Roedd Cybi yn un o feirdd lliwgar Llŷn ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf, ac efallai y byddwch wedi darllen yr erthygl flaenorol ar helynt cadair Eisteddfod Criccieth 1910.
Roedd Eisteddfod y Rhos yn Rhoshirwaun, Llŷn, yn ei hanterth yn y blynyddoedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Fel arfer fe’i cynhelid yn neuadd fawr pentref Rhoshirwaun, ond erbyn 1910 roedd wedi tyfu mor fawr nes:
‘Cynhaliwyd un o’r eisteddfodau mwyaf llwyddianus yma mewn pabell eang a chyfleus dydd Iau. Peth dieithr ond dyddorol anghyffredin, oedd cael y delyn i’r eisteddfod, a gwnaeth y telynor medrus Ap Eos y Berth ei waith yn ganmoladwy'
Yr Herald Cymraeg, 28 Mehefin 1910
Ta waeth am hynny, am eisteddfod 1909 yr wyf i am son, ac yn yr ŵyl honno aeth Cybi a’r gadair adref am benillion ‘Ar Lan y Mor.’ Hyd y gwelaf i dyma’r gadair eisteddfodol gyntaf i Gybi ei hennill, a dyma fy rhesymeg; roedd eisteddfod Y Rhos ar ddiwedd Chwefror 1909, ac enillodd ddwy gadair arall yn ystod y flwyddyn; cadair eisteddfod Pwllheli ym mis Awst, a chadair Nefyn ar y testun ‘Daeargryn’ ym mis Tachwedd. Awgryma Eifion Wyn mewn llythyr ato yn ystod helynt cadair Criccieth y flwyddyn ganlynol y byddai wedi ennill ei bedwaredd cadair pe bai wedi canu pryddest yn hytrach na awdl.
Roedd hi’n eisteddfod arbennig am reswm arall yn ol yr Herald Cymraeg ar yr ail o Fawrth, gyda’r pennawd ‘EISTEDDFOD ARIANAIDD’ yn gosod y cywair:
Roedd hi’n eisteddfod arbennig am reswm arall yn ol yr Herald Cymraeg ar yr ail o Fawrth, gyda’r pennawd ‘EISTEDDFOD ARIANAIDD’ yn gosod y cywair:
‘...tywydd teg, cynnulliadau lluosog, cynnyrchion rhagorol – buwyd yn dathlu mewn rhwysg yr eisteddfod uchod, wedi cyrhaedd ohoni 25 mlwydd oed...yr oedd yr anerchiadau barddol fel ser gwibiog, yn britho y cyfarfod. Mawr ganmolid Eos y Berth am chwareu’r delyn. Rhoddwyd bodlonrwydd cyffredinol yn y gwahanol adranau. Hyderwn y ca sylwadau llywydd y prydnawn ar ddarllen gweithiau beirdd Lleyn sylw dyladwy.’
Elfed oedd beirniad cystadleuaeth y gadair – nid oedd yn bresennol yn yr eisteddfod, ac yn fwy na thebyg byddai Bugeilfardd (‘archdderwydd’ blynyddol a phoblogaidd eisteddfod Y Rhos, Mr R. W. Griffith) wedi darllen ei feirniadaeth i’r gynulleidfa. Roedd deg o feirdd wedi ymgeisio am y wobr, ond y sawl oedd yn dwyn y ffugen ‘Taliesin’ aeth a hi. Yn ol Gwalia ar y cyntaf o Fawrth:
‘Cyrchwyd i’r llwyfan gan Rhosfab a Ianto, a chadeiriwyd mewn rhwysg, o dan arweiniad yr ardderwydd, Bugeilfardd. Cafwyd anerchiadau barddonol gan y beirdd, a chanwyd can y cadeirio gan Mr H. Vaughan Davies.’
Yn y cystadlaethau llenyddol eraill daeth Mr R. Hughes Williams, Gelert Street, Caernarfon yn fuddugol ar y prif draethawd yn amlinellu ‘Diffygion cyfryngau diwylliadol gwerin Lleyn, a’r moddion goreu i’w gwella,’ a daeth Mr G. Williams, Ysgol y Cyngor, Y Rhiw, yn gyntaf am draethawd ar ‘(R)an adloniant yn ffurfiad cymeriad.’ Aeth y wobr am yr englyn hefyd i Cybi, a’r pedair llinell ar ‘Iechyd’ i Ap Huwco, Cemaes. Cystadlaethau difyr eraill sydd wedi disgyn o’n traddodiad erbyn heddiw oedd cerfio coes chwip, pwys o fenyn, ar ‘cravat gweuedig’!
