Derwydd gweinyddol presennol Eisteddfod Talaith a Chadair Powys yw Huw Ceiriog, ond ym 1974, ef oedd bardd cadeiriol Eisteddfod Môn yn Amlwch a'r Cylch.
Y Dr. Thomas Parry oedd beirniad cystadleuaeth y flwyddyn honno, ac fe nododd ar ddechrau ei feirniadaeth mai cystadleuaeth siomedig o ran nifer ydoedd - 4 yn unig a fentrodd i gystadlu. Dyma oedd gofynion y gystadleuaeth:
Cerdd mewn cynghanedd gyflawn heb fod dros 150 o linellau. Testun: "Y Disgwyl."
Erbyn heddiw, mae Eisteddfod Môn yn cynnig cadair am farddoniaeth gaeth neu rydd, a choron am ryddiaith. Yn y cyfnod yma rhoddid y gadair am ganu caeth, y goron am ganu rhydd, ac roedd medal Ryddiaith ar wahan.
Ffugenwau'r sawl a gystadlodd oedd Mingorn Mawr, Dulas, Y Graith Las, a Moab. Dyma flas ar yr hyn yr oedd gan Thomas Parry i'w ddweud am bob un:
Ffugenwau'r sawl a gystadlodd oedd Mingorn Mawr, Dulas, Y Graith Las, a Moab. Dyma flas ar yr hyn yr oedd gan Thomas Parry i'w ddweud am bob un:
'Mingorn,' a ganodd awdl i Ddydd y Farn:
"Ni allaf fi weld bod ynddi ddim ar y testun...y mae'r awdur yn gynganeddwr cywir, medrus yn wir, a chanddo rai llinellau cywrain iawn, fel "Dydd anedwydd eneidiau"...eto i gyd, y mae rhywbeth go fawr ar goll yn y gerdd, a'r peth hwnnw yw swyn neu hyfrydwch mynegiant...ni ellir ystyried Mingorn Mawr yn ymgeisydd teilwng..."
'Dulas,' a ganodd awdl am ddisgwyl yr olew i'r lan ym Môn:
"...[t]inc o ddychan felly mewn ambell bennill yn y gerdd hon, fel hwn, er enghraifft:
Haid o fwlturiaid yn tario - yn hyf
Pob crafanc yn awchio
Ei hangen, yna'r blingo.
Anrhaith brwnt ar draethau bro.
Ond nid yw Dulas yn dweud ei feddwl yn ddigon croyw a phlaen...Ni thâl rhyw aneglurder fel hyn mewn cerdd ddychan...nid yw'r awdur yn sicr o'i gynghanedd bob tro..."
'Y Graith Las,' a ganodd awdl i ddigwyddiadau wedi trychineb glofaol yng Nghynheidre.
"...un well o dipyn na'r ddwy arall, er bod iddi hithau ei gwendidau...y mae'r awdl yn dechrau yn ddigon didramgwydd:
Hyd y gorwelion cwyd gwawr ei haeliau,
mae hi'n newydd uwch henaint simneiau;
daw ohonynt gudynnau llac a'u nod
yw gweu am waelod yr is gymylau.
...yn y pennill nesaf ceir ymadrodd anghymreig...amryw ddarnau y gellir dweud amdanynt fod ynddynt rywfaint o rin y wir awen. Ond y mae yma hefyd lawer o linellau gwan a diysbrydiaeth. Dyma un englyn yn enghraifft:
Fel dyddiau doi'r amheuon - o ble daeth
y dribl-dŵr yr awron?
Y dihareb bryderon,
gwelwyd hwy oll cyn gweld ton.
...y mae ei ffordd o ddweud ei feddwl yn drwsgl ac anfarddonol. Yn anffodus, y mae llawer o'r gwendid hwn yn yr awdl."
Ac yna, 'Moab,' a ganodd ar vers libre cynganeddol ar hanes nifer bychan o Iddewon ym Masada yn disgwyl ymosodiad olaf y fyddin Rufeinig ar eu caer.
"Y mae'r mynegiant yn groyw ac uniongyrchol, heb ddim o'r ymdrechu llafurus a geir weithiau...Ni ellir dweud fod gwaith Moab yn farddoniaeth fawr ac eneinedig. Nid oes dim cywreinrwydd eithriadol yn ei grefft...nid oes dim yn y gwaith sy'n rhoi ysgytiad ffyrnig inni. Ond y mae rhywbeth gonest a dirodres yn y gerdd..."
