" Rhannodd ef ei gerdd yn dair rhan, a rhoes i ni luniau syml, ond byw, o'r digwyddiadau a'r profiadau sydd yng ngwanwyn ein bywyd bach ar y ddaear. Felly trefnodd ei waith yn well na'r lleill, ac yr ydym ar ol darllen ei gerdd yn gweld y pictiwr, ac yn ei adnabod, ac yn cydymdeimlo ag ef. Am hyny yr wyf yn bwrw mai ef yw'r goreu. " T. Gwynn Jones |
Ym Môn y flwyddyn nesaf byddwn yn nodi can mlynedd ers Eisteddfod y Gadair Ddu, lle’r oedd Ellis Evans, neu Hedd Wyn yn fuddugol am ei awdl i’r Arwr, ac yntau wedi ei ladd chwe wythnos ynghynt ym Mrwydr Cefn Pilkelm yng Ngwlad Belg.
Ond nid Hedd Wyn oedd yr unig fardd ifanc addawol y torrwyd ei fywyd yn fyr gan y Rhyfel Mawr; yn hytrach daeth y Gadair Ddu yn symbol o genhedlaeth gyfan llawn potensial a aeth i’r laddfa. Ar Fai yr unfed ar hugain eleni, bydd hi’n gan mlynedd ers marwolaeth bardd ifanc arall o Gymru yn y Rhyfel, sef Gwilym Williams, athro ifanc o Drelech a’r Betws, Sir Gaerfyrddin. Mae’r gadair a enillodd y bardd ifanc yn Eisteddfod Coleg y Brifysgol Aberystwyth ar Ŵyl Dewi 1912 wedi cael ei dychwelyd i adran Gymraeg y brifysgol gan ei deulu yn ddiweddar, fel rhan o’r digwyddiadau i nodi’r canmlwyddiant.
‘Gwanwyn Bywyd’ oedd testun y bryddest, ac roedd T. Gwynn Jones yn barnu mai Mab y Mynydd oedd yn deilwng o’r gadair. Yn ôl safonau heddiw mae hi’n gerdd faith, ond rhaid cofio mai dyma oedd natur barddoniaeth eisteddfodol y cyfnod. Rhamantaidd dros ben yw’r cywair drwyddi draw wrth i’r bardd ddarlunio stori plentyn yn tyfu’n ddyn ac yn garwr.
Mae’r bryddest wedi ei rhannu yn dair rhan; Ei Fabinogi, Ei Lwybrau, ac Ei Lanerch Hud. Yn Ei Fabonogi gwelwn y baban yng nghwmni ei rieni, a’r gormodiaith sydd yn ei ddisgrifio fel y peth harddaf yn y byd hardd o’i gwmpas;
Tegach fil na blodau’r byd
Ydyw llewych wyneb plentyn,
A phereiddiach miri’r crud
Na thelori’r un aderyn.
Mae son am y babi’n mynd drwy salwch; ‘I rieni baban claf / nid yw’r haf ond gaeaf gerwyn,’ yna cam cyntaf y bychan; ‘O gol ei fam anturia’r tlws / yn ofnus hyf tua throthwy’r drws.’
Yna yn Ei Lwybrau gwelwn y ‘llanc’ yn prysuro tua’r ysgol trwy gefn gwlad lle ‘Ar wŷs y gloch ar ddiwedd taith mor iach, / Eistedda’n awr a’i lygaid ar ei athro,’ ac yna ymlaen drwy’r cyfnod yma i gyfnod y coleg, lle mae’n gorfod gadael ei gartref, a bob wythnos yn anfon llythyrau hiraethus adref; ‘O’r dref i’r wlad, o’r wlad i’r dref, ar daith / bob wythnos mwy fe ddenfyn serch lateion.’
Mae’r trydydd rhan yn mynd i fyd serch;
Mae y dewin, mae y bardd
Bortreada’r fanon finfel?
Tlws yw gwrid ei hwyneb hardd,
Lluniaidd ei gwefusau cwrel;
Unlliw’r nos yw gwallt y war,
Treiddgar ei serenog lesni,
Ond ni chenfydd ond a’i car
Mo anwyldeb dwfn ei thlysni.
Mae’r pennill clo yn troi y rhod fel petae – cawn ddarlun o deulu dedwydd newydd yn barod i gychwyn teulu; ‘Moli’r haf mae mab a mun / Ar eu haelwyd fach eu hunain.’ Diweddglo rhagweladwy ond digon taclus, a dyma un peth a bwysleisir gan T. Gwynn Jones yn ei feirniadaeth; bod cynllun y gerdd yn gryf yn ogystal a bod yn farddoniaeth – bod meddwl y tu ôl i’r strwythur sy’n dilyn trefn amser ac yn dod a ni mewn rhyw fath o gylch cyfan.
Wedi ei farwolaeth yn y Rhyfel cyhoeddwyd cyfrol o farddoniaeth Gwilym Williams gan ei frodyr a'i chwiorydd, sef 'Dan yr Helyg' (Llanelli 1917). Mae copiau caled o'r llyfr yn weddol brin, ond mae'r copi cyfan ar gael yn ddigidol ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol:
http://cymru1914.org/en/view/manuscripts/3698716/1
Un o'r englynion a geir ynddi yw hon;
Dymuniad da i Miss Helen Rowlands, B.A., Cenhades
Draw i randir yr India - mae Helen
Am hwylio o Walia;
O'n golwg ni, O gwylia
Hi dros y dwr, Iesu da.
Mae'n debyg mai cariad i Gwilym Williams oedd Helen Rowlands, a benderfynodd ei adael ei fynd yn genhades i India. Mae'n bosib y bu hyn yn un o'r ffactorau a'i ysgogodd i ymuno â'r fyddin.
Drwyddi draw mae ei ganu yn dangos rhyw ddiniweidrwydd braf, rhamantaidd; eironig felly iddo gael ei ladd yng nghyflafan erchyll y Rhyfel Byd Cyntaf, ac mae rhywun yn meddwl tybed sut fyddai ei waith wedi newid yn sgil ei brofiadau yn y rhyfel.
Nid cadair Aberystwyth oedd yr unig gadair iddo ei henill, ond hi oedd y gyntaf. Enillodd bedair cadair i gyd, ynghyd â nifer o wobrau eisteddfodol llai. Enillodd gadeiriau ar 'Swynion Anian' yn Eisteddfod Gadeiriol Cwmduad, 1913, 'Cario'r Groes' yn Eisteddfod Gadeiriol Beulah, Ceredigion, Pasg 1914, yna'i gadair olaf ar 'Gelynion Cymru Fydd' yn Eisteddfod Gadeiriol y Tabernacl, Caerfyrddin, Calan 1914. Tybed i ble'r aeth y cadeiriau hynny?
O ran dyluniad, mae cadair 1912 yn debyg iawn i gadeiriau eisteddfodau'r Brifysgol ym 1907 a 1909, pan enillodd T. H. Parry-Williams ar 'Rhiannon' a 'Gwenllian.' Mae lluniau o'r rhain yn Bro a Bywyd Syr Thomas Parry-Williams (Ifor Rees, Cyngor Celfyddydau Cymru 1981). Ceir cerfwaith addurniadol iawn ar y cefn ac ar y breichiau, ond yn achos y tri, plâc metel ar gefn y gadair sydd yn dynodi'r dyddiad a'r lleoliad, gan awgrymu efallai nad oedd y crefftwr yn meddu'r sgiliau oedd eu hangen i gerfio llythrennau i'r pren.

Iestyn Tyne