Ond beth am y penillion i ‘Lan y Mor’? Wel, gellir eu darllen yn eu cyfanrwydd yn Gwaith Barddonol Cybi – Cyfrol 1 (Ni esgorodd y teitl gobeithiol hwn ar ail gyfrol, gyda’r bardd yn hytrach yn troi at ei weithiau pwysicaf, sef ei astudiaethau hanesyddol ar waith Beirdd Eifionydd ac eraill wrth fynd yn hŷn) ynghyd â rhai o’i bryddestau cadeiriol eraill cyn 1912, a thoreth o weithiau barddonol eraill. Rwy’n credu ei bod yn weddol saff dweud nad Cybi ar ei ddisgleiriaf yw ‘Ar Lan y Mor.’ Dyma’r bennill gyntaf:
Mae’r tywod mor felyn,
Mae’r awel mor grai,
Lle cyrcha y plentyn
Bryd llanw a thrai;
Lle cyfyd ei gestyll –
I syrthio yn gandryll –
ar lan y môr.
Cerdd eithaf gyffredin ar gyfer y cyfnod yw hi, gyda’r bardd yn defnyddio ei destun er mwyn creu rhyw drosiad o ddyn a’i safle mewn perthynas â Duw. Mae hi wedi ei rhannu yn bump, gyda Chybi yn creu darlun hamddenol o’r môr yn yr adran gyntaf, ond yn ein hatgoffa o berygl a chryfder y dwfr.
Rwy’n cael trafferth dirnad beth yn union mae’r bardd yn ceisio ei ddweud yn yr ail ran, ond mae’n amlwg fod yr ‘enaid’ yn breuddwydio am Gantre’r Gwaelod;
Mewn perlewyg, gwel balasau
Dinas dawel y dyfnderau;
Yna, twrf y llif mawreddus
Yn distewi’r cri gwallgofus.
A’r bardd ymlaen yn y drydedd ran i gwestiynu sut yr ydym yn meddwl am y môr – a dweud fod Duw ei hun yn siarad drwy anferthedd y mor i’r sawl sydd ar ei glannau;
Deallaist ti’r Bywyd –
Tu ol i’r si –
Yn siarad a’th ysbryd
Anfarwol di? –
“Plentyn y traethau
Yw dyn yn awr,
A’i gri o’r glannau
Am eigion mawr!”
Mae’r bedwaredd adran fel rhyw ateb i’r drydedd, fel petai’r unigolyn, neu’r enaid, yn ateb galwad y mor o’r lan:
Ond beth yw dy destyn?
A pheth yw dy gân?
Wrth wrando ‘rwy’n gofyn,
Y gragen lefn, lân?
Ac yna’r mor yn ateb:
“Pan guddio y tonnau
Draeth amser yn lân,
Ym mro y telynau,
Y murmur dry’n gân.”
Mae’r grefft yn glyfar mewn mannau ond mewn gwirionedd annodd iawn i’w ddeall yw’r cyfan, fel petai’r bardd yn ceisio cyfleu neges sydd ddim yn gweddu’r testun ac felly’n crafu gwaelod y gasgen braidd. Rhaid i mi beidio a bod yn rhy annheg er hyn, gan gofio bod heddiw yn wahanol iawn i oes Cybi, ac y byddai darllenwyr mwy crefyddol wedi gweld mwy o oleuni yn ei eiriau.
Mae’r gadair ei hun, sydd bellach wedi dychwelyd i Neuadd Rhoshirwaun ac yn un o blith nifer sydd yn addurno’r llwyfan yno (gweler y dudalen Oriel), yn un tebyg iawn o ran ei fframwaith i gadeiriau Hebron Llŷn 1923, ac Eisteddfod Llafur Llŷn 1924. Awgryma hyn o bosib mai’r un crefftwr neu gwmni oedd yn gyfrifol am eu gwneuthuriad – yn adeiladu’r un ffram sylfaenol bob tro ond yn amrywio’r addurniadau ar y cefn. Mae cefn cadair Cybi o 1909 yn un eithaf anarferol. Mae’r cefn yn dod i bigyn gyda’r gair ‘Eisteddfod’ yn esgyn a disgyn o dan y Nod Cyfrin. Mae’r ddraig yn symbol arferol ar gadeiriau’r cyfnod, ond yn sicr y peth mwyaf gwahanol yw symbolaeth y geifr ar y cefn – gwelwyd geifr weithiau yn rhan o symbolaeth cadeiriau cenedlaethol (Rhydaman 1922, er enghraifft) ond nid yw i’w weld yn aml mewn cadeiriau lleol.
I ddysgu mwy am feirdd Y Rhos (roedd ‘na lawer ohonyn nhw!) buaswn yn sicr yn awgrymu darllen Beirdd y Rhos, gan Catherine M. Roberts. Manylion ar sut i gael gafael ar gopi yma: http://www.rhiw.com/y_pentra/llyn_books/beirdd_y_rhos/beirdd_y_rhos.htm
Iestyn Tyne