Dyma glo ei feirniadaeth:
"Ni allaf, a bod yn onest, deimlo'n frwdfrydig iawn ynghylch cerdd Moab. Ond yr wyf yn sicr ei bod yn well o gryn lawer na dim arall yn y gystadleuaeth, a'r peth teg yw imi ddatgan fod Moab yn haeddu'r gadair."
Felly, er nad oedd y beirniad yn gwbl fodlon gyda safon y gystadleuaeth, nac ychwaith yn cael ei gyffroi rhyw lawer gan y gwaith a ddaeth i'r brig, fe fu cadeirio.
Cadair eithaf syml oedd cadair eisteddfod 1974, gyda'r ddraig yn cymryd ei lle ar ganol y cefn, a'r arwyddeiriau 'Y Gwir yn erbyn y Byd,' a 'Cymru Fydd Gymru Rydd' o'i chwmpas. Roedd symbolau traddodiadol eraill sydd i'w gweld ar gadeiriau hefyd yn bresennol, megis mes a dail y dderwen. Roedd y sedd wedi ei chlustogi.
Rhoddwyd y gadair Mr. D. W. Pritchard, Y Berth, Amlwch, ac roedd £25 o wobr ariannol i gydfynd â hi.

Y Gerdd
Ymson Eleasar, un o'r sawl sydd yn aros y frwydr ym Masada, yw 'Y Disgwyl,' ac nid yw'n llawer mwy na chrynhoad o deimladau milwr cyn y gad. Egyr y gerdd fel hyn:
Llonydd yw'r gwyll heno,
wedi stŵr a dwndwr y dydd
yn y gwres islaw'r graig.
Disgrifia'r milwyr fel 'haid o locustaid cyn cad', ac mae'r holl bwyslais ar yr aros hir, ond:
Wedi'r nos ni fydd aros i ddod,
nid oedwn mwy ym Masada.
ac:
Yfory fe ddaw'r llifeiriant,
wedi'r disgwyl, disgwyl bob dydd.
Aberthu eu hunain a wna'r criw bychan o Iddewon sydd yn eu caer, a holl rym byddin y Rhufeiniaid yn eu herbyn, ac mae Eleasar yn croesawu ei ddiwedd wedi'r frwydr hir. Er mai:
Bedd fydd Masada i'm byddin,
mynwent ei meini.
Masada, 'stormus ydwyt,
Masada'r ymosodiad,
mae'r gerdd yn cloi gyda:
Nid arhoswn i rysedd
marwol yfory.
Heno fe laddwn ein hunain,
a chwifiwn faner goruchafiaeth
yn nhŵr yr eryr.
Mae Eleasar yn gwybod ei fod yn disgwyl awr ei farwolaeth, ac mae'n gwybod na wnaiff eto leisio '[rh]yfyg yn erbyn Rhufain / yn ffŵl yng nghanol y ffau.' Mae'n gwybod fod rhywle gwell yn ei aros wedi i'r Rhufeiniaid ei ddifa. Defnyddia hen enw'r Jiwdeaid a'r Samariaid am Dduw - Yahwe, wrth son am y nefoedd:
Yahwe, aros i dywallt
ein gwaed a wnawn yn y gwyll.
Ond onid anwar ein haros?
Gwn, mi wn mai heno
y deuwn, rhedwn yn rhydd
o'n carchar i'r hygar hedd.

Bardd y Goron
John Hywyn Edwards o Fynydd Llandegai oedd bardd coronog yr Eisteddfod. Roedd John Hywyn eisioes wedi dod i amlygrwydd fel bardd dawnus wrth iddo ennill cadair Eisteddfod Genedlaethol Yr Urdd ym 1968, yn ogystal a nifer o gadeiriau mewn eisteddfodau lleol.

Gofynion cystadleuaeth y goron yn Amlwch 1974 oedd casgliad o gerddi ar y testun 'Wynebau.' Yn wahanol i feirniad y gadair, cafodd beirniad y goron, Bryan Martin Davies (Prifardd Coronog 1970 a 1971) ei blesio yn arw gan y safon - "[t]eg yw dweud ar y dechrau fod safon y gystadleuaeth yn fy marn i yn hynod o uchel."
