Bydd dwy o gadeiriau William Richards (Alfa) yn cael eu gwerthu mewn arwerthiant o eitemau Cymreig gan gwmni Rogers Jones yng Nghaerdydd ar 24 Gorffennaf Eleni.
Lot 14 (chwith, uchod) yn yr arwerthiant yw cadair Eisteddfod Gadeiriol Meirion 1908, celficyn a saerniwyd i'r bardd buddugol gan Owen Tudor, y gwneuthurwr cadeiriau adnabyddus o Ddolgellau.
Lot 15 (dde, uchod) yw cadair Eisteddfod Gadeiriol Siloh, Aberdâr 1918.
Byddai'n wych gweld y ddwy gadair yn cael cartrefi da; gorau oll os oes modd eu prynu a'u harddangos mewn man cyhoeddus, er mwyn i bawb gael eu gwerthfawrogi.
Gellir dod o hyd i holl fanylion yr arwerthiant yma.