Yn sefyll yn festri Eglwys Moriah, Dolwyddelan erbyn heddiw mae dwy gadair yn gwmni i’w gilydd. Bu un cadair yn unig tan yn ddiweddar, a chadair Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman 1922 oedd honno.
Y BARDD
Yr enillydd oedd Dr. John Lloyd Jones. Fe anwyd yr Athro yng Nghartrefle, Dolwyddelan ym Mis Hydref 1885, yn fab i John a Dorothy Lloyd Jones. Cafodd ei addysg yn Ysgol Dolwyddelan ac yn yr Ysgol Sir yn Llanrwst. Derbyniodd ysgoloriaeth gan Goleg y Brifysgol Bangor ac yn 1902 dechreuodd ar ei daith fel myfyriwr.
Astudiodd o dan arweinyddiaeth Syr John Morris Jones ym Mangor, gan raddio gydag anrhydedd ym 1906 , ac M.A ym 1909. Ym 1907 ymaelododd John Lloyd Jones fel myfyriwr ymchwil yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, gan ennill gradd B.Litt yno ym 1908. Gadawodd Brydain am Fosiburg, Yr Almaen i astudio Gwyddeleg a Chelteg o dan Rudolf Thurneysen.
Derbyniodd yr athro swydd fel darlithydd mewn Cymraeg a Chelteg yn Nulyn, a threuliodd dros 40 mlynedd yno. Yno enillodd barch cyffredinol, a chawsai ei adnabod fel llysgennad answyddogol oedd yn arwain Cymry enwog i ymweld ag Arlywydd Iwerddon. Roedd yr athro yn flaenor yng Nghapel Cymraeg Methodistaidd Dulyn ac roedd ef a’i wraig Freda yn gwneud llawer yn y capel. Merch o Fangor oedd Freda a bu i’r ddau briodi ym 1922. Derbyniodd ym 1948 radd ‘Doethor mewn Llenyddiaeth’ gan Brifysgol Cymru i ddangos eu gwerthfawrogiad o’i waith iddynt fel arholwr allanol am bron i 40 mlynedd.
Ymddeolodd o’i swydd ym 1955, a symud yn ôl i’w fro enedigol, Dolwyddelan. Ni fu iechyd yn hael wrtho, a bu farw ym mis Chwefror 1956. Cafodd ei gladdu yn ôl ei ddymuniad ym mynwent Bryn-y-Bedd. Dyma’r englyn clo yn ei englynion i Fryn-y-Bedd.
Ac yno yn randir Gwynedd- ar dro byr
Daw’r bore i’m orwedd
A daw im yn y diwedd
Raean bwll ym Mryn-y-Bedd.