Dyma ei sylwadau ar gerddi buddugol John Hywyn, a gystadlodd o dan y ffugenw 'Y Crëyr Glas':
Dyma ei sylwadau ar gerddi buddugol John Hywyn, a gystadlodd o dan y ffugenw 'Y Crëyr Glas':
"Fe gyflwynir y cerddi hyn "i blant fy nosbarth". Felly, bardd o athro sydd yma yn canu i ddosbarth o blant mewn ysgol gynradd. Yn raddol, fel ddaw unigolion a gweithgareddau'r dosbarth yn fyw o flaen ein llygaid, megis yn y cerddi "Lluniau", "Dwy Joc", "Muscular Dystrophy", a "Ruth". Y tu ol i'r cwbl, y mae yma fardd sy'n sylwedydd craff, yn llawn cydymdeimlad a sensitifrwydd, un sy'n gallu ymdreiddio i fyd plant, a'i ddehongli i ni mewn cerddi sy'n fwrlwm o awgrymusedd cyfoethog. Y mae rhyw naws arbennig yn y canu, sy'n gwneud i'r darllenydd deimlo ei fod yn rhannu rhyw angerdd cyfrin ym mherthynas y plant a'u hathro."
Daw ei feirniadaeth i glo gyda hyn:
"Does dim amheuaeth gen i taw Y Creyr Glas yw bardd gorau'r gystadleuaeth, ac y mae'n bleser gen i ddyfarnu Coron Eisteddfod Mon iddo eleni."
Teilyngdod yn y ddwy brif gystadleuaeth farddoniaeth felly, a'r cynulleidfaoedd yn cael y cyfle i weld dau fardd ifanc yn codi i ganiad y ffanffer. Roedd coron yr eisteddfod yn rhodd gan Mr. Owen Griffiths, Siop Paget, er cof am Mrs. Bessie Griffiths. Fel gyda'r gadair, roedd gwobr ariannol o £25.
Mae cerddi John Hywyn yn gasgliad hyfryd sy'n mynegi pytiau bach o'i fywyd bob dydd, yn rhyfeddu at y plant sydd yn ei ofal. Dyma ddyfynu un gerdd yn ei chrynswth:
Paent
Fe wyliaf
eich syniadau'n diferu
o'r wynebau
a'r dwylo
i'r papur gwyn, gwag,
yn byllau aflonydd o liw.
"Gadewch i un lliw sychu
cyn..."
Ond na!
Mae'r gwyn yn cyfarfod y du
hanner ffordd,
ac mae priodas y glas a'r melyn
yn wyrdd;
a pha ots
os yw'r blotyn du
ar felyn yr haul,
neu staen rhyw frown diofal
yng nghanol y môr,
os mai hyn
yw eich damweiniau.
Paent
Fe wyliaf
eich syniadau'n diferu
o'r wynebau
a'r dwylo
i'r papur gwyn, gwag,
yn byllau aflonydd o liw.
"Gadewch i un lliw sychu
cyn..."
Ond na!
Mae'r gwyn yn cyfarfod y du
hanner ffordd,
ac mae priodas y glas a'r melyn
yn wyrdd;
a pha ots
os yw'r blotyn du
ar felyn yr haul,
neu staen rhyw frown diofal
yng nghanol y môr,
os mai hyn
yw eich damweiniau.
Gwobrau llenyddol eraill
Enillydd y Fedal Ryddiaith am dair stori fer oedd Marged Pritchard o Benrhyndeudraeth, o dan y ffugenw 'Sara'. Y beirniad oedd yr Athro Bedwyr Lewis Jones.
O. Trefor Jones (Llanowain) o Litherland a ddaeth i'r brig gyda'r englyn, ond dyfarnodd Thomas Parry £3 yn unig o'r wobr o £5 iddo, am nad oedd yn credu fod yr englyn yn teilyngu'r wobr lawn. Dyma'r englyn ar y testun 'Llygad':
Aelod, is ael, i wylio - ydyw hon,
Gyda'i hud wrth wincio;
Ond er hyn, ar ryw drist ro
Hi a welir yn wylo.
Aelod, is ael, i wylio - ydyw hon,
Gyda'i hud wrth wincio;
Ond er hyn, ar ryw drist ro
Hi a welir yn wylo.
Iestyn Tyne