eisteddfod Ryng-Golegol a gynhaliwyd yn y brifddinas fis Chwefror. Awdl oedd ei gerdd fuddugol, yn canolbwyntio ar hanes bysgiwr unig ar strydoedd y ddinas. 'Mea Culpa' oedd ei ffugenw. Y beirniad oedd Llyr Gwyn Lewis. Yn ail yn y gystadleuaeth roedd Iestyn Tyne o Brifysgol Aberystwyth, gyda Morgan Owen o Brifysgol Caerdydd yn drydydd.
Iestyn Tyne o Aberystwyth oedd enillydd Cadair Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru 2016, gydag awdl ar y testun 'Gwawr.' Y beirniad oedd y Prifardd Hywel Griffiths. Enillydd y Goron am ryddiaith oedd Naomi Seren Nicholas.
Draw ym Mhatagonia bu llwyddiant i feirdd o Gymru hefyd, gyda Terwyn Tomos o Landudoch yn cipio cadair Eisteddfod Y Wladfa, a Iestyn Tyne yn ennill cadair Eisteddfod Bro Hydref, Trevelin.
Yn eisteddfodau sirol y Ffermwyr Ifanc, dyma fu'r hanes:
Enillydd cadair Ffermwyr ifanc Sir Geredigion am gerdd ar y testun 'Gwawr' oedd Ceris James o C.Ff.I Mydroilyn. Yn Eisteddfod Eryri a gynhaliwyd ym Mhorthmadog, enillodd Iestyn Tyne drydedd cadair yn olynol am gerdd ar yr un testun. Cipiodd Myfanwy Alexander o Lanfaircaereinion gadair Eisteddfod Maldwyn, a Celt John ddaeth i'r brig ym Meirionydd. Elin Rowlands o Langefni oedd yn fuddugol yn Eisteddfod Ffermwyr ifanc Mon, a Naomi Nicholas o glwb Llysyfran enillodd gadair Sir Benfro. Siwan Davies gipiodd y gadair yn Sir Gar.
Enillydd cadair Ffermwyr ifanc Sir Geredigion am gerdd ar y testun 'Gwawr' oedd Ceris James o C.Ff.I Mydroilyn. Yn Eisteddfod Eryri a gynhaliwyd ym Mhorthmadog, enillodd Iestyn Tyne drydedd cadair yn olynol am gerdd ar yr un testun. Cipiodd Myfanwy Alexander o Lanfaircaereinion gadair Eisteddfod Maldwyn, a Celt John ddaeth i'r brig ym Meirionydd. Elin Rowlands o Langefni oedd yn fuddugol yn Eisteddfod Ffermwyr ifanc Mon, a Naomi Nicholas o glwb Llysyfran enillodd gadair Sir Benfro. Siwan Davies gipiodd y gadair yn Sir Gar.
Ym myd yr eisteddfodau lleol a rhanbarthol, enillwyd cadair gyntaf y flwyddyn gan Iestyn Tyne yn eisteddfod gadeiriol Chwilog, am gasgliad o gerddi ar y testun 'Cymod.' Y beirniad oedd y Prifardd Tudur Dylan Jones. Yn Eisteddfod Gadeiriol Crymych, enillodd Hanna Roberts o Gaerdydd y gadair am yr eildro o'r bron.
Enillodd Hedd Bleddyn gadair yn Llanegryn am yr ail flwyddyn yn olynol, 90 mlynedd yn union wedi i'w dad ennill y gadair yn yr un eisteddfod am yr eildro. Dorothy Jones oedd y beirniad.
Siw Jones o Felinfach oedd bardd y gadair yn Eisteddfod Brynberian dan feirniadaeth Alun Jones, Chwilog. Siw Jones hefyd oedd bardd cadeiriol eisteddfod Yr Hendy ym Mis Mai, gyda Aneirin Karadog yn beirniadu, a chipiodd Richard Llwyd Jones o Fethel gadair Llanllyfni.
Megan Richards o Aberaeron aeth a hi yn Eisteddfod Llanfihangel-ar-arth, ac Emyr Jones o Gaerdydd gafodd ei gadeirio yn Eisteddfod Penrhyncoch. Enillodd Menna Medi y gadair yn Eisteddfod Llandderfel.
Enillodd Iestyn Tyne ail gadair yn olynol yn Y Ffor, am ddilyniant ar y testun 'Bywyd.' Myrddin ap Dafydd oedd y beirniad. Enillodd Terwyn Tomos o Landudoch gadair Eisteddfod Teulu James Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid dan feirniadaeth Rhys Iorwerth. Rachel James o Boncath oedd bardd y gadair yn Eisteddfod Rhydlewis.
Endaf Griffiths enillodd gadair Eisteddfod Maenclochog, gyda Hefin Wyn o Faenclochog yn ennill cadair Eisteddfod Llandudoch. Awel Jones o Lanuwchllyn a enillodd gadair Eisteddfod y Llungwyn yn Llanuwchllyn, a hynny am yr eildro (2004). Enillodd Martin Huws, Ffynon Taf ei gadair eisteddfodol gyntaf yng Ngwyl Fawr Aberteifi. Dafydd Guto Ifan enillodd gadair Eisteddfod Bodffordd, a rhoddodd ei gadair i Osian Roberts, hyfforddwr tim pel-droed Cymru.
Llion Pryderi Roberts oedd enillydd cadair Eisteddfod Gadeiriol Mon (Bro Paradwys) a dyma ei ail gadair o Eisteddfod Mon (2003 - Aberffraw). Enillodd ar y thema 'Paradwys', o dan y beirniaid Ifor ap Glyn a Derec Llwyd Morgan. Geraint Morgan o Gaerfyrddin oedd enillydd cadair Eisteddfod Teulu James Pantyfedwen Llanbedr Pont Steffan. Enillodd Anwen Pierce o Bow Street gadair Eisteddfod Talaith a Chadair Powys, a gynhaliwyd yng Nghroesoswallt.
Gaenor Morris Watkins o Lanymddyfri enillodd gadair Eisteddfod Llanwrtyd, a chipiodd Ifan Prys y wobr yn Eisteddfod Cwmystwyth.
Cafodd Hedd Bleddyn gadair arall yn Eisteddfod Y Talwrn, a Hanna Roberts o Gaerdydd oedd yn fuddugol am yr eildro yn olynol yn Eisteddfod Felindre, Abertawe.
Geraint Morgan o Abertawe oedd enillydd cadair Eisteddfod Llandyfaelog, gyda Mari George yn beirniadu.
Arwel 'Rocet' Jones aeth a chadair Eisteddfod Tregaron eleni, gyda Megan Richards o Aberaeron yn ennill cadair arall yn Eisteddfod Pumsaint.
Yn Eisteddfod Felinfach, daeth y Parch Stephen J. Morgan i'r brig. Cipiwyd cadair Eisteddfod Bancffosfelen gan Grug Muse o Garmel, sydd yn fyfyrwraig yn Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe, a chadair Eisteddfod Deiniolen gan Richard Llwyd Jones. Enillodd Eluned Edwards gadair Eisteddfod Treuddyn. Hedd Bleddyn oedd enillydd cadair ddiwethaf y flwyddyn yn Eisteddfod Aelhaearn, gyda Guto Dafydd yn beirniadu.
Rydym yn ymwybodol fod ambell i eisteddfod wedi disgyn trwy'r rhwyd. Cysylltwch os 'da chi'n gwybod canlyniad sydd heb ei gofnodi yma!