YR AWDL
‘Y Gaeaf’ oedd testun y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman 1922. Tri John oedd yn beirniadu, sef John Morris-Jones, John. T. Job a John J. Williams. John daeth i’r brig yn y gystadleuaeth hefyd, sef John Lloyd Jones. Awdl sy’n sôn am y gaeafddyddiau o golli ei gariad yw hon, ac roedd yn eithaf hen ffasiwn ei naws yn y cyfnod; yn y dull rhamantaidd oedd yn prysur golli tir i ddyfodiad moderniaeth y beirdd newydd. Yn ôl Alan Llwyd mae hon yn ‘awdl grefftus iawn... ond rhamantus yw’r cywair’.
Fe welwn y grefft yn nechrau’r gerdd wrth i’r bardd agor â chyfres o englynion sydd wedi eu clymu yn gadwyn o un i’r llall. Mae cysylltiadau cofiadwy rhwng yr geiriau olaf un englyn, a geiriau cyntaf y nesaf, er enghraifft
‘A lle’r llu fydd llawr y llan’ a ‘Llawr y llan fydd lle’r llonnaf’
neu ‘A gwenau boreau braf’ a ‘Boreau braf yr haf a’u rhin’.
Mae’r awdl wedi ei rhannu yn dair rhan, sef I- Gaeaf yr oed, II- Gaeaf yr od a III- Gaeaf yr oes. Mae’r rhan gyntaf yn trafod perthynas y bardd â merch o’r enw Enid. Caiff yr amseroedd braf o garu, ble’r oedd Enid yn holliach eu cymharu i’r haf, ond wrth i iechyd Enid ddirywio mae’r haf yn troi’n aeaf ac fe gawn ddarlun diflas a gaeafol o gariad y ddau. Yn yr ail ran cawn awgrym mai’r gaeaf sydd yn gyfrifol am salwch Enid, ac felly’n gyfrifol am negyddiaeth y bardd tuag at y gaeaf. Yn ogystal â hynny fe welwn obaith yn y canu yma, wrth i’r bardd sôn am fynd i’r Swistir i chwilio am iachâd i’w gariad. Y trydydd rhan yw’r tristaf o’r rhannau i gyd. Yma cawn ddarlun o siom a marwolaeth a’r syniad cyffredin o aeaf tragwyddol ar ôl colled. Mae’r awdl yn cloi gyda’r un dechneg a ddefnyddiwyd i’w hagor, sef cadwyn o englynion. Dyma awdl sy’n gampwaith o bensarniaeth, ac yn brawf fod yr athro yn feistr ar y gynghanedd ac yn fardd rhagorol.

Y GADAIR
Heddiw mae’r gadair yn hawlio’i lle yn y festri yn Nolwyddelan, ac yn cael cwmni cadair Bryfdir o Eisteddfod Cymrodyr Dolwyddelan 1923. Roedd John Lloyd Jones yn un o hoelion wyth yr eisteddfod honno, ac fe gawn fwy o hanes yr Eisteddfod yn Nolwyddelan mewn blogiau i ddod.
Mae’n werth mynd am dro i’r festri i gael golwg ar y gadair. Aeth Iestyn a minnau yno yn ddiweddar i dynnu lluniau a rhyfeddu ar ei phrydferthwch. Naws hen ffasiwn sydd iddi, gyda dylanwad yr 1890au yn dod i’r amlwg yn y cerfweithiau manwl a chywrain o eifr ar y breichau, a llewod yn codi uwchben cefn y gadair. Ar y coesau mae patrwm celtaidd, ac mae’n syndod gweld ‘Ammanford’ yn fawr arni, yn hytrach na ‘Rhydaman’.
Er mai fel llysgennad a darlithydd y cofir am John Lloyd Jones yn bennaf, rhaid peidio anghofio am yr awdl wych, a’r gadair haeddiannol sy’n atgof o’i ddawn.
Alun Williams
Rhai ffynonellau fu'n ddefnyddiol wrth ymchwilio i'r hanes yma:
Canrif o Brifwyl, Alan Llwyd - http://www.bbc.co.uk/cymru/canrif/
Dringwn fel ein tadau - hanes eglwys Moriah, Dolwyddelan 1880 - 1980, O. E. Williams
Y Bywgraffiadur Cymreig

Y TYMHORAU fel testunau'r Eisteddfod Genedlaethol...
Pan enillodd Alan Llwyd ei gadair ddadleuol am awdl 'Gwanwyn' yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi 1976 golygai fod cadair Genedlaethol wedi ei hennill ar bob un o'r tymhorau. Yr enwocaf mae'n debyg yw R. Williams Parry a enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn 1910 am awdl 'Yr Haf.' Yna wrth gwrs ym 1922 enillodd John Lloyd Jones ar 'Y Gaeaf' yn Rhydaman, ac yn Eisteddfod Genedlaethol yr Hen Golwyn 1941 cipiodd Rowland Jones (Rolant o Fon) y Gadair am awdl i'r 'Hydref'. Hon yn sicr oedd y wanaf o'r pedair.
Difyr iawn yw nodi na fu tymor erioed yn destun pryddest y Goron.